'Ofnus' ar ôl i ladron dargedu fferm ddwywaith mewn dau ddiwrnod

Eifiona Elias
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Eifiona Elias ei bod wedi teimlo'n 'ofnus i feddwl bod 'na bobl o'ch cwmpas chi pan 'da chi yn y gwely'n cysgu - 'di o'm yn deimlad braf o bell ffordd'

  • Cyhoeddwyd

Mae ffermwraig o Ynys Môn sydd eisoes wedi dioddef lladrad gwartheg gwerth £20,000 wedi siarad am deimlo'n ofnus ar ôl i ladron dargedu fferm y teulu ddwywaith mewn cyfnod o ddau ddiwrnod yr wythnos ddiwethaf.

Dywedodd Eifiona Elias o Lanerchymedd fod tri pherson wedi mynd ar ei fferm yn ystod oriau mân y bore a dwyn allweddi cerbydau cyn dychwelyd y noson ganlynol i geisio dwyn beic cwad.

Daeth yr allweddi yn ôl wedi i'r teulu gyhoeddi lluniau teledu cylch cyfyng ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar ôl derbyn neges ddienw yn dweud wrthynt ble i'w canfod.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi lansio ymchwiliad i'r digwyddiad ar ôl adroddiad am ladrad o fferm yn ardal Llanerchymedd ar 18 Mehefin.

Dau oen bach mewn sied
Disgrifiad o’r llun,

Mae lladradau da byw a pheiriannau amaethyddol wedi cynyddu yng Nghymru yn ôl ffigurau diweddar

Dywedodd Ms Elias fod y teulu wedi sylwi'n gyntaf fod allweddi'r telehandler a'r beic cwad ar goll cyn canfod olion traed dieithr ar y fferm a gwirio'r camerâu cylch cyfyng.

Wrth adolygu'r ffilm, gwelwyd tri pherson gyda thortshys yn symud o amgylch yr adeiladau ac yn cymryd yr allweddi yn ystod oriau mân bore dydd Iau.

Dywedodd fod yr un dynion wedi dychwelyd y noson wedyn gyda'r bwriad o fynd â'r beic cwad ond eu bod wedi methu â'i symud yn bell cyn ei adael mewn cae gerllaw.

Wrth ddisgrifio ei hymateb i weld y lluniau teledu cylch cyfyng, dywedodd Ms Elias ei bod wedi teimlo'n "ofnus i feddwl bod 'na bobl o'ch cwmpas chi pan 'da chi yn y gwely'n cysgu - 'di o'm yn deimlad braf o bell ffordd."

Ychwanegodd fod y profiad wedi effeithio ar ymdeimlad y teulu o ddiogelwch ac wedi gwneud iddynt deimlo nad ydynt yn cael llonydd i fynd o'u gwaith bob dydd.

CCTV o'r nosonFfynhonnell y llun, Eifiona Elias
Disgrifiad o’r llun,

Wrth adolygu'r ffilm, gwelwyd tri pherson gyda thortshys yn symud o amgylch yr adeiladau ac yn cymryd yr allweddi yn ystod oriau mân bore dydd Iau

Dywedodd Ms Elias fod yr allweddi wedi cael eu dychwelyd ar ôl i'r teulu dderbyn neges oddi wrth gyfrif Facebook ffug yn awgrymu eu bod wedi'u cuddio mewn bin ar y fferm.

"Mae o ychydig bach yn scary bo' rhywun yn eich dilyn chi ar Facebook ac yn creu account ffug, yn gw'bod yn iawn yn amlwg pwy ydyn ni."

Eifiona Elias
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Eifiona Elias ei bod wedi teimlo'n 'ofnus i feddwl bod 'na bobl o'ch cwmpas chi pan 'da chi yn y gwely'n cysgu - 'di o'm yn deimlad braf o bell ffordd'

Mae'r digwyddiad yn digwydd lai na phedair blynedd ar ôl i 14 o wartheg y teulu gael eu dwyn mewn lladrad soffistigedig ym mis Rhagfyr 2022.

Dywedodd: "Ar y funud 'da ni ddim yn teimlo ein bod ni'n cael llonydd i 'neud be' 'da ni'n 'neud o ddydd i ddydd.

"Heddwch i gario 'mlaen ma' rhywun isio - dim rhoi amser i mewn i wylio camerâu a chwilio am bobl sy'n dod i mewn i gymryd petha' 'da chi'n gweithio'n galed i'w gael."

fferm
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ms Elias: "Ar y funud 'da ni ddim yn teimlo ein bod ni'n cael llonydd i 'neud be' 'da ni'n 'neud o ddydd i ddydd"

Ar ôl ymchwiliad hir gan Dîm Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Gogledd Cymru, cafodd y gwartheg eu darganfod ar fferm yn Stoke-on-Trent lle llwyddodd y teulu i'w hadnabod ymhlith cannoedd o anifeiliaid eraill cyn i brofion DNA gadarnhau eu perchnogaeth.

Ym mis Mawrth eleni cafodd pum dyn eu dedfrydu am eu rhan yn y lladrad, a ddilynwyd yn ddiweddarach mewn rhaglen arbennig o Y Llinell Las ar S4C.

Yn ôl ffigurau NFU Mutual, gostyngodd cost troseddau cefn gwlad yng Nghymru 21% yn ystod 2025 i £2.2 miliwn.

Ond er gwaethaf y gostyngiad cyffredinol, cynyddodd cost lladradau peiriannau amaethyddol fel tractors a beiciau cwad 6%, tra bod cost lladradau da byw wedi cynyddu bron 7% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru: "Lansiwyd ymchwiliad yn dilyn adroddiad am ladrad o fferm yn ardal Llanerchymedd ddydd Iau, 18 Mehefin.

"Yn dilyn yr adroddiad i'r heddlu, cafodd yr eitem a oedd wedi'i dwyn ei dychwelyd i'r perchennog a thynnwyd y gŵyn yn ôl wedyn gan y dioddefwr."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.