Cyhuddo tri o Gymru ar ôl canfod 12 tunnell o ganabis gwerth £139m

CanabisFfynhonnell y llun, SWROCU
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd tua 12 tunnell o ganabis ei ganfod mewn dau gynhwysydd ym mhorthladd Southampton

  • Cyhoeddwyd

Mae tri o bobl wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â chanfyddiad canabis gwerth miliynau o bunnoedd.

Cafodd y tri eu harestio ddydd Mawrth, ar ôl i swyddogion Llu'r Ffiniau ganfod tua 12 tunnell o ganabis mewn dau gynhwysydd ym mhorthladd Southampton.

Dywedodd yr awdurdodau mai dyma'r canfyddiad mwyaf erioed gan Lu'r Ffiniau.

Y tri a gafodd eu harestio oedd Daniel Gould-Lewis, 37 oed o Islwyn Close yng Nghaerffili, Gavin Davies, 45 oed o Mill Terrace yng Nglynebwy a Heidi Phillips, 36 oed o Beech Grove, Merthyr Tudful.

Mae'r tri wedi cael eu cyhuddo o fod yn rhan o fewnforio canabis, cynllwynio i gyflenwi canabis, troseddau ariannol a bod yn ymwybodol o fewnforio arf sydd wedi'i gwahardd.

Cafodd Mr Gould-Lewis ei gyhuddo o ddau gyhuddiad arall hefyd, o fod â chyffuriau dosbarth A - heroin a chrac cocên - yn ei feddiant, gyda'r bwriad o gyflenwi.

Mae'r tri wedi cael eu cadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos yn Llys Ynadon Bryste ddydd Iau.

CanabisFfynhonnell y llun, SWROCU
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr awdurdodau mai dyma'r atafaeliad canabis mwyaf erioed gan Lu'r Ffiniau

Mae'r cyffuriau, sydd â gwerth stryd o £139m, wedi'u cysylltu ag ymchwiliad sy'n cael ei arwain gan Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol De-orllewin Lloegr (SWROCU).

Cafodd y cynwysyddion eu stopio ym Mhorthladd Southampton ar 6 Mai ar ôl i asiantaethau yng Nghanada a'r DU rannu gwybodaeth am y llwyth.

Pan edrychodd swyddogion drwy'r cynwysyddion, daethon nhw o hyd i tua 1,200 o flychau yn cynnwys tua 12 tunnell o ganabis.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Straeon perthnasol