Pwy sy'n cofio Fiji yn difetha gwyliau miloedd o Gymry?

Owain JenkinsFfynhonnell y llun, Owain Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Owain a'i ffrindiau yn gwylio Cymru

GanGareth Rhys Owen
Chwaraeon BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Wrth i Gymru baratoi i wynebu Fiji ym Mhencampwriaeth Rygbi'r Cenhedloedd, mae un gêm yn 2007 sy'n sefyll yn y cof. A hynny am resymau anffodus i gefnogwyr Cymru.

"Roedd y daith eisoes wedi ei threfnu" pan y gwnaeth Fiji amharu ar gynlluniau gwyliau miloedd o Gymry.

Mewn hen dafarn, llychlyd yn Harbwr Portsmouth roedd criw o Gymry ifanc â'u pennau yn eu dwylo.

Roedd y sgrin fechan yng nghornel y bar yn darlledu gêm rygbi oedd yn debycach i ffilm arswyd.

Cymru, rhywsut, rhyw ffordd yn colli i Fiji yng ngêm olaf y grwpiau yng Nghwpan y Byd yn Ffrainc.

"Pawb llawn hyder"

Fel miloedd o Gymry eraill roedd Owain Jenkins a'i ffrindiau o Gydweli wedi paratoi o flaen llaw.

Y camperfan wedi ei phacio, tocynnau teithio mewn un boced, tocynnau i'r chwarteri yn y llall. Roedden nhw wedi cyrraedd Portsmouth oriau cyn bod y fferi yn gadael, er mwyn mwynhau gêm olaf y grŵp.

Roedd y gwaith trefnu wedi ei gwblhau, gan fod 'na ddim amheuaeth am y canlyniad.

"Nes i ddim ystyried am eiliad y byddai Fiji yn ennill," meddai Owain oedd yn ei ugeiniau cynnar yn 2007.

"Roedd pawb, gan gynnwys y wasg yn llawn hyder."

Yn wahanol i bryd hynny, y Fijiaid fydd yn dawel hyderus y penwythnos yma.

Mae yna wrthgyferbyniad clir rhwng safbwyntiau'r ddwy wlad cyn wynebu ei gilydd eleni o gymharu â 2007. Yn y cyfnod hwnnw, roedd pawb yn disgwyl buddugoliaeth swmpus i Gymru yn Nantes.

Roedd y cyd-destun yn syml y prynhawn hwnnw: Byddai buddugoliaeth yn sicrhau lle Cymru'r wyth olaf Cwpan y Byd.

Gyda timau y byddai'n gorffen yn gyntaf ac yn ail yn eu grŵp yn chwarae yn Marseille ar y penwythnos canlynol, roedd y cefnogwyr wedi bod yn cynllunio ers misoedd. Roedd hediadau, gwestai a thocynnau i gyd wedi'u prynu.

Nerys a'i ffrindFfynhonnell y llun, Nerys James
Disgrifiad o’r llun,

Nerys a'i ffrind yn Ffrainc

Yn anffodus fe anghofiodd miloedd o gefnogwyr am un ffactor holl-bwysig... y Fijiaid.

Crëwyd hanes wrth i'r tîm o'r Ynysoedd Tawel syfrdanu'r byd rygbi gydag un o'r canlyniadau mwyaf annisgwyl yn hanes y gamp.

Daeth y golled o 38-34 a chyfnod Gareth Jenkins i ben yn ogystal â difetha cynlluniau miloedd o'r cefnogwyr.

"Wrth i'r gêm fynd yn ei blaen fe ddechreuodd y galon suddo" meddai Owain.

"'Nes i hanner jocio yn y dafarn, 'na hi bois, does dim pwynt cario mlân, adre amdani.

"Erbyn y chwiban ola' roedd Gareth Jenkins yn ei chael hi ganddo ni. Ond roedden ni eisoes wedi buddsoddi'n ariannol ac emosiynol yn y daith."

'Rhaid i ni ganslo!'

300 milltir i ffwrdd yn Llanrhystud, Ceredigion, roedd Nerys James hefyd yn gwylio'r gêm ar y fferm deuluol.

Roedd hi hefyd wedi trefnu taith i Marseille. Mae'n chwerthin wrth gofio cymaint o hyder oedd ganddi ar y pryd.

"Ro'n i'n ffan cocky.

"Er ein bod ni di baglu yn y gorffennol, ro'n i'n hollol siŵr basen ni'n curo Fiji.

"Roedd y daith 'di bwcio. Tridiau yn Marseille, gwylio'r gemau a joio'r awyrgylch," meddai.

Yn wahanol i Owain, wnaeth hi ddim ystyried canslo pan chwythodd y chwiban olaf:

"Ffoniodd fy ffrind gan ddweud; mae'n rhaid i ni ganslo.

"'Nes i ateb 'na, a ni'n mynd i gal amser a hanner'," meddai.

Cymru a FijiFfynhonnell y llun, Owain Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Diwrnod y gêm rhwng Cymru a Fiji

Eleri Sion oedd yn cyflwyno ar BBC Radio Cymru yn y Stade de la Beaujoire. Roedd hi wedi cyrraedd y stadiwm yn disgwyl mai'r prif bwnc trafod fyddai canfed cap Gareth Thomas.

"Roedd hi'n grasboeth. Dwi'n cofio dod ar yr awyr 'da'r cyflwyniad mawr: Cam arall tuag at y chwarteri, ie roedd gan Fiji dalent ond Cymru fyddai'n dathlu.

"Pan ddaeth y chwiban ola' roedd pawb 'di'w synnu'n llwyr," meddai Eleri.

Yr her nesaf i wynebu Eleri a'i chydweithwyr oedd ceisio dychwelyd i Gymru.

Mae'n bosib iddi basio Owain a Nerys, oedd yn teithio i'r cyfeiriad arall.

Fe aeth Owain a'i ffrindiau ar gylchdaith o amgylch Ffrainc gan fynychu gemau a chael blas ar fywyd y wlad. Roedd Nerys yn llwyr fwriadu mwynhau hefyd.

"Mae'n teimlo fel un o'r trips gorau.

"Doedd yna ddim pwysau, ro'n i'n teimlo fel twristiaid. Weithiau mae bod yn gefnogwr yn waith caled.

"Mae Cymru wastad yn baglu. Dwi'n cofio'r 1980au a'r 1990au, ond falle wedi Camp Lawn 2005 fe ymlacion ni ychydig," meddai Nerys.

Bydd dim ymlacio ar y penwythnos yma. Fiji yw'r ffefrynnau clir, gyda chefnogwyr Cymru bellach yn ymwybodol o'r perygl o'u diystyru.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb: