'Ennill ras yn erbyn Gregory Peck yn 17 oed'

Gareth Rees a Gregory Peck yn Moby Dick
- Cyhoeddwyd
I'r mwyafrif ohonom mae'r enw Gregory Peck yn gysylltiedig gyda ffilmiau fel To Kill a Mockingbird, Roman Holiday a Moby Dick.
Ond mae gan un gŵr 88 oed o Abergwaun atgofion unigryw o'r actor o Galifornia, wedi iddo fe a'i griw ennill ras cychod yn erbyn seren y sgrin pan oedd yn 17 oed.
Wrth i Abergwaun ddathlu 70 mlynedd ers i sêr Hollywood a channoedd o griw ffilm gyrraedd Sir Benfro i ffilmio Moby Dick, bu Gareth Rees yn cofio un ras rhwyfo arbennig iawn yn erbyn rhai o'r enwogion.

Y Ras ym Mae Abergwaun: Gregory Peck yn llywio'i gwch ar y chwith a'r Cadlanciau ar y dde
Bachgen ysgol yn ei arddegau oedd Gareth pan drefnwyd y ras gydag aelodau o'r Cadlanciau Môr [Sea Cadets] mewn dau gwch yn rhwyfo yn erbyn un cwch oedd yn llawn dynion stynt y ffilm ac un cwch o sêr y ffilm gyda Gregory Peck yn llywio.
Roedd criwiau'r Cadlanciau yn eu harddegau hwyr ac yn rhywfo'n erbyn dynion – ond roedd ganddynt sawl mantais serch hynny.
Fel plant wedi eu magu yn nhref arfordirol Abergwaun roeddynt yn rwyfwyr profiadol ac roedd y Cadlanciau wedi bod yn ennill cystadleuthau rhwyfo cenedlaethol ar draws Prydain dros y blynyddoedd.
Ac un mantais mawr yn ôl Gareth Rees oedd fod cychod y criw ffilm lawer yn ysgafnach na'r cychod oedd y Cadlanciau fel arfer yn eu defnyddio: "Oedd cychau 'da ni oedd yn whalers ac yn drwm i rhwyfo.
"Ond diwrnod y ras buo ni'n useo cychod y criw ffilm a welais i nhw lot yn rhwyddach i rwyfo, oedd ddim gwmynt o bwyse gyda nhw ac o'n nhw'n mynd yn glouach.
"Oedd un tîm o'r stuntmen ac oedd tîm arall o'r stars – Richard Baseheart, Leo Genn a Gregory Peck oedd y coxon.
"Wen ni ddim wedi bod yn y cychod hynny o'r blaen ac oedd lot o nôl a mlaen – wedd Geoff ddim yn siŵr sut i useo'r tiller a pethe. [Prifathro ysgol Abergwaun Geoff Morgan oedd yn gyfrifol am y Cadlanciau]
"Dim ond jest peidio troi dros wnaethon ni."

Gregory Peck yn chwarae rhan Capten Ahab yn y ffilm gyda chriw y llong o'i amgylch
Buddugoliaeth yn erbyn y sêr
"Cwch y stuntmen ddaeth yn gynta' yn y ras jest o'n blaen ni, wedyn ein cwch ni, wedyn Gregory Peck a'i griw e ac wedyn y criw arall o'r Cadets.
"Wedd y ras lawr i Gwm Abergwaun o Wdig [tua milltir a hanner] ac erbyn y diwedd wen ni'n dala y criw gynta' sef y stuntmen lan. Falle bod nhw'n cymryd hi'n rhwyddach erbyn hynny ond o'n ni sbel o flaen cwch y stars."
Bosib iawn fod sêr y ffilm ddim yn gyfarwydd â'r gwaith caled o rwyfo, fel mae Gareth yn dweud: "Wedd rhywun arall yn neud y gwaith caled i'r stars fel arfer!"

Poster Moby Dick
Wedi i Gareth a'i dîm ddod yn ail a churo tîm Gregory Peck, mi oedd 'na seremoni wobrwyo yn y clwb cychod yng Nghwm Abergwaun, fel mae'n sôn: "Un peth dwi'n cofio wedd y presentation a speeches a pethe, wedd crowd yna.
"Daeth John Huston [cyfarwyddwr Moby Dick] a geson ni'r wobr ac oedd ein enwau yn y papur.
"'Nath John Huston roi presentation i Gregory Peck ac agorodd e'r parsel ac achos Moby Dick oedd y ffilm o'n nhw'n neud, lwmpyn o blubber wedd yn y parsel fel preis!
"Dwi'n cofio Gregory Peck yn taflu e nôl at John Huston. Wedd lot o sbort yna."

Y criw yng ngwesty Bae Abergwaun yn Awst 1954. Chwith i dde: Noel Purcell (actor), Richard Basehart (actor), Johnny King Kelly (dyn stynt), John Huston (cyfarwyddwr), Jack Martin (cyfarwyddwr cynhorthwyol), Len Prout (trydanwr), Jack Culver (dyn camrea), Leo Genn (actor), Len Garde (colur) a Gregory Peck
Roedd cynnwrf yn y dref i gyd adeg y ffilmio ac mae nifer o straeon cofiadwy o'r cyfnod gan gynnwys y model rwber o forfil aeth ar goll mewn storm un noson.
Mae Gareth yn cofio gweld y sêr o gwmpas Abergwaun ac Wdig ac mi oedden nhw'n gyfeillgar iawn i'r bobl leol, meddai: "We lot o ffws yn mynd mlaen ac wen i'n gweld y stars ambutu'r dre yn aml.
"Un stori mae'n wraig i Gina'n dweud oedd fod ei mam hi â gwely a brecwast ac oedd tri o'r chauffeurs yn aros gyda nhw. Bentleys a Rolls-Royce o'n nhw'n dreifo.
"Ar y prif stryd oedd y guesthouse ac wedd tri wampyn o gar yn parcio tu fas dros nos - fydden nhw ddim yn neud e nawr!
"Wedd y chauffers yn codi a mynd yn gynnar yn y bore, dim brecwast na dim achos oedden nhw'n cael bwyd lawr yng Ngwesty'r Bae gyda pob un arall. Oedd mam Gina yn dweud mai 'na'r 'easiest money I've ever made'!"

Richard Jenkins o Abergwaun sy' wedi creu'r llun fel atgof o'r digwyddiad i'w weld yn adeilad y Skirmisher yng Nghwm Abergwaun
Er gwaethaf ei lwyddiant rhwyfo cynnar, ar ôl gadael ysgol aeth Gareth ymlaen i wneud gwasanaeth cenedlaethol cyn mynd i weithio i gwmni olew Esso ym Milffwrdd.
Ond bydd y dathliadau'n parhau yn Abergwaun eleni mewn gŵyl o'r enw Ar Ymyl y Tir wrth i'r dref gofio ffilmio Moby Dick yno 70 mlynedd yn ddiweddarach.

Arteffactau gwreiddiol o'r ffilm sydd yn adeilad y Cadlanciau Môr yng Nghwm Abergwaun
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd27 Medi 2023

- Cyhoeddwyd24 Chwefror
