Arestio tri o Gymru ar ôl canfod 12 tunnell o ganabis gwerth £139m

- Cyhoeddwyd
Mae tri o bobl o dde Cymru wedi'u harestio fel rhan o ymchwiliad i fewnforio canabis gwerth miliynau o bunnoedd o Ganada i'r DU.
Cafodd y tri eu harestio ar ôl i swyddogion Llu'r Ffiniau ganfod tua 12 tunnell o ganabis mewn dau gynhwysydd ym mhorthladd Southampton.
Dywedodd yr awdurdodau mai dyma'r atafaeliad canabis mwyaf erioed gan Lu'r Ffiniau.
Mae'r cyffuriau, sydd â gwerth stryd o £139m, wedi'u cysylltu ag ymchwiliad sy'n cael ei arwain gan Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol De-orllewin Lloegr (SWROCU).

Cafodd y cynwysyddion eu stopio ym Mhorthladd Southampton ar 6 Mai ar ôl i asiantaethau yng Nghanada a'r DU rannu gwybodaeth am y llwyth.
Pan edrychodd swyddogion drwy'r cynwysyddion fe ddaethon nhw o hyd i tua 1,200 o flychau yn cynnwys tua 12 tunnell o ganabis.
Fore Mawrth cafodd menyw yn ei 30au o Ferthyr Tudful, dyn yn ei 40au o Lynebwy a dyn yn ei 30au o Abertyleri eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio i fewnforio a chyflenwi canabis, a throseddau ariannol.
Cafodd y dyn o Abertyleri hefyd ei arestio ar amheuaeth o feddu ar gyffuriau Dosbarth A gyda'r bwriad o'u cyflenwi.

Dywedodd yr Arolygydd Dros Dro o SWROCU, Stuart Cumine, fod yr atafaeliad wedi "tynnu llawer iawn o gyffuriau oddi ar y strydoedd ac wedi amddifadu gangiau troseddol o filiynau o bunnoedd".
Ychwanegodd fod gwaith ar y cyd rhwng asiantaethau yn y DU ac yng Nghanada yn helpu i "darfu ar rwydweithiau troseddol" a "diogelu cymunedau rhag niwed sy'n gysylltiedig â chyffuriau a throseddau cyfundrefnol eraill".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.