'Tafwyl yn rhan bwysig o dwf y Gymraeg yng Nghaerdydd'

Y band ifanc Dadleoli yn chwarae ar y prif lwyfan am y tro cynta yn 2024
- Cyhoeddwyd
Mae Tafwyl yn dathlu ugain mlynedd eleni a dros y penwythnos mae disgwyl i filoedd o bobl i heidio i erddi'r castell yn y brifddinas.
Dros yr ugain mlynedd diwethaf mae'r ŵyl wedi tyfu o gael ei chynnal mewn maes parcio i fod yn un o brif ddathliadau cerddoriaeth Gymraeg Cymru.
Mae'r band ifanc Dadleoli o Gaerdydd wedi'u magu yn y brifddinas ac wedi tyfu gyda'r ŵyl.
"Fe wnes i dyfu lan yng Nghaerdydd a dwi wedi bod yn mynd i Tafwyl ers blynyddoedd. Pan ges i'r cyfle i ffurfio band gyda'r Fenter roedd e'n freuddwyd mewn gwirionedd," meddai Efan Williams, un 'r aelodau.

Dywedodd y prif leisydd Efan Williams fod "clywed pobl yn canu geiriau ein caneuon" yn hynod o arbennig
Fe wnaeth y band Dadleoli ddechrau eu siwrne gyda chymorth Menter Caerdydd.
"Nethon ni ddechrau drwy brosiect 'yn cyflwyno' gyda Menter Caerdydd a nawr rydyn ni'n cael y cyfle i berfformio yn Clwb Ifor Bach ac yn Tafwyl sy'n rhywbeth rydyn ni'n ymfalchio ynddo fe," ychwanegodd Efan.
Artist adnabyddus arall wnaeth ddechrau trwy'r prosiect yw Rose Datta wnaeth ennill cystadleuaeth y Llais 2025.
I Efan, roedd cael yr arweiniad wrth i'r band gael ei sefydlu yn hanfodol.
"Mae hi wedi bod yn hyfryd i gael y gefnogaeth barhaol dros y blynyddoedd ac i gael arweiniad Mei Gwynedd.
"Dwi wastad yn dweud doedden ni ddim yn barod mewn ffordd i gael y llwyfannau mawr yma mor gynnar ond nethon nhw rhoi'r cyfle i ni ddatblygu a dysgu ac mae cael y llwyfan wedi bod yn werthfawr iawn."

I'r prif leisydd Efan Williams, mae'r ffaith bod yr ŵyl yn rhad ac am ddim "yn sicr yn cyfrannu at dwf yr iaith"
Un sydd ag atgofion melys o Tafwyl dros y blynyddoedd ac sydd yn cofio'r ŵyl gyntaf yw Elen Evans.
"Mae'r ŵyl wedi bod yn rhan mor bwysig o fywyd Cymraeg Caerdydd a thwf yr iaith yma dros yr ugain mlynedd diwethaf. Dwi'n credu bod Tafwyl yn destament i'r tyfiant yma."

Elen Evans yn y bandana pinc ar y chwith yn mwynhau'r Tafwyl cyntaf yn 2006
"O ble ddechreuodd Tafwyl ym maes parcio y Mochyn Du i lle ma' fe nawr ma hwnna jyst yn profi sut ma'r iaith wedi diwygio a datblygu dros yr ugain mlynedd diwethaf.
"Dwi wedi mwynhau gallu canu gyda'r ysgol - gyda Plasmawr ac ysgol Pwll Coch. Canu yn y maes parcio i ddechrau - mae'r ŵyl wedi datblygu llawer," ychwanegodd Elen.

Elen a'i mam Eirian yn mwynhau Tafwyl flynyddoedd yn ddiweddarach
Sian Lewis sydd nawr yn brif weithredwr yr Urdd, oedd un o'r rhai fuodd yn rhan o sefydlu'r ŵyl yn wreiddiol.
"Dwi'n cofio es i i gyfarfod Mentrau Iaith Cymru yn Aberystwyth a chwrdd efo criw y Mentrau Iaith a nethon ni drafod gwahanol wyliau Cymraeg.
"Dwi'n cofio am ŵyl o'r enw Llanast Llanrwst, a dwi'n cofio gyrru nôl ar yr A470 a meddwl bod angen yr un peth yng Nghaerdydd," meddai.
Mae Sian yn cofio symud yr ŵyl i'r castell a sut cafodd Tafwyl hwb o fod ar safle mwy.
"Wrth symud yr ŵyl i Gastell Caerdydd roedden ni'n dechrau creu gweledigaeth ddinesig gyffrous i'r Gymraeg yn y ddinas," ychwanegodd.
Tafwyl yn cyhoeddi perfformwyr 2026 wrth ddathlu 20 mlynedd
- Cyhoeddwyd14 Ebrill
Tafwyl am ddim yn 'tynnu pobl mewn i deulu ein diwylliant ni'
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2025
Oriel luniau: Tafwyl 2025
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2025
Bydd mynediad am ddim i'r ŵyl unwaith eto eleni. Ymhlith yr artistiaid mae Candelas, Cowbois Rhos Botwnnog, HMS Morris, Martha Elen, Al Lewis, Taran a Sage Todz.
Bydd digwyddiad arbennig ar y prif lwyfan yn cloi'r ŵyl.
Dywedodd Heulyn Rees, Prif Weithredwr Menter Caerdydd: "Mae cyrraedd 20 mlynedd yn garreg filltir arbennig iawn i Tafwyl.
"Dros ddau ddegawd mae'r ŵyl wedi tyfu o fod yn ddigwyddiad cymunedol i fod yn un o brif ddathliadau diwylliant Cymraeg Cymru.
"Yr hyn sydd wedi aros yr un fath drwy'r cyfan yw ein hymrwymiad i sicrhau bod Tafwyl yn ŵyl agored i bawb.
"Ar adeg pan mae llawer o deuluoedd yn teimlo pwysau costau byw, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn parhau i gynnig mynediad am ddim.
"Rydym am i bawb deimlo'n rhan o'r dathliad hwn ac i brofi'r gorau o gerddoriaeth, diwylliant a'r Gymraeg yng nghanol ein prifddinas."

Dywedodd Bethan Jones-Ollerton, trefnydd Tafwyl: "Wrth edrych yn ôl dros 20 mlynedd Tafwyl, rydym yn hynod falch o'r gymuned sydd wedi tyfu o amgylch yr ŵyl.
"Mae'r rhaglen eleni yn adlewyrchu'r daith honno – o'r 20 digwyddiad ffrinj sy'n ymestyn y dathliadau ar draws y ddinas, i'r cyngerdd arbennig nos Sul sy'n dathlu'r berthynas unigryw rhwng Caerdydd a cherddoriaeth Gymraeg.
"Bydd dychwelyd i Gastell Caerdydd ar gyfer y dathliadau hyn yn arbennig iawn, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu miloedd o bobl i ddathlu gyda ni."