Pentref Llanpumsaint yn dod ynghyd i 'gadw atgof Aaron i fynd'

Aaron Jones mewn carFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Aaron Jones wrth ei fodd gyda cheir a ralïo, meddai ei ffrindiau

GanElen Davies
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae ffrindiau dyn o Sir Gaerfyrddin a gafodd ei ladd gan yrrwr ddeuddydd cyn y Nadolig wedi dweud eu bod yn awyddus i "gadw ei atgof i fynd".

Bu farw Aaron Jones, 38, o Lanpumsaint, ar ôl cael ei daro gan gar yn y pentref yn 2024.

Yn siarad yn agored am y tro cyntaf, dywedodd eu ffrindiau fod Mr Jones "yn meddwl gymaint i bawb" ac yn "rhan o'r gymuned".

Bydd taith dractorau a cheir yn cael ei chynnal yn y pentref ddydd Sadwrn er cof amdano, gyda'r elw'n mynd at elusen sydd wedi rhoi cefnogaeth "ffantastig" i blant a theulu Mr Jones.

Arwel Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Cofio am Aaron ydy'r nod, meddai Arwel Thomas

Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf, mae cyfeillion Aaron Jones wedi ei ddisgrifio fel "ffrind i bawb". Yn gadeirydd ar bwyllgor y parc, roedd yn rhan annatod o fywyd y pentref yn Llanpumsaint.

"[Doedd] dim un tebyg iddo fe i'w gael," meddai ei gymydog a'i ffrind, Arwel Thomas.

"O'dd e mewn i bopeth, ffrind i bawb, os oeddet ti byth moyn help gyda rhywbeth neu gymorth, fe o'dd y boi i fynd ato. Dim gair cas gyda neb i ddweud amdano fe."

Yn dad i ddau o blant, ac yn ŵr hefyd, roedd ei deulu a'i ffrindiau "yn bopeth iddo".

"O'dd e'n meddwl y byd o Betsan, Elgan a Lisa. Mae Elgan â'r un diddordebau a Aaron, yn gywir yr un peth, a Betsan hefyd, mae'n galed iddyn nhw," meddai Mathew Jones, ffrind a pherthynas i Mr Jones.

"O'dd Aaron yn berson oedd yn tynnu pawb at ei gilydd... O'dd Aaron yn foi ry'n ni'n ei weld eisiau fe'n fawr iawn."

Mathew Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mathew Jones bod "Aaron yn meddwl shwt gymaint i bawb"

Flwyddyn a hanner yn ôl, ar 23 Rhagfyr 2024, roedd Mr Jones yn mynd â'i gi am dro yn y pentref, pan gafodd ei daro gan gar ger Capel Caersalem.

Bu farw yn y fan a'r lle.

Cafodd Daniel Wyke, 28, o Lan-y-bri ei garcharu eleni am achosi ei farwolaeth.

Mae'r noson "greulon" honno yn un na fydd ei ffrindiau fyth yn anghofio.

"Dechreues i fynd â Sion Corn rownd y pentref blynyddoedd mawr yn ôl a wedyn daeth Aaron yn bart o fe, a 'na beth o'dd 'mlan gyda ni," meddai Mathew, wrth ddisgrifio'r noson.

"O'n i wedi ffonio Aaron, trefnu gyda fe i gwrdd yn y neuadd i gael seto pethe lan i Sion Corn a blincin hec, aeth e mas â'r ci yn gynnar er mwyn cael dod nôl i helpu a fel 'ny aeth hi."

Wrth chwilio am Mr Jones y noson honno, dywedodd Mathew fod "pawb" wedi dod at ei gilydd yn syth i chwilio amdano, "achos o'dd Aaron yn meddwl shwt gymaint i bawb".

Aaron Jones ac Arwel ThomasFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Arwel (dde) yn awyddus i gofio Aaron o fewn y gymuned

Ers y digwyddiad, mae'r ddau ffrind yn awyddus i wneud rhywbeth er cof am Aaron Jones.

"Anghofiwn ni byth o fe, anghofith neb e," meddai Arwel.

"O'dd lot o publicity gwael ambyti beth digwyddodd ond mae eisiau cofio cadw atgof Aaron i fynd."

Maen nhw wedi trefnu taith dractorau a cheir ar gyfer dydd Sadwrn, oherwydd diddordeb Mr Jones mewn ralio, ceir a thractorau.

Bydd y ceir a'r tractorau "yn mynd o'r un man, ar ddwy wahaniaeth ffordd, ar yr un diwrnod", esbonia Arwel.

Bydd ras dractorau o amgylch parc y pentref i'r plant hefyd.

Sticer o'r digwyddiad i Aaron Jones

Dywedodd Mathew mai bwriad y digwyddiad "yn fwy na dim" yw i gofio Aaron, "i gael clonc a rhoi'r byd yn ei le".

"Mae'n bwysig i siarad yn lle cadw pethau mewn," meddai.

"I gofio hanes a phethau sbesial sydd wedi digwydd.

"Bydd e'n ddiwrnod caled ond yn ddiwrnod pwysig i ni gyd."

Car Aaron JOnes
Disgrifiad o’r llun,

Bydd teulu Aaron yn gwneud yn daith yn ei gar - oedd yn anrheg priodas iddo gan ei wraig, Lisa

Bydd elw'r digwyddiad yn mynd tuag at elusen Sandy Bear, sydd wedi bod o gymorth mawr i deulu Aaron.

"Mae rheiny wedi helpu Elgan a Betsan a'n ferch i, Elain, achos bod Aaron yn wncwl i Elain," meddai Mathew.

"Mae ffordd gyda nhw o siarad gyda phlant. A helpu Lisa. Dangos i ni shwt i ddelio gyda'r plant hefyd.

"'Neud rhywfath o memory box a gwahanol bethau, maen nhw'n ffantastig, ni wedi cael shwt help a s'dim byd yn ormod o waith iddyn nhw."

Mi fydd Lisa, Betsan ac Elgan yn teithio yn hen gar Aaron ddydd Sadwrn, car roedd Lisa wedi prynu i'w gŵr yn anrheg priodas.

Mae eu ffrindiau wedi bod yn gweithio ar y car ers tro gan sicrhau ei fod mewn cyflwr da ar gyfer y penwythnos.

Wrth ddisgrifio beth fyddai Mr Jones yn meddwl o'r digwyddiad, dywedodd Mathew y byddai'n "hapus iawn".

"Bydde fe'n prowd bod Lisa yn mynd â'r plant am wacen yn y car."

Byddai Aaron hefyd yn "ddiolchgar iawn", meddai Arwel.

"Bydde fe'n joio a bydde hon [y car] gyda fe wedi ei pholisho. Sai'n gwybod a odi Mathew yn mynd i bolisho hon i Lisa cyn dydd Sadwrn, ond bydde fe yn ei chanol hi."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig