Cwpl wedi marw o 'drawma sylweddol' mewn gwrthdrawiad awyren yng Ngwynedd

Roedd Ketan Swali yn un o'r ddau fu farw yn y digwyddiad
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed y bu farw cwpl priod o ganlyniad i drawma sylweddol mewn gwrthdrawiad awyren fach ger Trawsfynydd ddydd Gwener.
Bu farw Sheetal Keton Swali, 55, a Ketan Ashwinkumar Swali, 59, a oedd yn teithio yn yr awyren, yn y fan a'r lle.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod wedi cael adroddiadau tua 12:00 ddydd Gwener nad oedd yr awyren, a oedd yn teithio o faes awyr yn Lloegr, wedi cyrraedd Maes Awyr Caernarfon fel y disgwyl.
Wrth agor y cwest, dywedodd y Crwner Cynorthwyol, Sarah Riley fod y ddau yn teithio o faes awyr yn Burton-upon-Trent ac i fod i lanio ym Maes Awyr Caernarfon.

Roedd y cwpl wedi llogi'r awyren Piper PA28 yma gan Glwb Hedfan Sherwood
Yn dilyn adroddiadau nad oedd yr awyren wedi cyrraedd Caernarfon fel y disgwyl, cafodd archwiliadau eu cynnal o'r awyr ac ar y ddaear gan nifer o asiantaethau.
Cafodd yr awyren ei chanfod mewn "lleoliad anghysbell" ger Trawsfynydd.
Bu farw Sheetal Keton Swali, 55, a Ketan Ashwinkumar Swali, 59, a oedd yn teithio yn yr awyren, yn y fan a'r lle.
Wrth agor y cwest, dywedodd y crwner cynorthwyol fod Mr a Mrs Swali yn byw yn Syston, Sir Gaerlŷr.
Roedd y ddau wedi llogi awyren Piper PA28 gan Glwb Hedfan Sherwood ac yn teithio o faes awyr Tatenhill yn Burton-upon-Trent i Gaernarfon.
Roedd aelodau o deulu Mr a Mrs Swali wedi ymuno â'r cwest ddydd Mawrth drwy gyswllt fideo.
Enwi'r ddau fu farw wedi gwrthdrawiad awyren fechan yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Dau wedi marw mewn gwrthdrawiad awyren fach yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
Nododd Ms Riley: "Fe wnaeth gwylwyr y glannau alw Heddlu Gogledd Cymru gydag adroddiadau o wrthdrawiad awyren posib."
Cafodd safle'r gwrthdrawiad ger Trawsfynydd ei leoli gan y gwasanaethau brys ac fe gafodd Mr a Mrs Swali eu cadarnhau'n farw am 14:15 ddydd Gwener.
Fe gafodd y ddau eu hadnabod yn ffurfiol gan batholegydd y Swyddfa Gartref, Dr Brian Rogers yn Ysbyty Glan Clwyd.
Fe gadarnhaodd y crwner fod Dr Rogers wedi nodi achos marwolaeth dros dro y ddau fel marwolaeth o ganlyniad i drawma sylweddol yn dilyn gwrthdrawiad (major impact trauma).
Mae'r corff sy'n ymchwilio i ddamweiniau awyr, yr Air Accidents Investigation Branch (AAIB) yn cynnal ymchwiliad i'r digwyddiad.
Cafodd y cwest ei ohirio tra bod yr AAIB yn cynnal eu hymchwiliadau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.