Crëyr Caernarfon wedi hedfan i Gonwy

crëyrFfynhonnell y llun, Jonni Price
Disgrifiad o’r llun,

Llun o grëyr traethau'r gorllewin ar ôl iddo gyrraedd Gwarchodfa RSPB Conwy

GanAnna George
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Ar ôl bod ar goll am bedwar diwrnod mae'r crëyr prin fu'n cynefino yng Nghaernarfon am tua wythnos, bellach yn sir Conwy.

Cafodd crëyr traethau'r gorllewin (western reef heron/egretta gularis) a ddenodd gannoedd o adaregwyr i Gaernarfon ddechrau Mehefin ei weld ar draeth gorllewin Llandudno fore Llun 17 Mehefin.

Hedfanodd dros Gastell Conwy drwy ddilyn Afon Conwy nes cyrraedd Gwarchodfa Natur RSPB Conwy yng Nghyffordd Llanduno ac mae'n parhau i fwydo yno ar hyn o bryd.

Ar 6 Mehefin, fe welodd Simon Hugheston Roberts o Gaernarfon y crëyr llwyd-las yn Y Foryd. Dyma oedd y tro cyntaf i rywun weld egretta gularis yn Y Deyrnas Unedig - mae'r math yma o grëyr fel arfer yn cynefino yn ne Ewrop, Affrica a rhannau o Asia.

Dilyn Afon Conwy i chwilio am damaid

Dywedodd Jonni Price, rheolwr profiad ymwelwyr RSPB Conwy wrth Cymru Fyw:

"Roedd adroddiad a llun bod y crëyr ar draeth gorllewin Llandudno bore 'ma.

"Yna fe aeth gwylwyr adar lleol i'w weld cyn iddo hedfan tuag at Gonwy ac ardal Deganwy cyn diflannu eto.

"Ro'n i'n edrych o gwmpas amdano ar ein safle yma. Fe es i mewn i'n canolfan am ddau funud ac yn yr amser byr hwnnw fe ddaeth ymwelydd i mewn i ddweud bod y crëyr yn eistedd wrth ymyl un o'r cuddfannau."

Mae gwylwyr adar eisoes wedi heidio i'r safle i wylio'r crëyrFfynhonnell y llun, Jonni Price
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwylwyr adar eisoes wedi heidio i'r safle i wylio'r crëyr

Dros yr oriau diwethaf mae dros hanner cant o wylwyr adar wedi bod yn gwylio'r crëyr sy'n mwynhau bwydo oddi ar un o ynysoedd y forlan dŵr dyfn sydd yn y warchodfa gyda mynyddoedd Y Carneddau tu ôl iddo.

Ac yn ôl Jonni roedd "yn amlwg iawn" mai'r egretta gularis oedd wedi glanio'n y warchodfa pan aeth allan i edrych.

"Mae mor unigyrw a gyda'r lliw glas gorgeous.

"Mae'r gwylwyr adar sydd wedi bod yma i'w weld yn hapus dros ben, a sawl un wedi gwirioni o'i weld o'r diwedd ar ôl ei fethu yng Nghaernarfon."

creyrFfynhonnell y llun, Chris Griffin (Griffin Wildlife)

Un sy'n siomedig nad yw adref ar hyn o bryd i weld y crëyr yn y warchodfa yw'r adaregwr sy'n byw yn ardal Llandudno, Marc Berw Hughes.

Er iddo fwynhau gwylio'r crëyr pan oedd yng Nghaernarfon, mae Marc yn siomedig na fydd adref am rai dyddiau i weld y creÿr yn ei warchodfa lleol, lle bydd yn mynd i wylio adar yn rheolaidd.

Ond beth ddenodd crëyr traethau'r gorllewin i Landudno ac yna'r warchodfa yn ôl Marc?

"Mae'r crëyr bach yn mudo ar hyd ein arfordir amser yma o'r flwyddyn ar ôl iddynt nythu.

"Mae crëyr traethau'r gorllewin fwy na thebyg wedi dilyn y crëyr bach ar hyd ein harfordir i Landudno ac ymlaen i RSPB Conwy.

"Mae gwahanol fathau o grëyr (crëyr bach, crëyr mawr, crëyr glas) yn bwydo yn aber Afon Conwy ar y llanw isel ac yn gorffwyso ar yr ynysoedd yng ngwarchodfa RSPB dros y llanw uchel - mae'n llecyn diogel gyda dim aflonyddwch iddyn nhw.

"Mae ein crëyr prin ni fwy na thebyg yn dilyn yr un patrwm ac wedi ymuno gyda grŵp o grëyr lleol."

Ai arfordir Cymru fydd cynefin newydd y crëyr?

Yn ôl Jonni, mae gobaith y bydd y crëyr yn dal i fwydo a chlwydo'n y warchodfa ar ôl i Marc ddychwelyd adref.

Meddai: "Rŵan fod y crëyr yn gwybod ein bod ni yma, rydyn ni'n gobeithio y bydd yn ein defnyddio ni fel clwydfan llanw uchel ac felly'n dychwelyd yma o hyd pan ddaw'r llanw uchel. Mae'n gwybod bod ganddon ni le diogel iddo."

creyrFfynhonnell y llun, Jonni Price
Disgrifiad o’r llun,

Gwylio'r crëyr ar un o ynysoedd y forlan dŵr dyfn yn y warchodfa

Beth yw dyfodol y crëyr yng Nghymru? A yw'n debygol o aros yma neu ddychwelyd i'w gynefin natuiol yn ne Ewrop, Affrica neu Asia?

Dywedodd Jonni: "Dwi'n credu y bydd yn aros yma am sbel, efallai y bydd yn hedfan yn ôl tua'r de yn y gaeaf ond dydyn ni ddim yn gwybod gan mai dyma'r tro cyntaf i'r crëyr yma gael ei weld yn Y Deyrnas Unedig.

"Mae'n debygol y bydd mwy ohonyn nhw'n cael eu gweld yn Y Deyrnas Unedig dros y blynyddoedd nesaf yn sgil newid hinsawdd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig