Dros 800 o ysgolion ar gau ar ail ddiwrnod rhybudd coch gwres eithafol

- Cyhoeddwyd
Mae tua 850 o ysgolion ledled Cymru ar gau ddydd Iau wrth i'r tywydd crasboeth barhau.
Mae rhybudd coch am wres eithafol - yr un cyntaf erioed yng Nghymru - yn dal mewn grym ar gyfer rhannau mawr o'r de a'r canolbarth tan 23:59 nos Iau, a rhybudd oren ar draws gweddill y wlad.
Yn ôl yr arbenigwyr fe allai dydd Iau fod y diwrnod poethaf erioed yng Nghymru - 37.1C yw'r record ar hyn o bryd, a gofnodwyd ym Mhenarlâg yn Sir y Fflint yn 2022.
Fe gafodd tymheredd o 33.3C ei gofnodi ym Mharc Bute, Caerdydd ddydd Mercher, ond mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhagweld y gallai'r tymheredd gyrraedd rhwng 38C a 40C cyn i'r rhybudd coch ddod i ben.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, ni wnaeth y tymheredd ostwng yn is na 23C dros nos yng Nghaerdydd, sy'n golygu mai nos Fercher oedd y noson dwymaf ar gofnod ym mis Mehefin unrhyw le yn y DU.
Mae hynny eto i gael ei gadarnhau'n swyddogol, ond byddai'n torri'r record flaenorol o 22.7C a osodwyd yn 1976.
Erbyn bore Iau roedd tua 850 o ysgolion wedi cadarnhau eu bod ar gau yn llwyr neu'n rhannol ddydd Iau oherwydd y gwres - dros 200 yn fwy na dydd Mercher.
Mae mwy o wybodaeth ar wefannau'r awdurdodau lleol unigol.
Oherwydd y gwres mae cynghorau wedi addasu gwasanaethau cyhoeddus eraill hefyd, gan gynnwys casglu sbwriel yn gynt yn y diwrnod na'r arfer.

Mae'r rhybuddion tywydd mewn grym tan 23:59 nos Iau
Am yr ail ddiwrnod yn olynol mae'r tywydd yn cael effaith ar wasanaethau trên hefyd.
Mae cyfyngiadau a gafodd eu gosod gan Drafnidiaeth Cymru ddydd Mercher yn parhau ar ambell linell, a hynny oherwydd prinder trenau mewn sawl achos.
Mae'n golygu bod llai o deithiau yn ystod y dydd rhwng Caer a Wrecsam, Aberystwyth ac Amwythig, Machynlleth a Phwllheli, Caerdydd Canolog a Glynebwy, Pen-y-bont ar Ogwr a Maesteg, a Chaerdydd a Phenarth.

Cafodd marchnad da byw Llanelwy ei chynnal yn gynt na'r arfer fore Iau oherwydd y tywydd
Mae'r arwerthwyr Jones Peckover wedi gwneud newidiadau er mwyn sicrhau lles anifeiliaid a diogelwch amaethwyr ym marchnad da byw Llanelwy ddydd Iau trwy gynnal yr arwerthiant ŵyn tew wythnosol am 08:30 y bore, yn lle 10:30.
Fe ddechreuodd y gwaith o'u pwyso yn gynt hefyd, o 04:00 ymlaen, ac mae'r defaid i gyd yn cael eu cadw dan do.
"Dydi symud stoc i unrhyw ffermwr ddim yn job hawdd yn y tywydd yma," dywedodd un o'r arwerthwyr, Sion Eilir, ar raglen Dros Frecwast.
"'Na'th o ddod i'n meddylia' ni ar un pwynt falle bod rhaid i ni ohirio... does 'na neb yn licio cau, bydd rhaid i ni jyst trio g'neud y gora' o be' sy' gennon ni."
Cadw'r dŵr yn llifo
Mae Dŵr Cymru yn annog cwsmeriaid i yfed digon o ddŵr, ond i'w ddefnyddio'n bwyllog, gan ragweld i'r galw amdano gyrraedd uchafbwynt.
Mae timau "yn gweithio 24 awr y dydd i gynnal pwysedd ar draws y rhwydwaith a sicrhau bod cyflenwadau'n llifo'n ddiogel i gartrefi, ysbytai a busnesau", meddai'r cwmni.
Ond fe allai'r cyhoedd helpu trwy gamau fel ailddefnyddio dŵr - dyfrio planhigion gyda dŵr pwll padlo, er enghraifft - cymryd cawod yn lle bath, trwsio tapiau sy'n diferu ac ond defnyddio peiriannau golchi pan eu bod yn llawn.
Mae'r cwmni hefyd yn apelio ar bobl i beidio â throchi neu nofio mewn cronfeydd dŵr, gan danlinellu'r peryglon cudd dan yr wyneb a'r perygl i fywyd os yw rhywun yn mynd i drafferthion neu'n ceisio achub rhywun yn y dŵr.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.