Dyn 50 oed wedi marw ar ôl mynd i'r môr yn y tywydd poeth

Traeth AberafanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Draeth Aberafan brynhawn Mercher

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 50 oed wedi marw ar ôl mynd i'r môr ar draeth yn y de yn ystod y tywydd twym ddydd Mercher.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Draeth Aberafan toc wedi 16:00, yn dilyn adroddiadau bod dyn angen cymorth meddygol ar ôl mynd i'r dŵr.

Fe gafodd y dyn - o Gil-ffriw yng Nghastell-nedd Port Talbot - gymorth gan wylwyr y glannau, parafeddygon a'r ambiwlans awyr, ond bu farw yn y fan a'r lle.

Dywedodd Heddlu De Cymru nad ydyn nhw'n trin y farwolaeth fel un amheus.

Pynciau cysylltiedig