Cenedlaethau'r dyfodol 'mewn peryg' heb blannu mwy o goed

Mae'r Athro Bid Webb o Brifysgol Bangor yn ddarlithydd amaethgoedwigaeth ac yn ffermio yn Llandegfan
- Cyhoeddwyd
Mae "biwrocratiaeth" yng Nghymru yn gallu golygu bod hi'n "llawer haws" torri coetir na chreu un o'r newydd - dyna rybudd yr elusen gadwraeth Coed Cadw.
Mae ystadegau yn dangos bod nifer y coed sy'n cael eu plannu yn cynyddu ar draws gwledydd datganoledig y DU ond mae 'na bryderon nad yw'n digwydd yn ddigon cyflym i gyrraedd targedau.
Yn ôl grŵp dadansoddi The Energy and Climate Intelligence Unit bydd Cymru ond yn cyrraedd 10% o'i tharged ei hun erbyn 2030 - sef ffigwr sy'n llawer is na'r hyn sy'n cael ei ragweld ar gyfer y cenhedloedd datganoledig eraill.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais i ymateb.
'Mor bwysig plannu coed'
Mae'r Athro Bid Webb o Brifysgol Bangor yn ddarlithydd amaethgoedwigaeth ac yn ffermio yn ardal Llandegfan ar Ynys Môn.
Mae'n dweud bod plannu digon o goed ar ei thir wedi talu ar ei ganfed - yn enwedig yn ystod adegau o dywydd poeth.
"'Da ni wedi plannu coed dros y blynyddoedd, lot dros y gaeaf diwethaf," meddai.
"'Da ni'n ffermio cnau Ffrengig (Walnuts) a hefyd yn cadw defaid.
"Mae hi mor bwysig plannu coed... mae'n boeth iawn heddiw ac mae newid hinsawdd yma.
"Mae'n bwysig gwneud pethau i gynnig resilience i ni yn y dyfodol."

"Yn y dyfodol mi fydd y coed yma'n darparu cysgod i'r anifeiliaid ac ar yr un pryd yn cynhyrchu cnau i ni.
"Ond 'da ni angen mwy o goed yn y dinasoedd a'r trefi hefyd... yng Nghymru 'da ni mor araf.
"'Da ni'n gorfod trio mwy caled, 'da ni ddim isho coed ymhob man. Rhaid dewis y coed cywir am y rheswm cywir hefyd."
Mae defnyddio coed i fynd i'r afael â newid hinsawdd wedi'i hen sefydlu fel dull naturiol gan weithio ochr yn ochr â mesurau dynol.
Mae coed yn helpu i amsugno carbon deuocsid ac yn cynnig cysgodfan naturiol i bobl ac anifeiliaid yn yr haul.
Gall coed hefyd helpu i amddiffyn cymunedau rhag llifogydd.
Mae ystadegau ar gyfer 2026 yn dangos bod nifer y coed sy'n cael eu plannu yn cynyddu yn gyffredinol yn y gwledydd datganoledig.
Ond y pryder gan grwpiau hinsawdd a natur yw nad yw'n digwydd yn ddigon cyflym i ymdopi â'r heriau mae cymunedau yn eu hwynebu wrth i'r hinsawdd barhau i newid.
Ffigyrau plannu coed Cymru yn 'hynod siomedig'
Dyweododd Kylie Jones Mattock, Cyfarwyddwr Coed Cadw: "Mae dwy ran o dair o'r cyhoedd yng Nghymru yn cefnogi plannu mwy o goed ond mae'r ffigyrau plannu ar hyn o bryd yn hynod siomedig.
"Fel cenedl 'da ni methu cyflawni'r cyflymder sydd ei angen i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur."

Ychwanegodd: "Ar ddiwrnod fel heddiw mae anifeiliaid a phobl yn chwilo am gysgod a byddai mwy o orchudd coed yn cynnig llawer o fanteision.
"Os 'da ni ddim yn ehangu'r gorchudd coed bydd natur mewn perygl a bydd effeithiau drwg i bobl... maen rhaid i ni wyrddio'r strydoedd.
"Mae 'na risg hefyd i'r byd amaeth, mae 90% o dir Cymru yn dir amaethyddol, felly mae angen cefnogaeth ddigonol ar ffermwyr i addasu i'r hinsawdd sy'n newid oherwydd mae hynny'n effeithio ar eu busnesau fferm."
Mae dadansoddiad The Energy and Climate Intelligence Unit yn dangos y bydd gan y DU fwlch plannu coed o dros 4,000 hectar erbyn 2030 - ardal sy'n cyfateb o ran maint i ddinas Portsmouth.
Dywedodd Tom Cantillon, uwch-ddadansoddwr y grŵp, bod eu hymchwil yn awgrymu bod y canlyniadau ledled y DU yn gymysg, gyda'r Alban yn cyflawni ei chyfraddau plannu i raddau helaeth ond y gwledydd eraill ar ei hôl hi - yn enwedig Cymru.
Mae eu dadansoddiad o'r data yn dangos mai ond tua 10% o darged Cyllideb Carbon 2 Llywodraeth Cymru a 27% o darged y Climate Change Committee (CCC) - corff sy'n cynghori gweinidogion - fydd Cymru yn ei gyflawni erbyn 2030.
Mewn Llywodraeth Cymru wedi cael cais i ymateb.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mawrth

- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2024

