Ysgolion a gwasanaethau'n newid trefniadau wrth baratoi am wres eithafol

Rhybudd cochFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
  • Cyhoeddwyd

Mae ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru yn newid trefniadau wrth i'r wlad baratoi ar gyfer y rhybudd coch cyntaf erioed am wres eithafol.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhagweld y gallai'r tymheredd gyrraedd rhwng 38C a 40C mewn rhai rhannau o dde a chanolbarth Cymru ddydd Mercher a dydd Iau.

Mae ysgolion yn cael eu hannog i asesu'r risgiau i ddisgyblion ac ystyried gohirio neu addasu gweithgareddau awyr agored yn ystod y cyfnod poethaf.

Dywedodd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, fod y rhybudd yn un "difrifol i fywyd" a'i bod yn bwysig bod pobl yn ei gymryd o ddifrif.

Mae'r rhybudd coch mewn grym rhwng 09:00 ddydd Mercher a 21:00 ddydd Iau ar gyfer nifer o siroedd yn ne a chanolbarth Cymru.

Mae rhai ysgolion cynradd yng Nghaerffili a Chaerdydd wedi dweud y byddan nhw'n cau oherwydd y tywydd eithafol.

Mae nifer o gynghorau'n dweud eu bod yn monitro'r sefyllfa ac yn gweithio gydag ysgolion i asesu'r risgiau.

Dywedodd Cyngor Merthyr Tudful fod diwrnodau chwaraeon a theithiau ysgol yn cael eu gohirio neu eu canslo lle bo' modd, gyda llai o weithgarwch corfforol a mwy o egwyliau dŵr yn cael eu trefnu.

Mae'r cyngor hefyd wedi gofyn i ysgolion i ystyried lleihau'r amser y mae disgyblion yn ei dreulio yn yr haul a darparu prydau ysgafnach yn ystod y cyfnod poeth.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi dweud y dylai ysgolion roi "ystyriaeth ddifrifol" i addasu, gohirio neu ganslo digwyddiadau os nad oes modd lleihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r gwres.

Dywedodd Cyngor Bro Morgannwg mai penderfyniad pob ysgol unigol fydd trefnu unrhyw newidiadau i weithgareddau neu oriau agor.

Dyn yn yfed dŵr yn yr haul
Disgrifiad o’r llun,

"Mae 'na gamau sy'n gallu cael eu cymryd er mwyn ein diogelu ni gyd - mae hwn yn rybudd difrifol i fywyd," meddai Rhun ap Iorwerth

Mae nifer o gynghorau hefyd wedi newid trefniadau gwasanaethau er mwyn diogelu staff sy'n gweithio yn yr awyr agored.

Bydd casgliadau gwastraff ac ailgylchu yn dechrau'n gynharach na'r arfer yng Nghaerdydd, Torfaen a Merthyr Tudful yn ystod y cyfnod o wres eithafol.

Mae Cyngor Casnewydd wedi cyhoeddi y bydd Amgueddfa Casnewydd, yr Oriel Gelf a'r Llyfrgell Ganolog yn cau ddydd Mercher a dydd Iau oherwydd y tymheredd uchel a ragwelir.

Mae'r diwydiant rheilffyrdd hefyd yn paratoi ar gyfer problemau posibl oherwydd y gwres, gan gynnwys gwifrau trydan yn sagio, traciau'n ystumio a thanau ar ochr y rheilffordd.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi rhybuddio am darfu ar rai gwasanaethau yn ne Cymru, gan gynnwys rhwng Pontypridd a Bae Caerdydd a rhwng Coryton a Phenarth.

Mae Great Western Railway wedi dweud y bydd yn rhedeg amserlen ddiwygiedig yn ystod y cyfnod o wres eithafol, gan annog pobl i deithio dim ond os yw'n hanfodol ddydd Mercher ac Iau oherwydd y risg y gallai'r gwres effeithio ar y traciau a rhai trenau.

'Cadw llygad ar ein gilydd'

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd Rhun ap Iorwerth fod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp lefel uchel sy'n gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac asiantaethau eraill i gydlynu'r ymateb.

Ychwanegodd fod llythyr wedi'i anfon at gyfarwyddwyr addysg ledled Cymru yn pwysleisio bod plant ymhlith y rhai a all fod yn fregus yn ystod y gwres eithafol.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod cymunedau'n chwarae rhan bwysig wrth edrych ar ôl pobl fregus, gan annog pobl i "gadw llygad ar ein gilydd" yn ystod y cyfnod poeth.

"Mae 'na gamau sy'n gallu cael eu cymryd er mwyn ein diogelu ni gyd - mae hwn yn rybudd difrifol i fywyd," meddai.

Pynciau cysylltiedig