'Ysgolion Cymru heb eu dylunio ar gyfer tywydd crasboeth'

Mynedfa Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, CaerdyddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Caerdydd ymhlith y cannoedd sydd ar gau ar draws Cymru ddydd Iau oherwydd gwres llethol

  • Cyhoeddwyd

Mae undebau addysg yn rhybuddio bod adeiladau ysgol heb eu dylunio i ddygymod â gwres eithafol, a bod angen buddsoddi er mwyn creu amodau mwy diogel ar gyfer disgyblion a staff.

Mae un undeb yn mynd cyn belled â galw am osod uchafswm tymheredd cyfreithiol ymhob ysgol a gweithle.

Am yr ail ddiwrnod yn olynol, mae cannoedd o ysgolion ar gau - yn llwyr neu'n rhannol - ar draws Cymru oherwydd tywydd crasboeth.

Bydd rhybudd coch cyntaf Cymru erioed am wres eithafol yn dod i ben am 23:59 nos Iau, ac ar hyn o bryd mae disgwyl i'r holl ysgolion ailagor ddydd Gwener.

"Dydy'r un pennaeth eisiau cau'r ysgol," meddai pennaeth ysgolion Glantaf a Bro Edern yng Nghaerdydd, Matthew Evans ar raglen Radio Wales Breakfast.

"Ry'n ni ond newydd fod trwy gyfnodau [Covid] pan ry'n ni'n gwybod beth yw'r effeithiau ar blant a phobl ifanc, felly mae'n benderfyniad pwysig."

Gan ddisgrifio rhybudd coch cyntaf erioed Cymru am wres eithafol fel "sefyllfa hollol unigryw", dywedodd na all adeiladau ysgolion ymdopi â'r amodau.

"Maen nhw'n ddosbarthiadau bach - ffenestri cyfyng o ran eu hagor ar y llawr cyntaf a'r ail, ac o gael 30 o ddisgyblion yn y 'stafelloedd hyn maen nhw'n gorboethi'n sydyn iawn ac mae'n anodd iawn i ysgolion gynnig amgylchedd diogel i ddisgyblion ddysgu.

"Mae mannau cysgodol tu allan yn gyfyng iawn mewn llawer o ysgolion ac mi wyddwn pa mor anodd a pheryglus yw bod allan yn yr haul ar hyn o bryd."

Mynedfa Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, Caerdydd

Ychwanegodd Mr Evans: "Mae llawer o ysgolion wedi agor yn rhannol oherwydd eu bod yn gyndyn i gau'n llwyr... ond mae'n rhaid sicrhau bod ein staff a phlant yn ddiogel.

"Ystyriwch ddarparu bwyd ar gyfer 1,000 o ddisgyblion - staff yn gweithio mewn ceginau bach fel arfer mewn ffreutur gwydrog.

"Mae'r tymheredd yn drymaidd yno ac i'r staff orfod gweithio dan yr amodau hynny, mae'n annerbyniol.

"Mae hynny'n wir hefyd yn achos adeiladau modern iawn rhai ysgolion yng Nghymru - adeiladau bendigedig ond dydyn nhw ddim yn addas ar gyfer y math yma o dywydd... mae'n creu problem.

"Mae'n broblem i adeiladau fel Bro Edern a Glantaf, a gafodd eu codi yn y 70au, gydag arwyneb concrid a choridorau cul iawn.

"Rhaid i bob ysgol edrych ar ei sefyllfa a chyd-destun ei hun, ond mae'n anodd gweld ateb tymor hir i hyn heb sôn am fil sylweddol."

'Adeiladau wedi eu codi i gadw gwres i mewn'

Mae'r holl undebau addysg yn pwysleisio maint y cur pen i benaethiaid wrth benderfynu a oes angen cau ysgol yn ystod tywydd eithafol, gan flaenoriaethu diogelwch disgyblion a staff.

Ond maen nhw hefyd yn rhybuddio bod llawer o adeiladau "heb eu codi i ddygymod â gwres eithafol" a bod angen gwaith uwchraddio mewn adeiladau "sydd wedi dyddio", yn enwedig gan fod disgwyl i dywydd crasboeth fod yn fwy cyffredin yn y dyfodol.

