Y Cymro fydd yn cefnogi Fiji yn erbyn y crysau cochion ddydd Sadwrn

Dominiko (dde) gyda chanolwr Fiji Semi Radradra yn 2023
- Cyhoeddwyd
Wrth i Gymru baratoi i wynebu Fiji ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd ddydd Sadwrn, mae un bachwr o Ben-y-bont wedi bod mewn mwy o benbleth na'r mwyafrif o Gymry am bwy i'w cefnogi.
Mae tad Dominiko Manasteitava, Tevita, yn dod o Fiji, ac mae ei fam, Emma, yn Gymraes.
Mae Dominiko yn 21 oed ac mae newydd orffen gradd mewn hyfforddiant chwaraeon ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae'n chwarae yn safle'r bachwr i dîm Pen-y-bont, ac mae rygbi yn ei waed, ag yntau'n dod o linach o chwaraewyr rygbi proffesiynol o Fiji.
Felly, pan fydd yn mynychu'r gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn, dywedodd y byddai'n cefnogi Fiji.

Dominiko gyda'i rieni Emma a Tevita
Symudodd Tevita Manaseitava i Gymru ddiwedd yr 1980au i chwarae i Glwb Rygbi Y Pîl, a bu hefyd yn chwarae i nifer o dimau eraill gan gynnwys Pen-y-bont Ravens a Dynfant.
Mae brawd Tevita, sydd â'r un enw a'i fab - Dominiko Manaseitava - wedi cynrychioli Fiji.
Mae Dominiko Waqaniburotu - capten Fiji ar gyfer Cwpan y Byd 2019 - yn un o'i berthnasau hefyd.

Roedd rygbi yn y gwaed, a dim syndod bod Dominiko hefyd wedi ymddiddori yn y gamp o oed ifanc
Ar raglen Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd Dominiko, nad yw hi'n benderfyniad anodd o ran pwy y bydd yn eu cefnogi ddydd Sadwrn.
"Mae game day bob amser yn ddoniol yn y tŷ – bydda i, fy nhad, fy mrawd a'm chwaer mewn Fiji jerseys.
"Ac yna Mam a gweddill y teulu mewn rhai Cymru.
"Ond bob amser y bydd Fiji'n chwarae, fi'n gobeithio mai Fiji fydd yn ennill."
'Credu mai Fiji fydd yn ennill'
Dywedodd Dominiko, nad oedd yn siŵr pwy yw'r ffefrynnau ar gyfer dydd Sadwrn, ond bod carfan a thîm Fiji yn gryf.
"Mae'r rhai ma' nhw wedi ei roi at ei gilydd yn unigolion sy'n chwarae yn y top league yn Ffrainc a Lloegr
"'Dwi'n credu mai Fiji fydd yn ennill."

Dominiko yn sgorio cais dros Ben-y-bont
Mae Cymru eisoes wedi chwarae ac ennill yn erbyn y Barbariaid yr wythnos diwethaf, ac ar ôl gêm Fiji, bydd tîm Steve Tandy yn teithio i'r Ariannin a hefyd yn chwarae yn erbyn pencampwyr y byd De Affrica.
Wrth edrych ar dîm Cymru a dylanwad Steve Tandy, roedd Dominiko yn canmol Cymru, ond yn dweud byddai'n heriol i'r crysau cochion yn erbyn Fiji.
"Dwi'n credu y bydd yn gêm anhygoel. Mae'r ddau dîm yn dda iawn.
"Mae Cymru yn dod ar ôl ennill yn erbyn y Barbarians a bydd yn test mawr ddydd Sadwrn.
"Mae'r style o rygbi mae Fiji yn ei chwarae yn anhygoel i'w wylio, maen nhw yn fawr a chorfforol.
"Sut fydd Cymru'n delio gyda hynny? Dwi'm yn gwybod... ond mae bob amser yn wych i wylio Fiji."
Bydd modd gwrando ar sylwebaeth o'r gêm rhwng Cymru a Fiji ar Chwaraeon Radio Cymru, gyda'r rhaglen i ddechrau am 13:30.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.