Adolygiad i ystyried lleihau baich 'gwaith papur diangen' ar ffermwyr

Mae Plaid Cymru eisiau "lleihau dyblygu a gwaith papur diangen i ffermwyr"
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu adolygiad annibynnol o'r "gwaith papur diangen" y mae ffermydd teuluol yn ei wynebu.
Dywedodd Llŷr Gruffydd, y gweinidog dros wydnwch gwledig a chynaliadwyedd, y bydd yr adolygiad yn cymryd naw mis i'w gwblhau.
Mae'r undebau amaeth wedi croesawu'r cyhoeddiad, gan ddweud eu bod wedi galw am hyn ers sawl blwyddyn.
Ond rhybuddiodd grwpiau cadwraeth na ddylai lleihau biwrocratiaeth "ddod ar draul gwarchod yr amgylchedd".

"Rhaid i ofynion fod yn gymesur," meddai Llŷr Gruffydd
Yn eu cynllun ar gyfer y 100 diwrnod cyntaf ar ôl etholiad y Senedd, dywedodd Plaid Cymru y bydden nhw'n comisiynu adolygiad o'r "baich biwrocrataidd" ar ffermydd er mwyn "lleihau dyblygu a gwaith papur diangen i ffermwyr".
Dywedodd Llŷr Gruffydd: "Mae rheoleiddio yn rhan angenrheidiol o gynnal ein safonau o'r radd flaenaf, ond rhaid i ofynion fod yn gymesur, ac ni ddylent rwystro'r broses o reoli tir a chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy."
Ychwanegodd y gweinidog y gallai rhai newidiadau "gymryd amser", ond dywedodd ei fod wedi gofyn i'r comisiwn nodi "llwyddiannau cyflym" hefyd fel bod modd dechrau gwneud newid cyn gynted â phosib.
'Gwahaniaeth gwirioneddol i ffermwyr'
Bydd yr adolygiad yn cael ei arwain gan John Davies, sy'n ffermio ger Aberhonddu, a oedd yn llywydd undeb NFU Cymru rhwng 2018 a 2022.
Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at ddechrau'r gwaith, gan ychwanegu: "Rwy'n gwybod o brofiad am y pwysau y mae ffermwyr yn ei wynebu wrth ddelio â gofynion rheoleiddio, archwiliadau a gweinyddu.
"Byddaf yn gweithio'n agos gyda'r rhai ar lawr gwlad yn y sector er mwyn deall ble y gellir gwneud gwelliannau.
"Mae hyn yn golygu dod o hyd i ffyrdd ymarferol o wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n ffermwyr."

Yn ôl Dyfan Evans, mae bron angen "ysgrifennydd llawn amser" ar ffermwyr i wneud yr holl waith papur
Fel y disgwyl, roedd 'na groeso mawr i'r adolygiad ymhlith ffermwyr ym mart Castellnewydd Emlyn.
Yn ôl Dyfan Evans, 29, sy'n ffermio yn Llandysul, mae'r gwaith papur disgwyliedig yn achosi "straen".
"Mae byti fod eisiau ysgrifennydd llawn amser ar ffarm gyffredin, deuluol, rhwng yr NVZs a'r holl wahanol waith papur sydd wedi dod ynghylch hwnnw - mae hwnnw yn eithaf trwm i ddweud y gwir.
"Mae eisiau peth ohono fe, ond s'dim eisiau gymaint ohono fe."

"Ar y tir ac ar y stoc mae'r gwaith fwyaf i wneud, a dim trwy bapur," meddai Carwyn Griffiths
"Wast o amser" yw gwaith papur yn ôl Carwyn Griffiths, 28, sy'n ffermio yn Nhalgarreg.
"Mae ffermwyr yn gwybod beth maen nhw'n 'neud.
"Ar y tir ac ar y stoc mae'r gwaith fwyaf i wneud, a dim trwy bapur."
Pwyso ar ei fab a'i ferch-yng-nghyfraith am gymorth gyda'r gwaith cyfrifiadurol mae Denley Jenkins, 75, sy'n ffermio yn ardal Beulah ger Castellnewydd Emlyn.
"Dwi yn ffeindio fe'n anodd - mae pethau yn gwaethygu bob blwyddyn," meddai.
"Ni'n hurio consultants mewn i wneud y gwaith mwyaf.
"Mae'n gyfrifoldeb i wneud pethau yn iawn - llanw'r forms a pethau fel 'na - achos os na newch chi bethau'n iawn maen nhw'n dod nôl yn wrong.
"Fi yn teimlo hi'n anodd bob blwyddyn."

Dywedodd Denley Jenkins ei fod yn gweld y gwaith papur yn anodd a bod pethau'n mynd yn waeth bob blwyddyn
Roedd Undeb Amaethwyr Cymru ac NFU Cymru wedi galw am adolygiad o fiwrocratiaeth fel mater o flaenoriaeth yn eu maniffestos cyn etholiad y Senedd.
Mae llywydd NFU Cymru, Abi Reader, yn croesawu'r comisiwn.
"O ystyried bod 15 mlynedd wedi mynd heibio ers cynnal adolygiad o fiwrocratiaeth, mae'n deg cynnal asesiad annibynnol fel hyn i werthuso sut mae polisïau a rheoliadau newydd a gyflwynwyd yn ystod y cyfnod hwn yn effeithio ar y diwydiant.
"Mae penodiad John Davies fel y person i arwain y gwaith hwn i'w ganmol.
"Mae John yn ffigwr uchel ei barch o fewn y diwydiant amaethyddol yng Nghymru.
"Mae ganddo ddealltwriaeth ragorol o'r dirwedd reoleiddio ac mae ganddo'r wybodaeth a'r angerdd i symud y maes gwaith pwysig hwn ymlaen a sicrhau ei fod yn cael ei graffu'n effeithiol."

