Arestio dyn mewn cysylltiad â diflaniad dyn coll gan archwilio safle hen ffatri

Cafodd Ricky Lee Harris ei weld ddiwethaf mewn lluniau CCTV tua 14:20 yn ardal Maes-Y-Deri, Aberdâr ar 18 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd
Mae ditectifs sy'n archwilio i ddiflaniad dyn yng Nghwm Cynon dros ddwy flynedd a hanner yn ôl wedi arestio dyn ar amheuaeth o atal claddedigaeth gyfreithiol.
Roedd Ricky Harris yn 31 oed pan gafodd ei weld ddiwethaf mewn lluniau CCTV yn Aberdâr ar 18 Tachwedd 2023.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod dyn 41 oed o Aberpennar, sydd yn y ddalfa ar hyn o bryd, hefyd wedi ei arestio ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder mewn cysylltiad â'r diflaniad.
Mae'r llu yn cynnal archwiliadau ar safle'r hen ffatri Phurnacite yn Abercwmboi ac yn disgwyl i'r gwaith hwnnw "gymryd cryn amser".
Mae teulu Mr Harris wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf ac yn cael cefnogaeth gan swyddogion heddlu.
Ychwanegodd y llu fod yr ymchwiliad i'r achos yn un "drylwyr" a bod swyddogion "yn adolygu gwybodaeth newydd yn gyson".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.