Cofeb i goffáu 37 o lowyr a fu farw mewn glofa yn Sir Gâr

Roedd y lofa yn weithredol am 35 mlynedd rhwng 1954 ac 1989
- Cyhoeddwyd
Bydd cofeb yn cael ei dadorchuddio ddydd Sul i goffáu 37 o lowyr fu farw tra'n gweithio yng Nglofa Cynheidre yn Sir Gaerfyrddin.
Mae'r gofeb barhaol newydd wedi'i lleoli yn Rheilffordd Llanelli a Mynydd Mawr, sydd ar ran o safle'r hen lofa yng Nghwm Gwendraeth.
Cafodd y lofa ei hagor yn 1954, ac roedd yn dal i gyflogi dros 1,000 o bobl pan gafodd y safle ei gau yn 1989.
Bydd y gofeb yn coffau'r 37 o ddynion a fu farw yn ystod y 35 mlynedd y bu'r safle'n weithredol.
Dywedodd Rheilffordd Llanelli a Mynydd Mawr bod y gofeb hefyd yn coffáu'r nifer fawr o lowyr a gafodd eu bywydau wedi'u byrhau o ganlyniad i afiechydon oedd yn deillio o'u blynyddoedd yn gweithio dan ddaear

Mae Rheilffordd Llanelli a Mynydd Mawr ar ran o safle'r hen lofa
Yn ogystal â dadorchuddio'r gofeb, bydd y rheilffordd hefyd yn agor ei phrosiect coetir treftadaeth newydd yn swyddogol ddydd Sul.
Bydd y prosiect yma yn helpu i adrodd hanes y lofa a'r cenedlaethau o bobl fu'n gweithio yno, meddai'r rheilffordd.
Mae hyn yn cynnwys byrddau gwybodaeth sy'n manylu ar dreftadaeth lofaol a diwydiannol y safle.
Dywedodd y rheilffordd bod lleisiau cyn-weithwyr Cynheidre wrth wraidd y prosiect, gyda thua 20 o gyn-weithwyr y lofa wedi'u cyfweld am eu bywydau a'u profiadau.
'Hanes glofaol balch'
Dywedodd Mark Thomas, cadeirydd Rheilffordd Llanelli a Mynydd Mawr: "Rydym yn hynod falch o allu dadorchuddio'r gofeb barhaol hon o'r diwedd.
"Mae gan Gynheidre hanes glofaol balch ac, fel elusen sydd wedi'i lleoli ar ran o safle'r hen lofa, rydym yn teimlo cyfrifoldeb gwirioneddol i sicrhau bod yr hanes hwnnw a straeon y bobl a fu'n gweithio yma yn cael eu cadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
"Bydd y gofeb newydd, ynghyd â'n coetir treftadaeth a'r atgofion a gofnodwyd yn lleisiau cyn-weithwyr y lofa eu hunain, yn ein helpu i wneud hynny'n union."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.