Beiciwr modur wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ym Mhowys

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A4067 ger Crai
- Cyhoeddwyd
Mae beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn ne Powys.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi cael eu galw i wrthdrawiad rhwng car Citroen Berlingo gwyn a beic modur Kawasaki coch ar yr A4067 ger Crai am 11:45 fore Mercher.
Bu farw'r beiciwr modur yn y fan a'r lle er gwaethaf ymdrechion parafeddygon, meddai'r llu.
Mae teulu'r beiciwr modur wedi cael gwybod a'n cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Dywedodd y llu eu bod yn cynnal ymchwiliad i'r gwrthdrawiad, gan annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.