Rheoli amser sgrin yn 'anodd' i rieni yn ystod gwyliau'r haf

Mae Cerys Colven, yma gyda'i meibion Elis a Macsen, yn cydnabod y gall hi fod yn "anodd" gosod rheolau o ran amser sgrin plant
- Cyhoeddwyd
Gyda disgyblion Cymru ynghanol chwe wythnos o wyliau haf, mae mam o Geredigion yn cydnabod pa mor "anodd" yw rheoleiddio amser sgrin ei phlant ar adegau.
Er bod ei meibion yn hoff o chwarae tu allan, mae Cerys Colven yn dweud bod ei mab hynaf yn gofyn yn "lot fwy aml" i ddefnyddio technoleg, gan gynnwys gemau fideo i gadw mewn cyswllt â ffrindiau.
Mae cwmni Vodaphone yn amcangyfrif bod plant wedi treulio pedair awr y dydd ar gyfartaledd ar y we dros wyliau'r haf y llynedd - 42% o gynnydd o'i gymharu ag yn ystod y tymor.
Yn ôl seicolegydd plant, mae rhieni "angen talu sylw i faint o amser maen nhw eu hunain yn ei dreulio ar sgrin", gan ddweud bod hynny'n dylanwadu ar arferion eu plant.
'Dysgu pethau gwahanol' ar sgrin
Efallai bod y gwyliau yn amser i blant ymlacio, ond mae'n hefyd creu her i rieni o ran sut i'w diddanu.
Mae Cerys Colven o Frynhoffnant yn ne Ceredigion yn fam i Macsen ac Elis, ac er ei bod hi'n dweud bod "lle i sgriniau" ym mywyd ei phlant, mae'n gallu bod yn anodd rheoli'r amser yna.
Dywedodd: "Yn enwedig gyda'r mab hyna', mae ffrindiau fe yn hoffi chwarae pethau ar y Switch neu PlayStation neu beth bynnag, felly ma' fe'n gofyn lot fwy aml i fynd arno fe.
"Ond dwi'n meddwl, mae yna lot o gemau, apiau gwahanol, lle mae'r plant yn gallu dysgu pethau gwahanol, cyfathrebu gyda pobl wahanol hefyd."
Rhai o'r technegau mae Cerys yn eu defnyddio i gadw golwg ar amser sgrin ei phlant yw gosod larwm ar declyn Alexa, fel nad hi "sy'n cael y bai" bod yr amser sgrin wedi dod i ben.

Mae gan Seren, Awen a Skye ffonau clyfar, ond mae rhai yn eu defnyddio fwy na'i gilydd
Yn ystod wythnos olaf y tymor, roedd disgyblion Ysgol Dyffryn Nantlle yn edrych ymlaen at y gwyliau.
Ond oedden nhw'n bwriadu edrych ar sgrin er mwyn diddanu eu hunain?
Mae Skye ym mlwyddyn 10, ac yn treulio saith awr ac 20 munud pob dydd ar ei ffôn yn ystod wythnos arferol, yn ôl data ei ffôn.
O ran rheolau adref, dyw rhieni Skye ddim yn monitro ei defnydd o sgriniau, ond mae hi'n gorfod cadw ei ffôn am 20:00.
"Weithiau dwi'n meddwl, 'dwi jyst eisiau mynd arno fo am fwy'," meddai.
Cafodd Skye ffôn am y tro cyntaf pan yn 11 oed, ac mae'n credu fod hynny'n "beth da" o ran ei pherthynas gyda thechnoleg.
"Brawd fi - mae o wedi cael ffôn ers oedd o'n dair, a dwi ddim ond wedi cael ffôn pan o'n i'n 11.
"Felly dwi'n meddwl maen nhw efo teimladau cryf am eu ffonau symudol."
'Gofyn i fy rhieni am ganiatâd'
Ychydig dros awr y dydd mae Awen ar ei ffôn, gan ei ddefnyddio'n bennaf i wrando ar gerddoriaeth a chyfathrebu gyda ffrindiau.
"Pan dwi'n adra mae'n rhaid i fi ofyn i fy rhieni am ganiatâd i fynd ar ffôn fi," meddai.

Does gan Osian ddim unrhyw reolau penodol, ond mae ei rieni yn cadw llygad ar ei ddefnydd o sgriniau
Mae ei chyd-ddisgybl Osian yn meddwl y bydd ar ei ffôn yn llai aml yn ystod yr haf, er nad oes rheolau penodol ganddo adref am ei ddefnyddio.
"Mae hi'n fwy braf felly 'na i dreulio mwy o amser tu allan, ond os ma' Mam yn gweld dwi ar ffôn fi gormod ar un diwrnod neu un wythnos, ma' hi'n cymryd o oddi wrtha' i.
"Byswn i'n licio gweld mwy o haul [dros y gwyliau] felly dwi ddim yn gorfod mynd ar ffôn fi mor aml."
Newid dros dro ddim yn ddiwedd y byd

Mae Dr Nia Williams yn dweud bod rhieni angen ystyried faint o amser mae nhw'u hunain yn treulio yn defnyddio technoleg
Er yn dweud bod cynnydd mewn amser sgrin yn gallu cael effaith ar ymddygiad ac ansawdd cwsg plant, mae Dr Nia Williams, seicolegydd plant ym Mhrifysgol Bangor, yn dweud nad yw newid dros dro mewn arferion yn niweidiol ar y cyfan.
"Os mae rhieni'n gweithio dros y gwyliau haf, wrth gwrs mae'n mynd i fod yn anodd rheoli faint o amser mae dy blentyn yn treulio ar sgrin," meddai.
"Rhaid i ni gofio o ran gwyliau - dydyn nhw ddim yn hir, hir, hir, ac felly os ydy'r plentyn yn mynd yn ôl wedyn i'w routine, yna gorau byd."
Miloedd o rieni i gael cais i beidio rhoi ffôn clyfar i'w plant nes 14
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2025
'Dwi ddim am wahardd ffonau o'r ysgol, rhaid i blant ddysgu bod yn gyfrifol'
- Cyhoeddwyd14 Ebrill
A yw'n syniad da gwahardd cyfryngau cymdeithasol i blant?
- Cyhoeddwyd21 Ionawr
Wrth reoli amser sgrin plant, "un o'r pethau pwysicaf" yw i rieni ystyried faint o amser maen nhw'n treulio yn defnyddio technoleg, yn ôl Dr Williams.
"Monkey see, monkey do - felly os maen nhw [rhieni] yn treulio lot o amser ar y ffôn, yna mae'r plant efallai am wneud yr un peth.
"Rydw i wedi gweld rhai rhieni yn gosod mannau heb dechnoleg hefyd.
Er mwyn annog plant i wneud y mwyaf o'r tywydd braf, mae Dr Williams hefyd yn annog pobl i chwilio am ddigwyddiadau am ddim sy'n digwydd yn lleol i chi.
"Mae gormod o amser ar y sgrin yn gallu cael effaith negyddol, ond mae yna hefyd bethau positif o dreulio amser ar y sgrin, felly jest bod yna gydbwysedd iach yn digwydd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.