Disgybl wedi trywanu athrawes yn ei phen gyda 'chyllell gegin fawr'

Cafodd yr heddlu eu galw i Ysgol Gyfun Aberdaugleddau am tua 15:20 ar 5 Chwefror
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth disgybl drywanu athrawes yn ei phen gyda "chyllell gegin fawr" mewn ysgol yn Sir Benfro, mae rheithgor wedi clywed.
Cafodd yr athrawes, Vicki Williams, ei hanafu yn ystod yr ymosodiad ar 5 Chwefror yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau.
Ar ddiwrnod cyntaf yr achos ddydd Llun, clywodd Llys y Goron Abertawe fod y bachgen, sydd bellach yn 16 oed, wedi dilyn yr athrawes i mewn i'w dosbarth, cau'r drws, cyn ei thrywanu yn ei phen.
Mae'r bachgen, na ellir ei enwi oherwydd ei oed, yn gwadu ceisio llofruddio, anafu'n fwriadol ac anafu'n anghyfreithlon.
Mewn gwrandawiad blaenorol, fe blediodd yn euog i fod â chyllell yn ei feddiant ar dir ysgol.
Anafiadau i'w bysedd a'i chefn
Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw i'r ysgol tua 15:20 yn dilyn adroddiadau bod disgybl oedd ag arf yn ei feddiant wedi ymosod ar athrawes.
Cafodd yr ysgol ei rhoi dan fesurau clo ac roedd yr ysgol ar gau drannoeth hefyd.
Clywodd y llys fod yr athrawes wedi cael ei thrywanu yn ei phen a'i bod wedi dioddef anafiadau i'w bysedd a'i chefn hefyd.
Cafodd ei chludo i Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd, cyn cael ei rhyddhau'r noson honno.

Yn ôl bargyfreithiwr yr erlyniad, Christopher Rees KC, fe ddaeth y bachgen â "chyllell gegin fawr" i mewn i'r ysgol o'i gartref.
Am 15:10, fe ymosododd ar Ms Williams, ei athrawes hanes, yn ei hystafell ddosbarth.
Cafodd deunydd CCTV ei ddangos yn y llys o'r athrawes yn mynd i mewn i'r dosbarth a'r bachgen yn ei dilyn.
Dywedodd y bargyfreithiwr fod yr athrawes yn "fregus" ac "ar ben ei hun" gan fod yr ystafell ddosbarth yn wag.
Clywodd y llys ei fod wedi gofyn i Ms Williams a fyddai'n fodlon edrych dros ei waith. Roedd wedi colli'r wers hanes flaenorol.
'Ynysu Ms Williams'
Clywodd y llys fod Ms Williams yn meddwl bod hyn yn "anarferol" i'r bachgen, oherwydd "nid dyna'r math o ddisgybl oedd e', doedd e' ddim wedi bod â diddordeb cyn hynny".
Wrth i Ms Williams chwilio am y dudalen berthnasol, aeth y bachgen i gau'r drws, roedd yn gafael yn ei fag.
"Roedd e eisiau ynysu Ms Williams fel ei fod yn medru ymosod arni," meddai'r erlyniad.
Dywedodd yr erlyniad hefyd fod yr athrawes wedi sylwi fod y bachgen yn chwilio am rywbeth yn ei fag.
Doedd hi ddim yn ymwybodol ei fod yn cynnwys "cyllell gegin fawr".
Clywodd y llys fod yr athrawes yn cadw edrych y tu ôl iddi wrth i'r bachgen geisio mynd y tu ôl iddi gan ei rhwystro.
Yn sydyn, clywodd y llys ei fod wedi tynnu cyllell o'i fag ac ymosod arni. Fe deimlodd hi'r gyllell yn trywanu ei phen.

Dywedodd nad oedd y bachgen wedi dweud dim yn ystod yr ymosodiad, ond bod yr edrychiad ar ei wyneb yn "gasineb pur, pur seicotig".
Clywodd y llys ei bod wedi gafael yn ei law i geisio'i rwystro gan dderbyn anafiadau i'w dwylo, cyn i'r bachgen geisio mynd amdani eto.
Fe wthiodd y bachgen Ms Williams yn ôl yn ei chadair, roedd ei choesau i fyny yn ceisio ei stopio rhag dod amdani eto, roedd yn sgrechian.
Llwyddodd i wthio'r bachgen oddi wrthi, dal gafael yn y gyllell, cyn i'r bachgen redeg o'r ystafell ddosbarth.
Roedd y bachgen yn yr ystafell ddosbarth am 2 munud a 30 eiliad - roedd deunydd ohono yn gadael yr ystafell ddosbarth hefyd ar CCTV.
Dywedodd Christopher Rees KC fod y bachgen wedi cynllunio'r ymosodiad "llofruddiol".
"Fe wnaeth drywanu Vicki Williams yn fwriadol yn ei phen a pharhau gyda'r ymosodiad," meddai.
Perthynas 'neis'
Aeth ymlaen i ddweud mai dim ond oherwydd bod yr athrawes wedi gweiddi y gwnaeth y bachgen stopio ymosod arni.
Dywedodd Christopher Rees KC fod Ms Williams wedi dweud wrth yr heddlu nad oedd erioed wedi cael gair-croes gyda'r bachgen, a'i bod yn credu fod ganddi berthynas "neis" gydag ef.
Roedd y bachgen yn gwisgo crys gwyn ac yn ddi-emosiwn drwy gydol y gwrandawiad. Siaradodd i gadarnhau ei enw yn unig.
Cafodd eistedd yn y llys gyda'i dîm cyfreithiol, yn hytrach nag yn y doc.
Roedd ganddo belen straen (stress ball) yn ei law.
'Dwi'n credu fod ganddo gyllell'
Fe wyliodd y rheithgor gyfweliad Vicki Williams gyda'r heddlu ar ddiwrnod yr ymosodiad.
Dywedodd fod y bachgen wedi tynnu ei lyfr hanes allan o'i fag a'i roi iddi.
Tra ei bod hi'n agor y llyfr er mwyn edrych dros ei waith, aeth y bachgen i gau drws yr ystafell ddosbarth gan ddweud ei fod "yn oer".
Disgrifiodd Ms Williams ei bod wedi meddwl nad oedd rhywbeth yn iawn pan gaeodd y bachgen drws ei hystafell ddosbarth.
"A yw e'n mynd i wneud cyhuddiad yn fy erbyn i," meddyliodd.
Dywedodd fod y bachgen wedi dod yn ôl at ei desg wedyn a dechrau twrio yn ei fag tra'r oedd yn esbonio'r gwaith iddo, gan ddweud ei bod hi'n meddwl ei fod yn chwilio am feiro ysgrifennu.
Disgrifiodd sut yr oedd y bachgen yn gofyn un cwestiwn ar ôl y llall tra'n aros y tu ôl iddi hi.
"Roedd rhan ohona i yn meddwl, 'dwi'n credu ei fod yn mynd i ymosod arna'i'... dwi'n credu fod ganddo gyllell…', ond disgrifiodd wedyn ei bod yn meddwl ei bod yn 'baranoiaidd'."
'Doedd e ddim yn dweud dim'
Dywedodd iddi ofyn wrtho sawl gwaith "wyt ti'n iawn?", cyn iddo afael mewn cyllell o'i fag ac ymosod arni.
"Teimlais [y gyllell] ar fy mhen," meddai, cyn dweud,
"Roedd fy merch yn fflashio o flaen fy llygaid".
Disgrifiodd y ffordd y gwnaeth hi ddal y gyllell, cyn iddo geisio ymosod arni am yr eildro, ond "roeddwn i'n ei ddal oddi arna' i", meddai.
"Fe wthiodd fi mewn i fy nghadair, roedd fy nghoesau i fyny, llwyddais i'w wthio a chefais afael yn y gyllell ac fe redodd drwy'r drysau dwbl," meddai.
"Wrth iddo ddod amdana i, doedd e ddim yn dweud dim," meddai, "doedd e ddim yn gweiddi, roedd ei geg yn syth."
'Meddwl fy mod wedi gweld fy merch am y tro olaf'
Dywedodd ei fod yn siarad â hi yn gwrtais pan ddaeth i mewn i'r ystafell.
"Doedd e ddim yn flin," meddai.
"Roeddwn i'n teimlo fod rhywbeth ddim yn iawn oherwydd ei fod yn ceisio dod y tu ôl i mi. Gofynnais dwywaith neu dair "wyt ti'n iawn, wyt ti'n siŵr dy fod yn iawn?", dyna pryd ddaeth amdana i.
"Fe drywanodd fy mhen i, roedd e'n ceisio fy lladd i," meddai.
Wrth ddisgrifio'r digwyddiad, dywedodd iddi orfod cael ei phen wedi ei ludo yn yr ysbyty, ei fod yn gwaedu a bod talp o wallt wedi dod allan o'i phen.
"Gan wybod fod y gyllell wedi taro fi yn fy mhen, roeddwn i'n meddwl fy mod i'n mynd i waedu i farwolaeth, roeddwn i'n meddwl fy mod wedi gweld fy merch am y tro olaf," meddai.
Wrth geisio disgrifio pam fod y bachgen wedi ymosod arni dywedodd "doedd dim rheswm, rwy'n ei gweld hi'n anodd i ddeall pam' a bod hynny yn 'codi ofn' arni".
Mae'r achos yn parhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Chwefror
