Ateb y Galw: Heledd Gwynn

Heledd Gwynn
- Cyhoeddwyd
Yr actores Heledd Gwynn sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw.
Heledd sy'n chwarae cymeriad Alex yn ail gyfres y ddrama boblogaidd Anfamol sydd ar gael i'w gwylio ar BBCiPlayer ar hyn o bryd.
Beth yw eich atgof cyntaf?
Darllenais i rhywbeth mor ddifyr diwrnod o'r blaen: bob tro chi'n cofio rhywbeth, mewn gwirionedd cofio y tro dwetha i chi feddwl amdano ydych chi - nid yr atgof gwreiddiol.
Felly, mae'r atgof yn cael ei ddyfrhau mewn ffordd neu ei fireinio y mwya' chi'n ei gofio.
Arhosodd hwna gyda fi achos dyna dwi'n teimlo am atgofion plentyndod.
I fi, dwi'n cofio llais hyfryd Mam yn darllen straeon i fi cyn gwely. Gwrach y Rhibyn, Cerddi o'r Caribî, a chanu Mae Gen i Long Fach Arian.

'Fi a Mam'
Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?
Traeth Poppit yn Llandudoch.
Mae'n fan dwi wedi bod yn mynd iddo fel merch fach; trwy fy arddegau gyda fy ffrindiau; oedd e'n hafan rhwng swyddi actio yn fy ugeiniau; a nawr mae'n draeth dwi'n ymweld gyda fy mhlant fy hun.
Mae rhywbeth pwerus am fod mor gyfarwydd ag un lle - ti'n teimlo fod e'n dy nabod di yr un fath.
Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?
Y ddwy noson o eni fy meibion.

'Fi fel Mam'
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.
Empathetig. Perffeithydd. Breuddwydiwr.
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?
Dwi wedi ffeindio dewis un digwyddiad yn rhy anodd - sori!
Ond dwi'n gwenu wrth feddwl 'nôl am y gwaith creadigol dwi wedi gwneud.
Comisiynau celf amrywiol a phob un cynhyrchiad dwi wedi bod yn rhan ohono.
Mae pob sioe theatr neu raglen deledu yn rhyw boced o amser sbesial na chei di fyth ei brofi eto. Ond mae'r ffrindiau'n aros.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?
Ma' 'na ormod o rhein - dwi'n fagned i bethe embarrassing.
Ond eto, dwi'n lwcus, dwi ddim yn teimlo llawer o gywilydd am bethe yn gyffredinol. Felly, doedd hwn ddim yn erchyll, ond mae'n neud i fi chwerthin...
Ar fy ngwyliau cyntaf gyda fy mhartner Aled, aethon ni i Baris a tretio'n hunen i ymweld â'r Moulin Rouge.
Mae yna risiau lawr i'r ardal cynulleidfa, ac ar dop y grisiau oedd 'na ddyn golygus Ffrengig nath estyn llaw allan i fi.
Dyma fi'n estyn fy llaw allan yn osgeiddig i ddal ei law yntau a chael fy nhywys lawr y grisiau - felsen i yn Nicole Kidman. 'Non Madame. Can I have your ticket please?'.
O'dd Aled yn meddwl odd y peth yn hilariws. Ond chware teg odd y dyn yn hefyd - a nath e dywys fi lawr y grisiau 'ta beth.

'Chwarae rhan Hedda Gabler yn Theatr y Sherman'
Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
O wrando ar y gofodwyr wnaeth hedfan o amgylch y lleuad yn ddiweddar yn siarad mor athronyddol am y profiad.
Ma' pethe fel'ny yn fy atgoffa pa mor wyrthiol yw hi bod ni yma o gwbl.
Y foment 'nath gael i fi grio oedd pan wnaeth un ohonyn nhw enwi crater disglair ar ôl gwraig un o'i gyd-ofodwyr a buodd farw tra o'n nhw yn hyfforddi am y daith, ac yna wnaethon nhw ddal ei gilydd yn y gofod.
Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?
Heb os - gorfeddwl. Mae'n felltith. A pheidio rhoi caeadon 'nôl ar jarie marmalêd.
Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
Dwi'n dwlu ar bob math o gerddoriaeth - Cat Empire, Luhnasa, Chicago (y band nid y sioe gerdd), Georgia Ruth, Billy Joel.
Ond un albwm dwi wir yn dwlu arni yw Norah Jones - Come Away With Me. Ma' hi 'di bod yn y car gen i ers gadael gartre felly mae hi di bod yn ffrind cyson.

'Cefn llwyfan yn yr RSC yn 'neud The Tempest'
Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?
Fy nhad, jest i gal sgwrs arferol dros baned yn yr ardd.

'Llun o Dad'
Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi yn gollwr gwael.
Does dim llawer o bobl yn gweld y bwystfil 'neith godi ei ben os dwi'n colli gêm.
Roedd amser Covid yn llawn nosweithiau pwdlyd ar ôl i fi ddechrau chwarae gwyddbwyll.
Fe gyrhaeddodd e bwynt lle o'n i'n gwrthod siarad gyda unrhywun a gwrthod mynd i gysgu tan i fi ennill gêm. Dwi 'di cael gair da'n hunan ers 'ny.
Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?
Priodi yng nghwmni ein plant a phob un o'n teulu a ffrindiau.
Picnic a pharti enfawr i ddilyn - a nofiad porcyn yn y môr wrth i'r haul fachlud.

'Llun teulu ar draeth Aberystwyth'
Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?
Unrhyw lun o fy mhlant ar lan y môr.
Dwi'n teimlo fel fi fy hun ar draeth, ac mae gweld nhw yn dywod i gyd ac yn teimlo yr un rhyddid yn dod â hapusrwydd mawr.
Dyma un o fy ffefrynnau - Myfyr ar draeth Horton ar y Gŵyr sef un o hoff draethau ei fam-gu.

'Fy hoff lun o Myfyr ar draeth Horton'
Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Fy ffrind o ddyddie ysgol, Matilda.
Mae hi'n seicotherapydd dawns ac yn meddwl am y byd mewn ffordd mor eang, dwys, chwilfrydig a charedig.
Bydden i'n mwynhau gweld y byd o'i safbwynt hi am ddiwrnod.

'Fi a fy ffrind, Matilda'
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd18 Mai

- Cyhoeddwyd11 Mai

- Cyhoeddwyd7 Mai
