'Braint aruthrol' bod yn archdderwydd ond hefyd 'cyfrifoldeb' - Mererid Hopwood

- Cyhoeddwyd
Wrth i gyfnod Mererid Hopwood fel Archdderwydd ddirwyn tua'i derfyn, mae hi wedi bod yn edrych yn ôl ar ei thair blynedd wrth y llyw.
"Mae hi wedi bod yn fraint aruthrol ond wrth gwrs mae hefyd wedi bod yn gyfrifoldeb" meddai, gan ddweud mai ei olynydd, y Prifardd Tudur Dylan, wnaeth ei dysgu hi sut mae cynganeddu.
Hi yw'r ail fenyw i arwain Gorsedd Cymru. Christine James, Cofiadur yr Orsedd erbyn hyn, oedd y cyntaf rhwng 2013 a 2016.
Un peth fu'n ei phoeni'n gyson oedd yr ofn y byddai'n baglu ar lwyfan y Brifwyl gyda'r nerfusrwydd "bron â'm trechu ambell dro!"
Serch y nerfau, mae hi yn trysori'r cyfle i atgyfnerthu neges a phwrpas yr Orsedd a'r Eisteddfod.

Emyr Lewis enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las eleni a Mererid Hopwood oed un o'r beirniaid
"Mae cael y cyfle i atgoffa pobl o beth yw holl arwyddocâd y symbolau yn rhywbeth dwi wedi'i drysori," meddai.
Un o'r symbolau pwysicaf iddi ydi'r "teyrn whialen cyfiawnder yn ein hatgoffa mai chwarae teg sy'n bwysig i'r Orsedd."
Serch hynny y Cleddyf Heddwch yw'r symbol pwysicaf un.
"Er ein bod ni'n byw mewn byd o drais, mae'r Orsedd yn coleddu'r deheuad hwnnw o weld byd o heddwch."
Bydd hi'n hi'n trosglwyddo'r awenau i'r Archdderwydd nesaf, y Prifardd Tudur Dylan, yn swyddogol ar ddechrau Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 2028, yr haf nesaf.
"Gan mai fe ddysgodd fi i gynganeddu, allai 'mond dweud 'mod i'n meddwl bod e'n ddewis ardderchog.
"Gafon ni etholiad a dau enw ardderchog, ond bydd hi'n braf iawn cael trosglwyddo i Dylan," meddai.
"Mae gen i rôl i oleuo pawb nad Tudur yw ei enw, Tudur Dylan, ond fel Dylan mae'n cael ei adnabod."
A gyda'i chyfnod yn dirwyn i ben, a ydi hi'n edrych ymlaen at ymweld ag Eisteddfod Maldwyn a Meirionnydd 2027 fel Mererid, ac nid fel yr Archdderwydd?
"Alla'i ddim aros!"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2023
