Cleif Harpwood: 'Mae eisiau i ni frwydro eto'

Screenshot o Cleif Harpwood ar Zoom
Disgrifiad o’r llun,

Ymunodd Cleif Harpwood â Rhys Mwyn ar alwad fideo

GanLois Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Eleni mae'r glasur o albwm 'Sneb yn Becso Dam gan Edward H Dafis yn nodi 50 mlynedd ers ei rhyddhau.

Yn sgwrsio gyda Rhys Mwyn ar BBC Radio Cymru, dywedodd Cleif Harpwood fod llawer o'r pynciau'r oedd y rocars yn canu amdanynt ar ddiwedd y 60au a dechrau'r 70au yn dal i fod yn berthnasol heddiw.

Dros y misoedd diwethaf mae Cleif wedi bod yn rhyddhau senglau newydd sbon ac mae'r caneuon rheiny yn dwyn i gof arddull Edward H, ac hefyd yn mynd i'r afael â rhai o'r un themâu.

Un o'r caneuon newydd yw Ail Chwyldro, ac wrth sôn am y gân eglurodd Cleif:

"Mae hon yn deillio o'n cyfnod ni. Cyfnod fyddai'n cael ei alw'n chwyldro – y chwyldro fawr dros yr iaith ar ddiwedd y 60au a dechrau'r70au.

"Fuon ni, wrth gwrs, ynghlwm â hynny ac roedd cerddoriaeth gyfredol ar y pryd, cerddoriaeth bop yn gyrru'r ymgyrchoedd 'ma.

"Mae caneuon fel Tŷ Haf ac Yn y Fro a Tyrd i Edrych, maen nhw i gyd yn edrych ar y problemau oedd yn bodoli bryd hynny, a hefyd y frwydr dros statws i'r iaith, a dros yr holl bethau ry'n ni'n cymryd yn ganiataol heddiw.

"Ni wedi cymryd nhw'n ganiataol yn fy marn i a dyna ydi neges y gân mewn gwirionedd: bod eisiau i ni ail-edrych ar hyn ac mae eisiau ni frwydro eto."

'Mewn sefyllfa llawer gwaeth'

'Sneb yn Becso Dam oedd trydedd albwm Edward H Dafis ac mae'n albwm gysyniadol sy'n dilyn hynt Lisa Pant Du wrth iddi adael ei chynefin am y ddinas.

Wrth droi at siarad am yr albwm sy'n cael ei hystyried yn glasur Gymreig, mae Cleif yn dweud:

"Neges hollol wleidyddol, hollol gymdeithasol oedd i'r albwm, sef y diboblogi 'ma. Lisa'n cynrychioli'r bobl ifanc 'ma oedd yn gadael eu cynefin ac yn mynd i'r 'ddinas fawr ddrwg', chwedl y diweddar Jarman.

Clawr albwm 'Sneb yn Becso DamFfynhonnell y llun, Sain

"Ond ry'n ni wedi gweld hefyd gymaint o ddirywiad yn yr ardaloedd gwledig, yr ardaloedd Cymreig naturiol, y cadarnleoedd dros y degawdau.

"A'r un problemau, yn anffodus, sy'n ein wynebu ni nawr. Ac mae'r albwm yna, 'Sneb yn Becso Dam yn adlewyrchiad o'r hyn roedden ni'n deimlo allai ddigwydd.

"A 'na fe, hanner can mlynedd yn ddiweddarach, ry'n ni'n gweld ein hunain mewn sefyllfa llawer gwaeth, dw i'n meddwl, yn yr ardaloedd hyn."

Bydd H a'r Band yn perfformio'r caneuon newydd, a rhai o glasuron Edward H Dafis, yn Eisteddfod y Garreg Las.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb