'Talwch iawndal yn fuan i is-bostfeistri allu symud ymlaen'

Dewi Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Dewi Lewis ei garcharu ar gam yn 2011 ond ni chafodd yr euogfarn ei diddymu tan eleni

GanJanet Ebenezer
Newyddion BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae cyn is-bostfeistr o Wynedd wedi apelio ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod iawndal yn cael ei dalu i'r holl is-bostfeistri gafodd eu heffeithio gan sgandal system gyfrifiadurol Horizon cyn gynted â phosib.

Aeth Dewi Lewis i'r carchar am bedwar mis yn 2011 ar ôl cael ei gyhuddo ar gam o ddwyn dros £50,000 gan Swyddfa'r Post.

Bu'n rhaid aros tan fis Awst eleni cyn i'w euogfarn gael ei dileu.

Ddydd Mawrth bydd Mr Lewis yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Dethol Busnes Tŷ'r Cyffredin ac yn y cyfamser mae'n galw ar y llywodraeth i sicrhau bod y taliadau'n cael eu gwneud ar frys.

Dywed Llywodraeth y DU eu bod "yn gweithio'n ddiflino... i sicrhau iawndal llawn, teg a chyflym" i is-bostfeistri fel Mr Lewis.

Dywedodd Mr Lewis: "Ma' rhai teuluoedd dal yn dioddef a'r apêl ydy i'r llywodraeth rŵan 'neud yn siŵr bod nhw'n cael y taliadau allan i bawb mor fuan â phosib er mwyn i bawb symud ymlaen efo'u bywydau mor fuan â phosib.

"Ma' hynny'n apêl go iawn.

"Gobeithio y bydd 'na wersi mawr yn cael eu dysgu, ond ma' rhywun yn bryderus bod yr Ysgrifennydd Iechyd ishe digideiddio popeth a bod gwybodaeth meddygaeth pawb yn mynd i fod yn nwylo'r cyfrifiadur.

"Gobeithio na fyddan nhw'n 'neud yr run un camgymeriadau eto."

'Teuluoedd wedi dioddef yn enbyd'

Dywedodd Mr Lewis ei fod yn croesawu cyhoeddiad y Canghellor yr wythnos ddiwethaf yn clustnodi £1.8bn ar gyfer y rhai sydd wedi'u heffeithio gan sgandal Swyddfa'r Post.

Ond ychwanegodd ei fod yn gobeithio y bydd y broses nawr yn symud yn gynt, ac y bydd 'na amserlen i dalu pawb cyn gynted â phosib.

"Mae llawer iawn ohonyn nhw'n hŷn na fi ac ma' 'na deuluoedd wedi dioddef yn enbyd," meddai.

Mae Mr Lewis yn disgwyl iawndal ers mis Awst ac ar ôl "tipyn o gwyno gan gyfreithwyr ac aelodau seneddol" dywedodd bod y taliad cyntaf newydd grrraedd ei gyfrif banc.

Ychwanegodd ar raglen Dros Frecwast bod y swm mae e'n gobeithio ei derbyn "yn gymesur â ryw £600,000" a'i fod wedi penderfynu "peidio cwffio am fwy er mwyn symud ymlaen gyda'i fywyd".

"Dwi isio tynnu llinell o dan yr holl beth. Gallai cwffio am fwy o bres gymryd dwy neu dair blynedd arall. Digon 'di digon.

"Dwi eisiau symud ymlaen gyda phethau fel datblygu economaidd, heddwch a chynaladwyedd er budd pobl eraill."

Liz Saville Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae AS Dwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts yn cefnogi galwad Dewi Lewis am dalu'r iawndal mor fuan â phosib

Yn ôl yr AS lleol, Liz Saville Roberts mae Mr Lewis "wedi dioddef gymaint - pam felly bod rhaid iddo fo frwydro i gael yr arian sy'n ddyledus iddo fo?"

"O un llywodraeth i’r llall, ar ôl cyllideb, dal yn gorfod brwydro.

"Mi ddyle fo fod yn glir ac yn syml i'r is-bostfeistri sy 'di dioddef: faint o arian mae nhw'n ei gael, yr hyn ma' nhw'n gorfod 'neud i gael o, a bod 'na ddim byd yn cael ei golli ar hyd y ffordd."

Is-bostfeistri wedi i'r Llys Apêl ddileu euogfarnau yn 2011Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cyn is-bostfeistri o flaen y Llys Apêl yn 2021 ar ôl i'w heuogfarnau gael eu dileu, gan gynnwys dau o Ynys Môn - Lorraine Williams a Noel Thomas

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Busnes a Masnach Llywodraeth y DU eu bod yn cydnabod "na fydd unrhyw faint o iawndal fyth yn ddigon" i is-bostfeistri "sydd wedi gorfod dioddef caledi neu hyd yn oed cyfnod mewn carchar, fel Mr Lewis".

Mae'r is-bostfeistri, meddai, "wedi aros yn rhy hir i dderbyn iawndal", ac mae'r llywodraeth "yn gweithio'n ddiflino... i sicrhau iawndal llawn, teg a chyflym" i is-bostfeistri fel Mr Lewis wedi diddymiad eu heuogfarnau.

Ychwanegodd bod £363m eisoes wedi ei dalu i dros 2,900 o hawlwyr trwy bedwar o gynlluniau iawndal gwahanol.