Mae undeb NASUWT yn galw am osod uchafswm tymheredd cyfreithiol mewn ysgolion a gweithleoedd, gan ddadlau y byddai hynny'n "helpu ysgolion i wneud penderfyniadau iechyd a diogelwch cyflym yn ystod amodau tywydd anffafriol".

"Gall hen adeiladau ysgol fod yn anodd i'w hawyru ac maen nhw wedi eu codi fel arfer i gadw'r gwres i mewn," meddai swyddog Cymru'r undeb, Neil Butler.

Ychwanegodd fod "tuedd i adeiladau newydd gynnwys llawer o wydr a phaneli, a phrin yn cynnwys adnoddau fel unedau aerdymheru (air conditioning)".

Ffan ar lawr cefn dosbarth er mwyn cadw'r disgyblion yn gyffyrddus wrth eu desgiauFfynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Laura Doel, ysgrifennydd undeb y prifathrawon NAHT Cymru, bod penaethiaid "yn gwneud popeth posib i helpu cadw disgyblion a staff yn ddiogel, cyfforddus ac â'r gallu i ganolbwyntio ar ddysgu yn y don wres bresennol".

Ond mae eu gwaith, "yn cael ei wneud yn fwy anodd oherwydd ystâd ysgol wedi dyddio na chafodd ei ddylunio i ddygymod gyda'r tymereddau eithafol sydd, mae'n ymddangos, yn dod yn normal," meddai.

Mae'r undeb yn croesawu cyhoeddiad llywodraeth newydd Cymru yn ei chyllideb atodol ddydd Mawrth i roi £40m ychwanegol ar gyfer atgyweirio ysgolion.

Ond fe rybuddiodd Ms Doel ei bod "yn hanfodol bod yna fuddsoddiad hefyd i foderneiddio adeiladau ysgol i sicrhau eu bod yn creu awyrgylch ffafriol gydol y flwyddyn mewn tywydd poeth iawn a thywydd oer iawn".

"Gall hynny gynnwys popeth o aerdymheru a gwell awyru i well insiwleiddio a phaneli solar."

Dywedodd pennaeth ysgolion UNISON Cymru, Rosie Lewis: "Ni allwn ni drin gwres eithafol fel problem one-off mwyach.

"Mae'r argyfwng hinsawdd yn golygu bod ysgolion angen buddsoddiad gwirioneddol mewn adeiladau mwy gwyrdd, oer a diogel fel y gall disgyblion ddysgu a staff weithio'n ddiogel wrth i dymereddau godi."

Mae Claire Armitstead, cyfarwyddwr undeb yr arweinwyr ysgolion a cholegau ASCL Cymru, yn dadlau y bydd yn rhaid "meddwl yn fwy strategol ynghylch sut rydyn ni'n delio gyda thonnau gwres yn y dyfodol wrth iddyn nhw ddod yn fwy cyffredin a dwys".

Ychwanegodd y bydd angen ystyried o ddifrif sut mae atgyweirio hen adeiladau a sicrhau eu bod yn addas ar gyfer y dyfodol.

'Diogelwch yw'r brif flaenoriaeth'

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol, sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch cyllido ysgolion fel rhan o'u cyllideb gyfan, i sicrhau bod trefniadau ariannu'n cwrdd â'u hanghenion lleol a blaenoriaethau".

Mae'n nodi mai penaethiaid unigol neu awdurdodau lleol sy'n penderfynu os yw ysgol yn cau ai peidio ac "ymhob achos, diogelwch plant a staff fydd y brif flaenoriaeth bob tro".

Ychwanegodd eu bod "yn rhoi arweiniad ar gyfer agor ysgolion a lleoliadau chwarae a gofal plant yn ystod tywydd gwael eithafol a gwres eithafol", a chanllaw gyda'r "gefnogaeth ac adnoddau sydd ar gael pan nad yw addysgu wyneb-yn-wyneb yn bosib".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.