Cerddorion o Gymru yn Codi'r To yn Sweden

Criw Codi'r ToFfynhonnell y llun, Sion Emlyn Parri
Disgrifiad o’r llun,

Criw Codi'r To sydd wedi teithio i Sweden

GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae criw o bobl ifanc o ogledd Cymru allan yn Sweden ar hyn o bryd yn cymryd rhan mewn un o gampysau cerddoriaeth fwyaf y byd, Side by Side.

Fel rhan o brosiect Codi'r To, sy'n brosiect adfywio cymunedau, mae disgyblion o ysgolion yng Nghaernarfon a Bangor wedi cael cyfle i deithio i Gothenburg.

Mae Side by Side yn croesawu tua 2,000 o bobl ifanc bob blwyddyn i'r ddinas ac yn rhoi cyfle i bobl chwarae offerynnau yn y Scandinavium - sef arena ble mae'r tîm hoci iâ Frölunda HC fel arfer yn chwarae eu gemau cartref.

Cydlynydd Codi'r To yw Sion Emlyn Parri a dyma'n dweud ar raglen Bore Cothi: "Mi faswn i wedi bod wrth fy modd yn cael cyfle fel hyn pan o'n i'n blentyn, mae'n brofiad bythgofiadwy.

"Rydan ni'n ddiolchgar iawn i Taith am y cyllid i ganiatau i ni fynd draw i Side by Side," meddai.

Mae tîm Codi'r To yn mynd fewn i'r ysgolion ym Mangor a Chaernarfon ddwy waith yr wythnos.

Mae tiwtoriaid cerdd yn cynnal gweithdai ac yn gwneud cysylltiadau â theuluoedd a'r gymdogaeth o gwmpas yr ysgolion gan ddarparu cerddoriaeth fyw yn y gymuned a chyfleoedd cyson i'r disgyblion i berfformio'n gyhoeddus.

"Dan ni'n cynnig sesiynau cerdd, mae'n llesiant i nifer o blant a phobl ifanc ar draws Gwynedd i gyd, mae o'n lot o hwyl a 'dan ni mor lwcus i weithio efo pobl mor dda," meddai Sion.

Sion, George a LowriFfynhonnell y llun, Sion Emlyn Parri
Disgrifiad o’r llun,

Sion, George a Lowri yn Sweden

Un o diwtoriaid Codi'r To yw Lowri Jones wnaeth egluro beth yn union oedd yn digwydd yn Sweden:

"Mae'n siwrnai gyffrous iawn i'r plant, rydan ni wedi cyrraedd ddydd Gwener ddiwethaf ac wedyn yn cael ymarferion drwy'r penwythnos.

"Mae gynon ni offerynnau gwahanol, mae cornets, trombones, euphoniums a baritones efo ni a hefyd percussionist.

"Mae 'na amrywiaeth o offerynnau, maen nhw'n dechrau yn gwneud sectional rehearsals cyn mynd i'r Scandiavium, yr arena fawr i ymarfer yn fan'no," meddai.

Un sy'n cymryd rhan yn y cyngerdd yw George, sy'n ddisgybl yn un o'r ysgolion yng Nghaernarfon.

"Dwi'n chwarae Euphonium, dwi'n meddwl fod o mor cŵl gwneud pethau fel hyn a dwi mor falch o gael y profiad," meddai.

Tu mewn i'r ScandinaviumFfynhonnell y llun, Sion Emlyn Parri
Disgrifiad o’r llun,

Tu mewn i'r Scandinavium yn ystod y cyngerdd

O ran y cyngerdd ei hun, roedd Lowri'n disgrifio bod 2,000 o blant yn cymryd rhan ochr yn ochr gyda Cherddorfa Symffoni Gothenburg.

"Mae cymaint o amrywiaeth o bobl ar draws y byd. Mae o'n anferth o le ac maen nhw i gyd ar lawr yr arena lle mae 'na bedwar rhan wahanol o'r orchestra ac wedyn mae gynnon ni gôr anferth y tu cefn, felly mae o'n beth anhygoel i weld."

Mae Side by Side yn Gothenburg wedi bod yn rhedeg ers rhyw 12 mlynedd gyda rhai o'u tiwtoriaid nhw wedi cael cyfle i berfformio yna dros ddegawd yn ôl.

Dyma'r ail waith i Sion fynd â phlant draw gyda'r cyntaf yn digwydd ddwy flynedd yn ôl ac mae Sion yn gobeithio cario'r broses ymlaen am flynyddoedd i ddod.

O ran y cyngerdd, bydd y plant yn cael cyfle i berfformio pedair cân i gyd, a rhai ohonyn nhw'n fersiynau clasurol o ganeuon Coldplay a rhai gan ABBA.

Ychwanegodd Lowri: "Mae o'n rwbath sbeshal iawn, pan ti'n eistedd yn ganol yr orchestras i gyd, mae o'n emosiynol a ti'n cael gweld y plant yn llwyddo ac mi fase cael rhywbeth fel hyn yng Nghymru yn sbeshal iawn," meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.