Dyn 102 oed yn ddifrifol wael ar ôl ymosodiad honedig mewn tafarn

Crow's Nest
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig yn nhafarn y Crow's Nest ar 1 Awst

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 102 oed mewn cyflwr difrifol ar ôl ymosodiad honedig mewn tafarn yng Nghwmbrân.

Cafodd gwasanaethau brys eu galw i dafarn y Crow's Nest tua 22:25 nos Sadwrn, 1 Awst, ac fe gafodd y dyn ei gludo i'r ysbyty i gael triniaeth.

Mae dyn 56 oed o Lanelli wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod, a'i ryddhau dan ymchwiliad.

Mae Heddlu Gwent yn gofyn i unrhyw un oedd yn y dafarn rhwng 22:00 a 23:00 y noson honno i gysylltu â nhw.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent fod swyddogion wedi mynd i'r dafarn ynghyd â chriwiau o Wasanaeth Ambiwlans Cymru, a bod y dyn 102 oed yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig