Dau yn y ras i fod yr Archdderwydd nesaf

Bydd yr Archdderwydd newydd yn olynu Mererid Hopwood yn y rôl
- Cyhoeddwyd
Wrth i dymor yr Archdderwydd Mererid ddod i ben, mae dau yn y ras i'w holynu - y Prifeirdd Tudur Dylan a Gerwyn Wiliams.
Ers rhai wythnosau mae aelodau'r Orsedd wedi cael cais i bleidleisio dros un o'r ddau, ac mae disgwyl i ganlyniad y bleidlais gael ei gyhoeddi yng nghyfarfod cyffredinol yr Orsedd ddydd Iau.
Nid oes etholiad Archdderwyddol wedi bod ers rhai blynyddoedd.
Cafodd dau eu henwebu i arwain yr Orsedd yn dilyn marwolaeth yr Archdderwydd Dic Jones yn 2009, sef T James Jones (Jim Parc Nest) a Mererid Hopwood.
Ond bryd hynny fe benderfynodd Mererid beidio â chaniatáu i'w henw fynd ymlaen i bleidlais.
Ers hynny un enwebiad sydd wedi bod, ac felly doedd dim etholiad pan gafodd Christine James, Geraint Lloyd Owen (Geraint Llifon), Myrddin ap Dafydd na Mererid Hopwood eu hethol.
Ethol Mererid Hopwood fel yr Archdderwydd nesaf
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2023
Cyfrol Mererid Hopwood yn cipio Prif Wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2026
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf
Petai'r Prifardd Tudur Dylan yn cael ei ethol, byddai'n dilyn ôl troed ei dad - y Parchedig John Gwilym Jones a fu'n Archdderwydd rhwng 1993 a 1996 - a'i ewythr y Parchedig T James Jones a fu'n Archdderwydd rhwng 2009 a 2013.
Mae Tudur Dylan wedi ennill y Gadair ddwywaith - yn Eisteddfod Bro Colwyn yn 1995 pan oedd ei dad yn Archdderwydd, ac yn Eisteddfod Eryri a'r Cyffiniau yn 2005.
Yn 2007 enillodd y Goron yn Eisteddfod Sir y Fflint.
Enillodd Gerwyn Wiliams y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Nedd a'r cyffiniau yn 1994.
Wedi graddio ym Mhrifysgol Aberystwyth, bu'n bennaeth Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor ac mae bellach yn un o olygyddion Gwasg y Bwthyn.
Seremoni'r Cadeirio brynhawn Gwener yn Eisteddfod y Garreg Las fydd seremoni olaf yr Archdderwydd presennol, Mererid Hopwood.
Bydd yr Archdderwydd newydd yn cael ei gyflwyno i gynulleidfa'r Pafiliwn ar ddechrau seremoni'r Cadeirio.
Ni fydd yr Archdderwydd Mererid yn trosglwyddo'r awenau yn swyddogol tan ddechrau Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 2028, a fydd yn digwydd yn haf 2027.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.