Carcharu brodyr am achosi marwolaeth tad trwy rasio yn eu ceir

Abubakr Ben Yusaf (chwith) ac Umar Ben YusafFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Abubakr Ben Yusaf (chwith) a'i frawd Umar Ben Yusaf eu dedfrydu ddydd Gwener

GanGareth Wyn Williams
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae dau frawd oedd yn rasio yn erbyn ei gilydd wedi cael eu carcharu ar ôl lladd tad i ddau ac achosi anafiadau difrifol i'w fab naw oed.

Bu farw Rhys Jenkins yn dilyn y gwrthdrawiad ger Y Trallwng ym mis Tachwedd 2024, wedi i BMW X3 a oedd yn cael ei yrru gan Abubakr Ben Yusaf daro yn erbyn ei gar Toyota Yaris.

Ym mis Mehefin cafwyd Abubakr Ben Yusaf, 31, yn euog o achosi marwolaeth ac anaf difrifol drwy yrru'n beryglus, tra cafodd ei frawd Umar Ben Yusaf, 35 - a oedd yn gyrru cerbyd arall - ei ganfod yn euog o achosi marwolaeth ac anaf difrifol drwy yrru'n ddiofal.

Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Gwener cafodd Abubakr Ben Yusaf ei ddedfrydu i 14 mlynedd o garchar, a Umar Ben Yusaf i ddwy flynedd a naw mis dan glo.

Rhys JenkinsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rhys Jenkins ei ladd yn y gwrthdrawiad fis Tachwedd 2024, ac fe gafodd ei fab naw oed ei anafu'n ddifrifol

Roedd Abubakr Ben Yusaf hefyd yn euog o achosi marwolaeth wrth yrru heb yswiriant, gyda'r llys wedi clywed ei fod wedi lawrlwytho ap prynu yswiriant car i'w ffôn yn fuan wedi'r gwrthdrawiad.

Wrth ddedfrydu'r ddau frawd dywedodd y Barnwr Timothy Petts ei fod wedi ei argyhoeddi bod y ddau yn rasio yn erbyn ei gilydd a'u bod yn gyrru ar "gyflymder gwirion" ac mewn "modd bygythiol" cyn y gwrthdrawiad.

Gyda'r tad a'r mab ar eu ffordd i gêm rygbi ryngwladol yng Nghaerdydd ar y pryd, bu farw Rhys Jenkins, 41, o Ddeuddwr, Powys, ar ôl derbyn nifer o anafiadau trawmatig yn y gwrthdrawiad ar yr A483.

Clywodd y llys fod Mr Jenkins yn gyrru o dan y terfyn cyflymder ar y pryd, ac nad oedd unrhyw gyfle ganddo i osgoi'r gwrthdrawiad gyda'r BMW oedd wedi "colli rheolaeth" ac wedi gwyro i'w lwybr.

Yn dilyn y gwrthdrawiad roedd hefyd angen cludo ei fab naw oed, Ioan, mewn hofrennydd i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl wedi iddo gael anafiadau i'w ysgyfaint ac asennau, yn ogystal â thorri ei ddwy fraich.

Yn ystod yr achos roedd y llys wedi clywed bod y ddau frawd wedi bod yn gweithio fel optometryddion locwm yng Ngheredigion ar adeg y digwyddiad, ac ar y ffordd yn ôl i Fanceinion.

Cyn y gwrthdrawiad roedd y ddau wedi gwadu eu bod yn gwybod bod y naill na'r llall yno, ond roedd sawl llygad dyst wedi adrodd bod y ddau yn gyrru ar gyflymder gormodol ac wedi pasio ei gilydd a sawl cerbyd arall ar ffyrdd y canolbarth.

Cafodd safon eu gyrru ei ddisgrifio gan sawl llygad dyst fel "rhy gyflym", "bygythiol", "peryglus", a'u bod yn "annog ei gilydd".

'Gwacter enfawr yn ein bywydau'

Clywodd y llys sawl datganiad gan aelodau o deulu Mr Jenkins, gan gynnwys ei weddw, Caroline.

Dywedodd bod ei bywyd hi a bywydau ei meibion heb ei gŵr a'u tad "yn anodd iawn", a bod ei golli wedi gadael "gwacter enfawr yn ein bywydau".

Roedd ei gŵr, meddai, yn Gymro Cymraeg balch ac yn hyfforddwr rygbi a oedd hefyd yn ymddiddori mewn natur a cherddoriaeth.

Ychwanegodd bod ei meibion yn ei gweld hi'n anodd dod i delerau gyda bywyd heb eu tad, a'i fod "yn amhosib cyfleu lawn effaith marwolaeth Rhys arnom fel teulu".

Fe wnaeth y Barnwr Petts ddymuno'n dda i'r teulu, gan gyfeirio at y trawma y maen nhw wedi gorfod ei wynebu, ond hefyd "na fyddai Mr Jenkins byth yn angof".

Yn ogystal â'r ddedfryd o garchar, cafodd Abubakr Ben Yusaf hefyd ei wahardd rhag gyrru am 14 mlynedd.

Bydd yn rhaid i'r ddau frawd gymryd prawf gyrru estynedig cyn cael dychwelyd i'r ffordd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.