Pont rhwng Cymru a Lloegr i ail-agor yn rhannol - ond gall gau mewn 'tywydd eithafol'

Pont GwyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bont restredig Gradd I yn cysylltu dwy gymuned ar ddwy ochr y ffin rhwng Cymru a Lloegr

  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i bont "eiconig" sy'n cysylltu Cymru a Lloegr ail-agor yn rhannol dros y penwythnos, ond fe fydd yn rhaid iddi gau eto os bydd y tywydd yn mynd yn rhy boeth neu'n rhy oer.

Mae hen Bont Gwy yng Nghas-gwent, sy'n dros 200 oed, a sy'n bont restredig Gradd I, wedi bod ynghau i gerbydau ers mis Hydref 2025, ar ôl i graciau gael eu darganfod yn y trawstiau strwythurol.

Fe gaeodd hefyd i gerddwyr ym mis Mawrth 2026, gyda phobl ar ddwy ochr y ffin - yn Sir Fynwy a Sir Gaerloyw, yn mynegi eu rhwystredigaeth.

Er nad oes amserlen iddi ail-agor i gerbydau, mae disgwyl iddi ail-agor i gerddwyr a beicwyr ddydd Sadwrn, ond mae peirianwyr arbenigol yn cynghori y gallai gau eto mewn "tymereddau eithafol".

'Sensitif i dymereddau'

Yn benodol gallai gau os yw'r tymheredd yn codi uwchben 30°C, neu fynd o dan -3⁰C, oherwydd bod y strwythur yn "sensitif i newid tymereddau a llwyth", yn ôl Cyngor Sir Fynwy.

Fe ddaw'r rhybudd hwnnw gyda darogan y bydd ton wres yn taro Ewrop dros y penwythnos, a rhagolygon y bydd y tymheredd yng Nghas-gwent yn 28°C ddydd Sul a 29°C ddydd Llun.

Dywedodd y cyngor y byddai'r bont yn cael ei monitro'n ofalus, ac y gallai gau eto os bydd dirywiad pellach yn dod i'r amlwg yn y trawstiau haearn.

"Mae'n anodd iawn i'w thrwsio, ond ar yr un pryd mae'n eitha' eiconig, ac yn strwythur hen iawn, sy'n rhan enfawr o hanes traws-ffiniol y sir", meddai Peter Strong sy'n byw yn lleol.

"Mae ei chael ar agor i gerddwyr yn rhywbeth rydyn ni eisiau ei gyflawni, ond yn amlwg mae'n rhaid ystyried diogelwch."

Pont GwyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bont yn cysylltu cymunedau Tutshill yn Lloegr, a Chas-gwent yng Nghymru

Gyda'r bont ynghau, mae gyrwyr sydd eisiau teithio rhwng Cymru a Lloegr yn gorfod gwneud gwyriad o 5 munud i ddefnyddio'r bont fwy ar yr A48 - croesiad a agorodd yn 1988.

Ond mae'r hen bont hefyd yn creu cyswllt rhwng dwy gymuned gymysg Gymreig-Seisnig ar ddwy ochr y ffin.

"Yn Lloegr, mae pentrefi Tutshill a Sedbury, ond mae meddygfa Tutshill a Sedbury yn rhan o GIG Cymru," meddai'r cynghorydd lleol Armand Watts.

"Mae ganddyn nhw Dŵr Cymru, sy'n cael ei redeg gan Gymru, a chod post NP16, sef Casnewydd.

"Mae pobl yno yn teimlo'n rhan o Gymru, nid pawb, ond maen nhw'n gwerthfawrogi'r gwasanaethau ac yn gallu mynd i'r ysgol yng Nghymru."

Cyn i Bont Hafren agor yn 1966, yr Hen Bont Gwy oedd yr unig strwythur oedd yn galluogi rhai o Dde Cymru i groesi i Loegr.

Mae hefyd yn un o'r pontydd pum-bwa haearn hynaf yn y byd.

Erbyn hyn mae'n bwysig i bobl leol, sy'n gweithio, siopa a mynd i ysgolion bob ochr i'r bont.

Mae Armand Watts yn gobeithio y bydd yn gallu ail-agor i geir eto.

Ond os na all hynny ddigwydd, mae'n credu y gellir gosod cyfyngiadau pwysau i alluogi pobl leol i ddefnyddio'r bont, gan atal cerbydau trymach.

"Mae yna lawer o rwystredigaeth o fewn y gymuned, a hyd yn oed yr ymwelwyr sy'n mynd i Gastell Cas-gwent," meddai.

Pont GwyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bont yn cael ei hystyried yn bwysig i bobl leol sy'n gweithio, siopa a mynd i ysgolion bob ochr iddi

Ond mae rhai pobl leol, gan gynnwys Amy Ryan yn ffafrio cadw'r bont ynghau i gerbydau.

Mae'n "brydferth o dawel yn y boreau a'r nosweithiau", meddai.

"Mae defnydd helaeth o'r bont yn ystod yr oriau brig yn cael effaith ddifrifol ar bobl leol oherwydd sŵn a llygredd.

"Hefyd mae'r cyfyngiadau pwysau yn cael eu hanwybyddu, a gyda cherbydau trwm yn aml yn defnyddio'r bont a phasio fy nhŷ, sydd yn 159 o flynyddoedd oed, byddai'r adeilad yn ysgwyd."

Cafodd y bont ei hadeiladu gan John Urpeth Rastrick ym 1816, gan gostio tua £17,850 - fyddai'n tua £2.2m heddiw.

Mae ei chau wedi achosi problemau i bobl ar ddwy ochr y ffin.

Mae perchennog busnes yn Sir Gaerloyw bellach wedi symud er gwaethaf lleoliad "godidog" ar un ochr y bont, tra bod cadeirydd Cyngor Plwyf Tidenham, Clive Russell wedi ei ddisgrifio fel "problem fawr".

'Adfer cyswllt pwysig'

Dechreuodd gwaith ddydd Mawrth i alluogi cerddwyr i ddefnyddio'r palmant, ac mae rhan o'r ffordd rhwng Cas-gwent a Tutshill bellach wedi agor.

Mae hynny'n dilyn adroddiad gan beirianwyr arbenigol, wnaeth gadarnhau, o gael ei monitro'n ddigidol, y gallai hi ail-agor i gerddwyr, tra bod archwiliadau strwythurol yn cael eu cynnal.

Bydd asesiad Categori III - y lefel uchaf o asesiad diogelwch, yn cael ei gynnal i benderfynu a ellir ail-agor y bont yn llawn.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, aelod cabinet Cyngor Sir Fynwy dros newid hinsawdd a'r amgylchedd eu bod yn "falch o allu ail-agor y bont i gerddwyr, gan adfer cyswllt pwysig i'n cymunedau".

"Mae'r penderfyniad wedi ei lywio gan gyngor oddi wrth arbenigwyr, gyda monitro cyson i sicrhau mai diogelwch y cyhoedd sy'n parhau i fod yn brif flaenoriaeth," meddai.

"Rydyn ni'n gwerthfawrogi pa mor bwysig ydi'r croesiad i breswylwyr ac ymwelwyr, a thra bod profion manwl yn parhau, byddwn yn cadw'r bont o dan oruchwyliaeth fanwl, gan gymryd unrhyw gamau sydd eu hangen i warchod y rhai sy'n ei defnyddio."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.