Yn ôl Alun Owen o Undeb Amaethwyr Cymru, mae'r comisiwn newydd yn gyfle i leihau'r baich biwrocrataidd ar ffermwyr
Roedd croeso hefyd gan Alun Owen, is-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru ar gyfer rhanbarth y gogledd.
"'Dan ni wedi galw am hyn dros y blynyddoedd, bod y tâp coch a biwrocratiaeth yn feichus ar y diwydiant.
"Mae na gyfle 'ŵan i gael gwared ar y fiwrocratiaeth sy'n cael ei dyblygu a 'da ni'n edrych ymlaen at gydweithio gyda'r panel a'r cadeirydd i roi safbwynt yr undeb."
Fel enghraifft o'r math o ddyblygu sy'n digwydd, dywedodd Mr Owen bod elfennau o'r gwaith papur ar gyfer archwiliadau gwarant fferm hefyd wedi'i gynnwys yn y Cynllun Ffermio Cynaladwy.
"Mae rhywun yn gof yn wedyn," meddai.
"Pam fod hynny'n bod? Pam na fedrwch chi gyfuno'r ddau yna a lleihau'r baich sydd ar y diwydiant? Mae 'na lot fawr o hynny'n bodoli."
Er bod yr undebau a llawer o ffermwyr unigol yn gweld y fiwrocratiaeth fel baich, mae yna resymau pam mae gwaith papur ychwanegol wedi'i ystyried yn angenrheidiol dros y blynyddoedd diwethaf, yn ôl grwpiau amgylcheddol.
Mae gan Cymru Wyllt bryderon y gallai unrhyw newidiadau effeithio ar gynlluniau cadwraeth, yn ôl eu prif swyddog Rob Parry.
"Mi allai symleiddio'r system helpu mwy o ffermydd i weithredu dros fywyd gwyllt, ond ddylai lleihau 'tâp coch' ddim dod ar draul gwarchodaeth amgylcheddol," meddai.
"Gydag un mewn pum rhywogaeth yng Nghymru'n wynebu marw allan, mae'n rhaid i ariannu amaethyddol gefnogi'r newidiadau sydd eu hangen i wyrdroi dirywiad ym myd natur."

Roedd croeso i'r adolygiad ym mart Castellnewydd Emlyn, ond mae grwpiau cadwraeth yn rhybuddio na ddylai lleihau biwrocratiaeth "ddod ar draul gwarchod yr amgylchedd"
Dywedodd elusen Afonydd Cymru eu bod yn cefnogi cael gwared â biwrocratiaeth ormodol o brosesau rheoleiddio, ond bod "tystiolaeth wyddonol gadarn bod amaethyddiaeth a defnydd tir anffafriol yn effeithio ar faint ac ansawdd dŵr mewn afonydd".
Ychwanegodd llefarydd: "Mae pobl Cymru wedi dangos yn glir a dro ar ôl tro faint mae afonydd yn golygu iddyn nhw.
"Er mwyn cyflawni ymrwymiad y llywodraeth i sicrhau bod 100% o afonydd Cymru yn cyflawni statws ecolegol da, bydd angen i reoleiddio ffermio fod yn effeithiol.
"Mae angen mewnbwn i'r adolygiad annibynnol hwn gan yr holl gyfranogwyr."
'Cais i ennill ymddiriedaeth ffermwyr'
Mae yna gais amlwg i ennill ymddiriedaeth ffermwyr yn nyddiau cynnar y llywodraeth newydd - o newid cyfyngiadau gwasgaru slyri i drafod taclo TB mewn moch daear.
Nawr, dyma lansio adolygiad naw mis i "faich biwrocratiaeth" ar y diwydiant - sydd wedi bod yn un o ofynion undebau ers blynyddoedd.
Gyda nifer o wrthwynebwyr Plaid Cymru yn y Senedd - o Reform a'r Ceidwadwyr i'r unig Ddemocrat Rhyddfrydol - hefyd yn cystadlu i gael eu gweld yn bencampwyr dros fyd amaeth, fe allai fod digon o gefnogaeth i basio unrhyw newidiadau posib i reoliadau.
Ond mae yna ddadl wrth gwrs bod rheolau a gwaith papur yna am reswm, a thra bod y llywodraeth yn mynnu mai osgoi dyblygu yw'r nod ac nid gwanhau, fe allen nhw wynebu gwrthwynebiad.
Mae peth anfodlonrwydd yn barod yn cael ei fynegi gan rai yn y sector amgylchedd o ran trywydd y llywodraeth newydd, a galw am ffocws cyn hir ar gynlluniau i daclo colledion natur a newid hinsawdd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.