Gwasanaeth bws newydd rhwng y gogledd a'r de i ddechrau fis Hydref

Bws TaithCymruFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

TaithCymru ydy enw'r gwasanaeth newydd rhwng Bangor a Chaerfyrddin

  • Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd gwasanaeth bws newydd i gysylltu gogledd a de Cymru yn dechrau fis Hydref.

Bydd TaithCymru - enw swyddogol y gwasanaeth newydd - yn rhedeg bob dydd rhwng Bangor a Chaerfyrddin.

Mae disgwyl i'r daith gymryd rhwng pedair awr a thri chwarter a phum awr, gan alw yng Nghaernarfon, Porthmadog, Dolgellau, Machynlleth, Aberystwyth ac Aberaeron.

Dywedodd y llywodraeth fod TaithCymru yn rhan o'u "huchelgais ehangach i adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus aml-ddull sydd wedi'i integreiddio'n well ledled Cymru".

Fe gadarnhaodd y llywodraeth ddydd Mercher y byddai'r gwasanaeth newydd yn dechrau ddydd Sul, 25 Hydref.

Bydd tocynnau ar gael o 6 Hydref, ond nid oes manylion ar hyn o bryd o ran pris y tocynnau hynny.

Yn ôl y llywodraeth, mae £2m wedi cael ei glustnodi ar gyfer blwyddyn gynta'r cynllun, gan gynnwys gwariant ar system archebu ar-lein a gwaith hyrwyddo.

Mae wyth o fysiau newydd wedi cael eu prynu er mwyn gweithredu'r gwasanaeth.

Mark HooperFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gwasanaeth TaithCymru yn chwarae rhan "hanfodol" wrth gysylltu'r gogledd a'r de, meddi Mark Hooper

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, Mark Hooper y bydd "TaithCymru yn chwarae rôl hanfodol bwysig wrth gysylltu trefi a chymunedau, gan ei gwneud yn ffordd gyflymach, haws a mwy dibynadwy o deithio er mwyn cyrraedd gwaith, addysg a hamdden".

Yn ôl Lee Robinson o Trafnidiaeth Cymru, mae TaithCymru "yn gam mawr yn y cyfeiriad iawn wrth wella cysylltiadau rhwng gogledd a de Cymru".

"Bydd y gwasanaeth newydd hwn yn sicrhau teithiau cyflymach, mwy cyfleus a mwy cynaliadwy, gan helpu pobl i gael mynediad at swyddi, addysg, gofal iechyd a hamdden, wrth gefnogi ein huchelgais ehangach o greu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus wirioneddol integredig i Gymru," meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.