Carcharu dyn am achosi anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad 140mya

Max DangerfieldFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-powys
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dangerfield wedi ei wahardd rhag gyrru am 50 mis

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn ifanc wedi cael ei ddedfrydu i ddwy flynedd a phedwar mis mewn sefydliad troseddwyr ifanc ar ôl achosi anafiadau "catastroffig" i yrrwr tacsi mewn gwrthdrawiad.

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Max Dangerfield, 20, yn gyrru ar gyflymder o dros 140mya pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad toc cyn 04:30 ar fore 25 Ionawr y llynedd.

Fe yrrodd Dangerfield i mewn i gefn tacsi ar yr A48 ger Cross Hands gan achosi sawl anaf difrifol i'r gyrrwr - gan gynnwys gwaedu ar yr ymennydd, twll yn ei ysgyfaint ac asennau wedi torri.

Dywedodd y barnwr ei bod hi'n "gwbl anesboniadwy" pam y byddai rhywun yn gyrru ar y fath gyflymder.

Cyflymder o dros 141.67mya cyn y gwrthdrawiad

Clywodd y llys fod Max Oliver Ianto Dangerfield, oedd yn 18 oed ar y pryd, yn gyrru i'r gampfa "er mwyn cael gwared a'i rwystredigaeth" pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Dywedodd yr erlyniad fod car BMW Dangerfield wedi pasio car heddlu plaen ar yr A48 ar gyflymder o thua 100mya, ac er i'r swyddogion gyflymu i geisio'i ddilyn fe gollon nhw olwg o'r car.

Wrth iddynt geisio dod o hyd i'r BMW fe sylwodd y swyddogion ar falurion ar y ffordd cyn iddynt weld tacsi wedi ei ddifrodi yn sylweddol ar ochr y lôn.

Roedd dwy ferch wedi gallu dod allan o'r tacsi yn ddiogel, ond roedd y gyrrwr yn anymwybodol ac yn sownd yn y cerbyd.

Yn ôl yr erlyniad, roedd data gan BMW yn dangos fod y car yn teithio ar gyflymder o 141.67mya pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad a bod ymchwiliadau fforensig yn awgrymu ei fod yn mynd yn gynt na hynny cyn y digwyddiad.

Bu'n rhaid i'r gyrrwr gael sawl llawdriniaeth yn sgil ei anafiadau niferus a bu'n gaeth i'w wely am chwe mis.

Dywedodd mewn datganiad fod y digwyddiad wedi cael "effaith enfawr" arno ef a'i deulu, ac er ei fod bellach wedi dychwelyd i'w waith mae wedi gorfod gwneud hynny yn rhan amser.

Roedd Dangerfield o Gwm Lliedi, Llanelli eisoes wedi pledio'n euog i gyhuddiad o yrru yn beryglus. Dywedodd ei fargyfreithiwr ei fod yn edifar am yr hyn ddigwyddodd ac y byddai'n croesawu'r cyfle i ymddiheuro i'r gyrrwr arall wyneb yn wyneb.

Yn ogystal â chyfnod mewn sefydliad troseddwyr ifanc, mae Dangerfield wedi ei wahardd rhag gyrru am 50 mis a bydd rhaid iddo basio prawf gyrru estynedig cyn derbyn trwydded.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.