Molly Palmer: 'Fyddai wastad yn ferch o'r cymoedd'

Molly Palmer a Cwmaman yn y cefndirFfynhonnell y llun, Molly Palmer
Disgrifiad o’r llun,

Y cyflwynydd Molly Palmer â Chwmaman yn y cefndir

GanAngharad Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

"Bob tro dwi'n meddwl am Gwmaman dwi'n teimlo hiraeth am y lle."

Mae gan Gwmaman le arbennig iawn yng nghalon y cyflwynydd Molly Palmer a phan ddaeth cyfle i gyflwyno ei rhaglen Radio Wales o'r ardal, roedd hi'n benderfynol i ddarlledu Live at your Local ar Radio Wales o'r Shepherds Arms yno.

Mewn darn arbennig i Cymru Fyw, mae Molly'n rhannu beth mae ei phentref enedigol yn ei olygu iddi hi:

GanMolly Palmer

Mae Cwmaman yn le rili fach yn y cymoedd. Mae'n eistedd rhwng tair mynydd ac yn dead end, mae'n amhosib i fynd ymhellach.

Mae'n le rili tawel ond yn le sy'n llawn hanes. Mae'n le rili sbeshal, rili unigryw.

Y bobl sy'n neud rhywle tawel fel Cwmaman mor sbeshal.

Yn amlwg dyw e ddim yn le cyfoethog, dyw e ddim yn le llawn arian ond mae pobl yn hapus yna. Mae 'na dlodi ond mae lot o bobl yn teimlo'n rili prowd o ddod o Gwmaman.

A dwi'n sicr yn un o'r bobl yna – lle bynnag dwi'n mynd yn y byd fyddai wastad yn ferch o'r cymoedd. Mae hynny'n rhywbeth sy'n ran o'n hunaniaeth i fel Cymraes.

Dwi'n prowd o fy acen i a dwi'n prowd o le dwi'n dod ac er y problemau sy'n wynebu y cymoedd mae pobl wastad wedi ffeindio ffordd o ddod trwy pethau. A beth sy' yng nghanol hynny yw'r gymuned.

Enfys yng NghwmamanFfynhonnell y llun, Molly Palmer

Cefnogaeth

Mae pobl yn troi lan i gefnogi ei gilydd.

Dwi wedi gweld hynny trwy gydol fy mywyd i mewn pentrefi bach o gwmpas y cymoedd. Yn ystod y cyfnod clo 'nes i weld pobl yn edrych ar ôl cymdogion a ffrindie nhw fel dwi byth wedi gweld ac mae hwnna'n unigryw i lefydd fel Gwmaman.

Ni dal yn agos. Os fydden i byth mewn trwbl mi allwn i gnocio ar drws unrhyw un o gwmpas fi a bydde nhw'n helpu heb ofyn cwestiwn.

Molly o flaen clwb cymdeithasol CwmamanFfynhonnell y llun, Molly Palmer

Diwylliant

Mae Cwmaman yn le sy' bach yn unsuspecting ond sy'n llawn surprises. Mae BBC Radio 1 wedi darlledu'n fyw o 'na ac mae Top of the Pops wedi ffilmio yno. 'Naethon nhw ffilmio pennod Aberfan o gyfres Netflix The Crown yno.

Mae'r pethe masif 'ma wedi digwydd wrth i fywyd go iawn fynd yn ei flaen yno.

Yn amlwg mae Stereophonics yn dod o Gwmamam a 'nath albwm gyntaf y band roi'r lle ar y map. Mae lot o bobl sy'n dod o bentrefi bach tebyg ar draws y Deyrnas Unedig yn gallu uniaethu gyda'r albwm yna - y gossip, y trasedi, y storiau sy'n hedfan o gwmpas.

Canolfan cymunedol yng Nghwmaman lle'r oedd Stereophonics yn ymarfer fel band ifancFfynhonnell y llun, Molly Palmer
Disgrifiad o’r llun,

Canolfan cymunedol yng Nghwmaman lle roedd Stereophonics yn ymarfer fel band ifanc

Ysbrydoliaeth o fywyd bob dydd

Y bywyd arferol sy'n digwydd yno sy'n ysbarduno pobl, yn enwedig gyda albym cyntaf Stereophonics yn 1997, Word gets Around. Mae'r holl albym yna am y storiau a'r gossip – a weithie yr hunllef sy'n digwydd mewn pentrefi fel na.

Roedd Kelly Jones [prif ganwr y Stereophonics] fel person ifanc gyda dim lot i wneud mewn rhywle mor fach yn gweld popeth oedd yn digwydd o'i gwmpas e ac 'nath hynny ysbrydoli fe i ysgrifennu'r caneuon yma.

Y pethau sy'n digwydd mewn pentre bach sy'n digwydd i lot o ni bob dydd fel mynd i'r siop, sefyll yn y bus stop yn clywed hen fenywod yn gossipan am y pethe o'u cwmpas nhw.

Bron iawn undonedd bywyd yw e ac mae'n dangos bod lot o ysbrydoliaeth yn gallu dod o fywydau arferol yn digwydd mewn llefydd arferol.

Noson i gofio

Bob tro dwi yn y Shepherds Arms mae'n teimlo fel mod i'n ran o'r gymuned.

Oedd y rhaglen Live from your Local yn anhygoel. Daeth y gymued i gyd lawr ac oedd y dafarn yn llawn dop. Oedd pobl yn dathlu, chwerthin a mwynhau'r gerddoriaeth a dal lan 'da pobl.

Oedd hi'n noson llawn cariad a phositifrwydd a dyna beth yw Cwmaman. Oedd hi'n noson fythgofiadwy.

Bob tro dwi'n gyrru mewn i Gwmaman mae e'n un hewl mewn a un hewl mas – pan dwi'n gweld yr arwydd sy'n dweud Cwmaman dwi'n teimlo'n saff.

Dwi adre gyda pobl fi, gyda cymuned fi.

Cerflun yng NghwmamanFfynhonnell y llun, Molly Palmer

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig