Dau ddyn arall yn ymddangos yn y llys ar gyhuddiadau o lofruddio dyn 18 oed

Liam Thomas (chwith) ac Elliot TrueloveFfynhonnell y llun, Athena
Disgrifiad o’r llun,

Ymddangosodd Liam Thomas (chwith) ac Elliot Truelove yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Mercher

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn arall o ardal Abertawe wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiadau o lofruddio a cheisio llofruddio mewn cysylltiad â marwolaeth dyn 18 oed.

Bu farw Ceiran Evans, 18, wedi gwrthdrawiad rhwng car a beic ar Ffordd Pen Cae Crwn yng Ngorseinon ar 9 Gorffennaf.

Ymddangosodd Elliot Truelove, 33 oed o West Cross, a Liam Thomas, 18 oed o Dreforys yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Mercher.

Fe ymddangosodd Tyler Ford, 18 oed o Dreforys, Abertawe, yn Llys y Goron Abertawe fis diwethaf yn wynebu'r un cyhuddiadau.

Ceiran EvansFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Ceiran Evans yn dilyn gwrthdrawiad ar 9 Gorffennaf

Yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Mercher fe siaradodd Mr Truelove a Mr Thomas i gadarnhau eu henwau, eu hoedrannau a'u cyfeiriadau yn unig.

Mae'r ddau'n cael eu cadw'n y ddalfa ac mi fydden nhw'n ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Danielle Thorne fod yr ymchwiliad yn un "cymhleth i ddigwyddiad sydd wedi bod yn hynod drawmatig i deulu Ceiran Evans ac i gymuned ehangach Gorseinon".

"Mae'r cyhuddiadau ychwanegol yma yn ddatblygiad sylweddol arall wrth i ni geisio deall yr amgylchiadau a wnaeth arwain at farwolaeth Ceiran.

"Diolchwn unwaith eto i'r gymuned leol am eu cymorth gyda'r ymchwiliad."