Diffyg ar yr haul mwyaf ers 1999 yn cael ei weld ar draws y wlad

WrecsamFfynhonnell y llun, BBC Weather Watchers/Ann 97
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa yn Wrecsam nos Fercher

  • Cyhoeddwyd

Mae diffyg ar yr haul, neu eclips, mwyaf trawiadol y ganrif hyd yn hyn wedi cael ei weld yng Nghymru.

Ar ei anterth roedd mwy na 90% o wyneb yr haul yn cael ei orchuddio gan y lleuad, gyda'r cyfan yn digwydd rhwng tua 18:00 ac 20:00 nos Fercher.

Roedd gorllewin Cymru - Penrhyn Gŵyr, Abertawe a thraeth Rest Bay ym Mhorthcawl yn benodol - ymhlith y llefydd gorau yn y DU i weld yr eclips, yn ôl arbenigwyr.

Oriel luniauNeidio heibio'r oriel luniauSleid 1 o 9, Talacre, Y diffyg ar yr haul i'w weld o Dalacre yn Sir y Fflint

Roedd Carol Barley wedi teithio o Tamworth yn Sir Staffordd i wylio'r eclips ar draeth Rest Bay ym Mhorthcawl.

"Dwi'n dod i'r rhan yma o'r arfordir yn aml oherwydd mae hi'n syfrdanol," meddai.

"Wnes i deithio yma neithiwr yn benodol ar gyfer yr eclips er mwyn gallu ei weld o'r traeth am y tro cyntaf yn fy mywyd.

"Dwi mor gyffrous ond dwi angen sbectol!"

Disgrifiad,

Roedd ein gohebydd Iolo Cheung wedi mynd i Borthcawl i wylio'r cyfan

Dywedodd Carol ei bod yn gweithio fel bydwraig yn ystod y diffyg ar yr haul trawiadol yn 1999 a'i bod wedi ei wylio gan ddefnyddio ffilm pelydr-x.

"Alla i ddim disgwyl. Dyma fydd fy nghyfle olaf i weld hyn felly dwi am wneud y mwyaf ohono," ychwanegodd.

Carol Barley
Disgrifiad o’r llun,

"Alla i ddim disgwyl. Dyma fydd fy nghyfle olaf i weld hyn felly dwi am wneud y mwyaf ohono," meddai Carol Barley

Beth yw diffyg ar yr haul?

Mae diffyg ar yr haul yn digwydd pan mae'r lleuad yn symud rhwng yr haul a'r Ddaear, gan rwystro golau yn rhannol neu'n llwyr.

Mae Cymru a gweddill y DU wedi gweld eclips rhannol, tra bod rhai rhannau o Sbaen a gwledydd eraill yn gweld eclips llwyr.

Dyma'r diffyg ar yr haul mwyaf trawiadol i'w weld o Brydain ers Awst 1999.

Ni fydd eclips solar mor fawr â hyn i'w weld o'r DU eto tan 2081, a bydd yr eclips solar llwyr nesaf yn y DU yn 2090.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol