Miloedd ar strydoedd Abertawe ar gyfer angladd Bonnie Tyler
- Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o’r llun, Cafodd yr arch ei dylunio gan deulu Tyler gan geisio adlewyrchu ei chariad at gerddoriaeth gyda meicroffon a chleff y trebl i'w gweld ar naill ochr
1 o 4
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth miloedd o ffans o bob cwr o'r byd ymgynnull yn Abertawe ddydd Llun ar gyfer gwasanaeth i ddathlu bywyd y gantores enwog, Bonnie Tyler.
Bu farw'r gantores yn "annisgwyl" ar 8 Gorffennaf, yn 75 oed, mewn ysbyty ym Mhortiwgal.
Roedd gwasanaeth yn cael ei gynnal yn Eglwys y Santes Fair, yn Abertawe, ond hefyd yn cael ei ffrydio ar-lein ac roedd modd ei gwylio ar sgriniau mawr y tu allan i'r eglwys.
Yn ddiweddarach fe wnaeth yr orymdaith angladdol deithio i Sgiwen, Castell-nedd Port Talbot, lle cafodd Tyler ei geni, ac fe gafodd y teulu wasanaeth preifat yno.
Daw hyn ar ôl i dorfeydd ymgasglu ddydd Sadwrn er mwyn ffarwelio â hi wrth i'w harch gael ei chludo drwy ardal y Mwmbwls.
Daeth Bonnie Tyler yn enwog yn dilyn sawl cân lwyddiannus yn ystod y 1970au a'r 80au, a hi oedd y Gymraes gyntaf i gael rhif un yn America - gyda'i chân o 1983, Total Eclipse of the Heart, yn cyrraedd brig y siartiau ar ddwy ochr yr Iwerydd.
Disgrifiodd Tywysog Cymru hi fel "eicon Cymreig balch", wrth i'r actores Catherine Zeta-Jones ei disgrifio fel "artist unigryw". Ond "Gaynor i fyny'r ffordd" oedd hi i bobl leol y Mwmbwls.

Roedd cannoedd o gefnogwyr Bonnie Tyler yn gwylio ei thaith olaf yn Y Mwmbwls ddydd Sadwrn
Roedd llawer o bwyslais ar hunaniaeth Gymreig Tyler - gyda chaneuon Cymreig enwog yn cal eu chwarae ar yr organ cyn y gwasanaeth, gan gynnwys caneuon gan Tom Jones, Shirley Bassey a Tyler ei hun.
Roedd côr Only Men Aloud yn canu ei chân boblogaidd Total Eclipse of the Heart a chân Simon a Garfunkel, Bridge Over Troubled Water, cyn i'r gynulleidfa hefyd gael cyfle i ganu'r emyn Calon Lân.
Wrth i'r arch adael yr eglwys roedd cân oedd yn agos at galon Tyler yn cael ei chwarae - sef y gân lwyddiannus o 1969 gan Mary Hopkin, Those Were The Days.
Perfformiodd hi'r gân mewn cystadleuaeth dalent yn Sgiwen pan oedd hi'n ifanc.
Gan fod y ddwy gantores yn dod o'r un ardal, newidiodd Tyler ei henw - Gaynor Hopkins oedd ei henw go iawn - er mwyn osgoi unrhyw ddryswch gyda Hopkin.

Mae Jane Price yn cofio gweld Bonnie Tyler yn aml wrth siopa yn y pentref
Wrth i'r orymdaith ddechrau ddydd Sadwrn roedd y gân Total Eclipse of the Heart yn atseinio ar y stryd a'r dorf yn cymeradwyo.
Fe gymerodd nifer o bobl y cyfle i roi teyrngedau.
Dywedodd Maggie sy'n gweithio yn Ystumllwynarth fod cerddoriaeth Bonnie Tyler yn bwysig i'r ardal a'i bod "bob amser yn hyfryd os oeddech chi'n dod ar ei thraws hi".
Ychwanegodd Andrea sydd o Fryn-coch ger Sgiwen: "Fe dyfon ni lan gyda'i cherddoriaeth ac mae'n bwysig i ni ddod yma i dalu teyrnged iddi."
Dywedodd Jane Price y "bydd colled fawr ar ei hôl".
"Roedd hi'n gwneud chi'n falch, gwybod bod Bonnie yn rhan o'r pentref ac yn rhan o Abertawe.
"Mae mor drist nad yw hi gyda ni bellach, ond bydd ei chof yn sicr o fyw ymlaen yma."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf



