Gwasanaeth ambiwlans yn cyhoeddi 'digwyddiad difrifol' wedi'r tywydd poeth

Gwasanaeth ambiwlansFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer sylweddol o alwadau 999 yn aros am ambiwlans, gan gynnwys cleifion â chyflyrau difrifol a rhai sy'n peryglu bywyd, yn ôl y gwasanaeth

  • Cyhoeddwyd

Mae'r gwasanaeth ambiwlans wedi cyhoeddi "digwyddiad difrifol" oherwydd pwysau ychwanegol yn ystod y tywydd poeth.

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi cyhoeddi'r statws am 12:00 ddydd Gwener.

Mae nifer sylweddol o alwadau 999 yn aros am ambiwlans, gan gynnwys cleifion â chyflyrau difrifol a rhai sy'n peryglu bywyd, medden nhw.

Mae'r datganiad yn golygu y bydd y gwasanaeth yn canolbwyntio ar yr achosion mwyaf difrifol a rhai sy'n peryglu bywyd.

Dywedodd y gwasanaeth eu bod wedi profi un o'u cyfnodau prysuraf o'r flwyddyn, gyda nifer y galwadau'r wythnos yma wedi cynyddu 31%.

'Ffonio 999 mewn argyfwng gwirioneddol yn unig'

Dywedodd Judith Bryce o'r gwasanaeth: "Drwy ddatgan digwyddiad difrifol, mae'n caniatáu i'n timau ganolbwyntio ein hymdrechion a'n hadnoddau ar gleifion sy'n profi'r argyfyngau mwyaf difrifol a bygythiadau i fywyd.

"Mae pobl sy'n cysylltu â ni gyda chyflyrau llai difrifol yn debygol o orfod aros yn hirach.

"Mewn rhai achosion, efallai y bydd cleifion yn cael eu hasesu'n glinigol a'u cynghori i geisio gofal amgen, yn hytrach na bod ambiwlans yn cael ei anfon.

"Rydym yn gofyn i'r cyhoedd ein cefnogi yn ystod y cyfnod yma drwy ffonio 999 mewn argyfwng gwirioneddol sy'n peryglu bywyd yn unig."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.