Ffordd yng nghanol Abertawe ar gau ar ôl i dân achosi mwg du

- Cyhoeddwyd
Mae ffordd yng nghanol Abertawe wedi cau wedi i dân mewn safle diwydiannol achosi cwmwl mawr o fwg du.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn ymdrin â'r digwyddiad ar Stryd Dyfatty brynhawn Sadwrn.
Mae'r ffordd wedi cau rhwng Stryd Dyfatty, Stryd Orchard a Heol Newhall.
Mae'r heddlu'n annog pobl i "osgoi'r ardal a defnyddio llwybrau eraill lle bo modd."
Dywedodd yr heddlu fod llawer iawn o fwg yn yr ardal, yn enwedig o gwmpas fflatiau Matthew Street.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd AS Gorllewin Abertawe, Torsten Bell, ei fod yn "pryderu am yr hyn sy'n ymddangos fel tân yng nghanol y ddinas yn ardal City Church".
Ychwanegodd ei fod "mewn cysylltiad â'r gwasanaethau brys a'r cyngor ac y byddai'n parhau i ddilyn y sefyllfa'n agos."
Dywedodd hefyd wrth bobl am gadw'n ddiogel ac osgoi'r ardal nes bod mwy o wybodaeth ar gael.