Cymru'n un o'r gwledydd cyntaf i dynnu cefnogaeth i bennaeth Fifa

Mae hi wedi bod yn wythnos gythryblus i bennaeth Fifa, Gianni Infantino
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi tynnu eu cefnogaeth i gais Gianni Infantino i barhau fel pennaeth Fifa - y wlad gyntaf yn y DU, ac un o'r cyntaf yn y byd, i wneud hynny'n gyhoeddus.
Daw yn sgil cynlluniau dadleuol llywydd y corff sy'n rheoli'r gamp ar draws y byd i werthu cyfrannau yn ei chystadlaethau i gwmnïau buddsoddi preifat.
Mae'r cynlluniau bellach wedi eu dileu yn sgil beirniadaeth hallt o sawl cyfeiriad.
Fe gadarnhaodd CBDC fore Llun nad ydyn nhw mwyach yn cefnogi cais Mr Infantino i gael ei ail-ethol am dymor arall fel llywydd Fifa.
Dywedon nhw fod hynny yn sgil "methiannau diweddar o ran rheolaeth, prosesau, arweinyddiaeth, gwerthoedd, rheoli partneriaid, cyfathrebu a synnwyr cyffredin".
'Wedi colli hyder CBDC'
Mae'r ffactorau hyn, meddai'r gymdeithas, "wedi ein harwain at sefyllfa ble mae Mr Infantino wedi colli hyder CBDC i barhau wrth lyw pêl-droed y byd".
Ychwanegodd eu datganiad: "Mae methu â rhoi buddiannau gorau pêl-droed yn gyntaf yn fethiant na allwn ei dderbyn."
Roedd yna fonllefau o brotest ar draws y byd mewn ymateb i gynlluniau Infantino, ac roedd bygythiad gan Uefa - y corff sy'n llywodraethu pêl-droed yn Ewrop - i foicotio cystadlaethau Fifa, gan gynnwys Cwpan y Byd.
Mae Uefa a'r corff cyfatebol yng ngogledd a chanol America a'r Caribî, Concacaf, hefyd wedi beirniadu arweinyddiaeth Fifa yn gyffredinol wedi'r cyhoeddiad bod Infantino wedi penderfynu cefnu ar ei gynllun dadleuol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.