Canfod creaduriaid môr 'syfrdanol o hardd' ar draethau Cymru

Fe wnaeth Frankie Hobro ganfod un o'r creaduriaid -velella velella - ar draeth Trefor
- Cyhoeddwyd
Mae cannoedd o greaduriaid môr glas "syfrdanol o hardd" wedi ymddangos ar hyd rhannau o arfordir Cymru.
Enw'r creadur ydy velella velella ac maent wedi cael eu gweld ar draethau ar Ynys Môn, yng Ngwynedd a Dinbych-y-pysgod.
Dywedodd un ddynes, a wnaeth ganfod un ohonyn nhw ar draeth yn Ninbych-y-pysgod, ei fod "fel crisial".
Dywedodd arbenigwr morol o Sŵ Môr Ynys Môn, Frankie Hobro, fod y creaduriaid yn brydferth ond rhybuddiodd y cyhoedd i beidio â'u cyffwrdd oherwydd eu bod yn gallu achosi pigiad.
Roedd Maxine Allinson, sy'n caru natur, yn cerdded ar draeth yn Ninbych-y-pysgod ddydd Mawrth, pan welodd hi'r creadur am y tro cyntaf.
"Roedd yn wych," meddai'r ddynes 49 oed, "maen nhw mor hardd."

Mae strwythur cyrff y creaduriaid ychydig yn debyg i hwyliau, sy'n dal y gwynt ac yn eu symud ar draws wyneb y cefnfor.
Dyma pam mai'r ffugenw Saesneg amdanynt yw 'By-the-wind sailors' ac maent yn perthyn i'r 'Man o' war' Portiwgalaidd.
Yn ôl Mr Hobro maen nhw'n aml yn cael eu camadnabod fel y rhai Portiwgalaidd, ond mae rhain yn llawer llai, yn "lasach" ac yn "ddiniwed yn gyffredinol".
Ychwanegodd eu bod yn disgleirio os yn dal golau haul a'u bod yn rhywogaeth gymharol gyffredin.
Maen nhw tua 7cm o hyd ac mae ceryntau morol yn eu cario am bellteroedd maith - nid ydynt yn gallu symud eu cyrff ac felly maen nhw'n cael eu golchi i'r lan ar ôl stormydd.
Rhybuddiodd Mr Hobro eto i beidio â'u cyffwrdd - hyd yn oed os yw hi'n ymddangos eu bod wedi marw - gan fod eu celloedd yn parhau i bigo ac yn medru achosi anaf.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Awst 2025

- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2025

- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2024
