Dangos drama Gymraeg yn un o ardaloedd theatr 'mwyaf dylanwadol y byd'

Cymeriadau y perfformiadFfynhonnell y llun, Theatr Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Parti Priodas yn cael ei pherfformio ar lwyfan yn Efrog Newydd ar 5 Medi

  • Cyhoeddwyd

Bydd drama Gymraeg gan Brifardd o Bwllheli yn cael ei pherfformio yn Efrog Newydd fis nesaf - a hynny yn un o ardaloedd theatr "mwyaf dylanwadol y byd".

Wedi'i hysgrifennu gan Gruffudd Owen a'i chynhyrchu gan Theatr Cymru, bydd Parti Priodas yn ymddangos 'Off-Broadway' yn Theatr Judith O. Rubin ar 5 Medi.

Enillodd y ddrama Wobr Theatr y DU am Ragoriaeth mewn Teithio yn 2024 a bydd y perfformiad yma yn dilyn ymddangosiad yng Ngŵyl Cymru Gogledd America yn gynharach yn yr wythnos.

Yn ôl Theatr Cymru, dyma fydd y perfformiad cwbl Gymraeg cyntaf erioed i fod yn brif berfformiad yn yr ŵyl - sy'n cael ei chynnal yn Springfield, Massachusetts eleni.

Dywedodd y dramodydd Gruffudd Owen na fyddai "fyth wedi medru dychmygu" y byddai'r ddrama yn cael ei pherfformio ar lwyfan yn Efrog Newydd.

"Mae hi wedi bod yn goblyn o daith," meddai'r gŵr o Ben Llŷn.

Gruffudd OwenFfynhonnell y llun, Theatr Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gruffudd Owen fod gweld sut mae'r ddrama wedi datblygu wedi bod yn "goblyn o daith"

Disgrifiodd Theatr Cymru y perfformiad fel "archwiliad doniol a theimladwy o densiynau teuluol, newidiadau cymdeithasol yng nghefn gwlad a'r ymdeimlad o berthyn".

Esboniodd yr awdur fod ei daid, Solomon Owen, wedi ymfudo i Efrog Newydd yn 1928 am gyfnod, "cyn i'r Dirwasgiad Mawr ei orfodi i hwylio'n ôl i Lŷn".

"Diolch byth iddo fo ddod adref achos tasa fo heb, fyddai Parti Priodas ddim yn bodoli a fyddai Theatr Cymru ddim yn gallu danfon drama ei ŵyr bach gwirion i ddinas enwoca'r byd am un parti olaf!"

Mark Henry-Davies a Mared LlywelynFfynhonnell y llun, Theatr Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mark Henry-Davies a Mared Llywelyn sy'n actio cymeriadau 'Idris' a 'Lowri'

"Cychwynnodd taith Parti Priodas yn 2019 fel dau air wedi ei sgriblo mewn llyfr nodiadau yn ystod cwrs Dramodwyr Newydd Theatr Cymru," medd Gruffudd.

"Faswn i fyth wedi medru dychmygu bryd hynny y byddai hanes 'priodas gymysg rhwng mab fferm o Gymro a Saesnes o Lŷn' yn cael ei rhannu ar lwyfan yn Efrog Newydd rhyw ddydd.

"Mae hi wedi bod yn goblyn o daith.

"Hoffwn i ddiolch o galon i Theatr Cymru am ddangos ffydd mewn awdur newydd ac am gastio dau actor mor wych i ddod â'r ddrama'n fyw," ychwanegodd.

Steffan DonnellyFfynhonnell y llun, Theatr Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae gallu mynd â'r ddrama i i'r Unol Daleithiau yn gyfle "hanesyddol" i Theatr Cymru, medd Steffan Donnelly

Mae'r ddrama wedi'i chyfarwyddo gan Steffan Donnelly ac mae Mared Llywelyn a Mark Henry-Davies yn actio cymeriadau 'Lowri' ac 'Idris'.

Mae'r tîm cynhyrchu yn cynnwys Alice Eklund fel cyfarwyddwr cyswllt, Luned Gwawr fel cynllunydd set a gwisgoedd, Jane Lalljee fel cynllunydd goleuo, Sam Humphreys fel cyfansoddwr a Cêt Haf fel cyfarwyddwr symud.

Bydd Te Angladd, y dilyniant gan Gruffudd Owen i Parti Priodas, ar daith ledled Cymru yng ngwanwyn 2027 ac yn cael ei chyflwyno gan Theatr Cymru.

Bydd Parti Priodas yn teithio i Ganolfan Cymry Llundain hefyd ar 27-28 Awst, a Gŵyl Cymru Gogledd America ar 2 Medi.

'Idris' a 'Lowri'Ffynhonnell y llun, Theatr Cymru

Eglurodd y cyfarwyddwr Steffan Donnelly, sydd hefyd yn gyfarwyddwr artistig i Theatr Cymru, fod y foment yn un "hanesyddol i'n cwmni".

"Mae teithio drama arobryn Gruffudd Owen, sy'n ddarlun doniol a thwymgalon o fywyd cefn gwlad Cymru, o gaeau Pen Llŷn i ganol dinas Efrog Newydd yn freuddwyd go iawn - gan brofi bod gan ein straeon lleol apêl eang.

"Un o nodau Theatr Cymru yw cysylltu Cymru â'r byd ac yn dilyn ein perfformiad yng Ngŵyl Cymru Gogledd America, rydym yn gyffrous i ddathlu lleisiau cyfoes Cymru yn un o leoliadau theatr mwyaf eiconig y byd.

"Rydym methu aros i gynulleidfaoedd America fwynhau profi ein hiaith ac adlais diwylliannol dwfn y cynhyrchiad arbennig hwn," ychwanegodd y cyfarwyddwr.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig