Streic ymwelwyr iechyd yn 'creu risg i ddiogelwch plant'

Pryder Mothers Matter yw bod streic gan ymwelwyr iechyd yn creu risg i ddiogelwch plant
- Cyhoeddwyd
Mae elusen iechyd meddwl i rieni newydd yn dweud bod streic gan ymwelwyr iechyd yn creu risg i ddiogelwch plant.
Maen nhw'n dweud bod y galw am eu gwasanaethau wedi mwy na dyblu yn ystod y streic.
Mae tua 100 o ymwelwyr iechyd ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ar streic ers mis Chwefror mewn anghydfod dros fand cyflog.
Mae'r ymwelwyr iechyd, sy'n aelodau o undeb Unite, yn dweud y dylen nhw fod yn cael hyd at £9,000 y flwyddyn yn fwy o gyflog.
Dywedodd y bwrdd iechyd bod diogelwch a sicrhau mynediad at wasanaethau yn flaenoriaeth iddyn nhw yn ystod y streic.
Ymwelwyr iechyd i streicio i 'gael y tâl ni'n haeddu'
- Cyhoeddwyd23 Chwefror
Ymwelwyr iechyd Cwm Taf Morgannwg yn addo parhau â'u streic
- Cyhoeddwyd19 Mai
Ond mae'r gweithredu wedi arwain at ostyngiad mawr yn nifer yr ymweliadau â chartrefi gan ymwelwyr iechyd.
Yn sir Pen-y-bont ar Ogwr yn unig mae 'na 83% o ostyngiad wedi bod mewn codi pryderon am ddiogelu.

"Does dim digon o oriau yn y dydd i helpu pawb," meddai Tracy Sweetland-Hodges
Mae elusen Mothers Matter yn poeni am y sefyllfa.
"Mae'r galw wedi dyblu os nad treblu o ran pobl yn cael eu cyfeirio atom ni," meddai Tracy Sweetland-Hodges o'r elusen.
"Does dim digon o oriau yn y dydd i helpu pawb.
"Yn wythnosol mae gyda ni bryderon am blant ry'n ni'n eu cefnogi drwy ein gwasanaethau."

Mae Sioned Jones yn dweud fod y streic wedi amlygu'r angen am ymwelwyr iechyd
Mae Sioned Jones - sydd â merch ddwy oed - yn byw ger yr elusen yn Llanhari ac yn cyfrannu eitemau iddyn nhw.
Mae hi'n dweud bod y cynnydd yn y galw am wasanaeth Mothers Matter yn brawf bod pobl angen cefnogaeth ymwelwyr iechyd.
"Mae e'n uwcholeuo'r ffaith fod angen yr ymwelwyr iechyd ac mae e'n dangos pa mor anffodus yw'r sefyllfa fod pobl wedi gorfod troi at elusennau fel Mothers Matter, a diolch byth bod nhw ar gael," meddai.
"Mae'r teuluoedd bregus yna, falle mamau sydd angen fwy o gefnogaeth nag eraill, dy'n nhw ddim yn cael y gefnogaeth maen nhw ei angen a dyw achosion bregus ddim yn cael eu huwcholeuo fel dylsen nhw, a ddim yn cael y sylw a'r gefnogaeth maen nhw eu hangen."

Mae Rachel Stephens yn cefnogi'r streic, ond hefyd yn poeni am ddiogelwch plant
Mae babi Rachel Stephens yn flwydd oed erbyn hyn.
Gruff yw ei phlentyn cyntaf, ac mae hi'n dweud y byddai hi wedi bod yn braf cael mwy o gefnogaeth.
"Mae e yn effeithio arnom ni o ran y jabs blwydd oed, felly mae e'n gorfod aros deufis arall nawr i gael y jabs, a ni jyst yn y tywyllwch.
"Ble ni'n mynd, sut mae e'n datblygu, ydy e'n cael y peth gorau i fwyta?
"Ni'n gwybod ei fod e, ond ry'n ni eisiau rhywun proffesiynol i ddweud, 'ie chi'n gwneud yn oce fel rhieni newydd'."
Tra'n cefnogi'r streic, mae hi hefyd yn poeni am ddiogelwch plant.
"Ni'n gwybod bod pobl yn gwneud pethau erchyll i blant tu ôl i ddrysau caeedig, a heb gael pobl yn mynd mewn yn wythnosol neu'n fisol, dyw'r referrals yma ddim yn cael eu gwneud."

