Teulu'n cofio am ddyn fu farw wedi gwrthdrawiad adeg Eisteddfod 1976

Mansel ThomasFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Mansel Thomas yn dweud eu bod yn gweld ei eisiau "yn ddyddiol"

GanAled Scourfield
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Bydd digwyddiad yn Aberteifi dros y penwythnos i gofio am ddyn ifanc lleol gafodd ei ladd mewn damwain ddychrynllyd 50 mlynedd yn ôl, yn ystod Eisteddfod Aberteifi 1976.

Daeth ton o dristwch dros y dref yn ystod y brifwyl y flwyddyn honno ar ôl i Mansel Thomas, oedd yn 19 oed, a thri o gerddwyr eraill gael eu taro gan gar tu allan i'r maes ar 3 Awst.

Bu farw Mansel, oedd o ystad Maesglas yn y dref, o'i anafiadau yn yr ysbyty ar 7 Awst 1976.

Mae adroddiad o'r llys ar y pryd yn dweud bod gyrrwr y car wedi cyfaddef gyrru gydag alcohol yn ei system pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad. Cafodd ddirwy a gwaharddiad rhag gyrru. Cafwyd yn ddieuog o yrru'n beryglus.

'Cyfnod anodd iawn'

Mae brawd iau Mansel, David Thomas, oedd yn wyth oed ar y pryd, yn dweud bod cynnal yr Eisteddfod yn yr ardal unwaith eto wedi "ail godi" atgofion am yr hyn ddigwyddodd i'w frawd mawr.

"Mae gweld y maes yn cael ei roi at ei gilydd, y fflagiau a'r amodau llychlyd a sych, wedi dod nôl â llawer o atgofion. Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd iawn."

Dywedodd David fod ei frawd yn "berson hwyliog" oedd yn mwynhau dosbarthu llaeth ar rownd leol, ac "wrth ei fodd" yn gweithio ar fferm ieir Caemorgan.

Roedd Mansel hefyd yn focsiwr addawol, ac "yn dwli gweithio gyda cheir".

David yn blentyn wrth fedd ei frawdFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

David Thomas yn blentyn wrth fedd ei frawd

Fe fydd ei frawd, a'i chwiorydd Joan ac Ann, yn cynnal digwyddiad yn nhafarn y Black Lion yn Aberteifi am 15:00 ar 8 Awst, "ble fydd cyfle i bobl ddod i rannu atgofion" amdano. Mae ei rieni, May a Tom, bellach wedi marw.

Dywedodd David Thomas wrth BBC Cymru Fyw fod nifer fawr o bobl o'r ardal wedi bod mewn cyswllt ar ôl iddo rannu llun ei frawd ar wefannau cymdeithasol yn ymwneud gyda'r Eisteddfod Genedlaethol.

"Mae hyn wedi pwyso arno a dyw'r pwyse byth yn diflannu. Mae'n anodd i bobl ddeall."

Mae'n dweud y bydd croeso i bawb yn y digwyddiad i gofio am Mansel, a'i fod o a'i chwiorydd yn "colli Mansel yn ddyddiol".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.