Mae Kerry Parry a Melani Smith yn cydnabod bod "risg gwirioneddol" pan nad yw ymwelwyr iechyd fel nhw wrth eu gwaith
Mae'r ymwelwyr iechyd eu hunain yn cydnabod bod yna risg o ran diogelu.
Undeb Unite sydd wedi cyhoeddi'r wybodaeth am y gostyngiad mewn ymweliadau â'r cartref.
"Mae yna risg gwirioneddol pan dy'n ni ddim yn y gwaith a ddim yn y cymunedau lleol," meddai Kerry Parry sy'n ymwelydd iechyd ac yn gynrychiolydd undeb.
Mae Melani Smith, ymwelydd iechyd arall, yn cytuno.
"Welwch chi ddim twll dwrn mewn drws, neu dristwch ar wyneb mam, neu babi'n crio a'r fam ddim yn gwbod beth i'w wneud.
"Welwch chi ddim o hynny mewn sgwrs ffôn."
Mae ymwelwyr iechyd yn dadlau eu bod nhw eisiau dychwelyd i'r gwaith ac y gallai'r bwrdd iechyd ddatrys y mater ar unwaith.

Mae Ria Halliday-Stanford o ardal Llantrisant yn fam i ddau. Tri mis oed yw ei mab bach Finley.
Mae hi'n cwestiynu ymroddiad y bwrdd iechyd i famau newydd nid yn unig oherwydd y streic, ond hefyd gan fod uned famolaeth dan arweiniad bydwragedd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg wedi cau dros dro.
"Dwi'n credu bod yna gwestiwn i ofyn os yw'r bwrdd iechyd yn gweld ei bod hi'n bwysig i edrych ar ôl mamau a babanod, os dy'n nhw ddim mo'yn talu'r ymwelwyr iechyd yr hyn maen nhw'n gofyn amdano, a nawr maen nhw'n meddwl am gau uned bydwragedd.
"Pa mor bwysig yw edrych ar ôl mamau a babanod i Gwm Taf Morgannwg?"
Galw ar y llywodraeth i ymyrryd
Wedi chwe mis, mae ymwelwyr iechyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd i ddatrys yr anghydfod.
Mae'r llywodraeth yn dweud eu bod nhw'n cydnabod pryderon y staff sydd ar streic, gan ddweud nad ar chwarae bach y bydden nhw wedi penderfynu gweithredu.
Mae'r gweinidog iechyd a gofal, Mabon ap Gwynfor, wedi trafod y mater gyda chadeirydd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ac Unite, gan ddweud na ddylai'r sefyllfa anffodus yma fod wedi codi yn y lle cyntaf.
Mae'n disgwyl i'r ddwy ochr ddod at ei gilydd i ddod o hyd i ddatrysiad.
Mae hefyd, meddai datganiad gan y llywodraeth, wedi gofyn am sicrwydd fod y bwrdd iechyd yn rheoli risg sy'n deillio o'r streic, ac maen nhw wedi cael sicrwydd fod hynny'n digwydd.

Mae tua 100 o ymwelwyr iechyd ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ar streic ers mis Chwefror
Dywedodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg mai eu "blaenoriaeth yn ystod y cyfnod yma o weithredu diwydiannol yw diogelwch ar argaeledd gwasanaethau i deuluoedd".
"Er mwyn cadw gwasanaethau yn ddiogel a sicrhau ein bod yn gallu cefnogi teuluoedd gydag anghenion mwy cymhleth a brys, mae un pwynt mynediad sengl wedi'i sefydlu.
"Mae hyn yn darparu cyngor a chefnogaeth i deuluoedd gan ein timau ymwelwyr iechyd, gydag ateb i ymholiadau fel arfer o fewn dwy awr."
Mae'r bwrdd iechyd yn dweud hefyd mai dros dro yn unig mae'r uned famolaeth dan arweiniad bydwragedd wedi cau, a hynny o ganlyniad i salwch.
Does dim cysylltiad gyda streic yr ymwelwyr iechyd, meddai'r bwrdd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.