Cynnydd yn nifer y plant sy’n cael eu haddysg gartref

Molly
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Molly, 17, sy'n derbyn ei haddysg gartref, nad yw hi'n teimlo fel ei bod yn "colli allan"

GanMegan Davies
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae nifer y plant sy’n symud at gael eu haddysg gartref wedi cynyddu 17% yng Nghymru yn y flwyddyn ddiwethaf.

Mae ymchwil gan y BBC yn dangos fod awdurdodau lleol Cymru wedi cael gwybod bod teuluoedd mwy na 2,000 o blant yn bwriadu eu haddysgu adref.

Dyma’r lefel uchaf ers cyn 2020-2021.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn “cydnabod hawl rhieni i addysgu” er mai dim ond tua 1% o blant Cymru sydd yn cael addysg yn y ffordd yma.

Yn ôl Wendy Charles-Warner o elusen Education Otherwise mae plant y Deyrnas Unedig yn profi “argyfwng iechyd meddwl” sy’n golygu bod rhieni yn troi at addysgu gartref.

'Dwi ddim yn teimlo fy mod i’n colli allan'

Mae Molly o Sir Ddinbych ymhlith y bobl ifanc sydd wedi cael eu haddysg gartref ers y pandemig.

Penderfynodd Molly a’i theulu ddewis ei haddysgu adref wedi eu profiad o wneud hynny yn ystod pandemig, yn ogystal â’r ffaith ei bod hi wedi cael ei bwlio yn yr ysgol.

“Roedd 'na dipyn o orbryder yn gysylltiedig â mynd i’r ysgol,” meddai.

Dyw Molly ddim wedi gwneud ei harholiadau TGAU. Yn hytrach, mae hi wedi gwneud cyrsiau ar-lein gyda chymorth ei theulu ac mae hi bellach yn rhedeg busnes yn ymwneud â cheffylau.

“O fy mhrofiad o fod yn yr ysgol, dwi ddim yn teimlo fy mod i’n colli allan,” meddai.

Yn ôl Molly, mae dysgu pethau newydd yn ei “gwneud yn hapus” ac mae’r rhyddid i ddarllen ac astudio pethau amrywiol yn gweithio iddi hi a’i theulu.

“Rwy'n meddwl bod llawer o bobl yn edrych lawr ar addysg yn y cartref,” meddai.

“Rwy'n meddwl fy mod wedi cael yr addysg fwyaf boddhaol, ac rwyf wedi dysgu llawer.”

Molly
Disgrifiad o’r llun,

Mae Molly o'r farn fod "llawer o bobl yn edrych lawr ar addysg yn y cartref"

Yn ôl Dr Lowri Jones, darlithydd addysg ym Mhrifysgol Bangor, “dydy addysg o reidrwydd ddim yn golygu eistedd tu ôl i ddesg” yn sgil newidiadau cymdeithasol.

“Mae’r stôr o wybodaeth sydd ar gael ar y we efallai ei gwneud hi’n haws y dyddiau hyn i rieni addysgu eu plant.”

Mae ymchwil y BBC yn dangos bod poblogrwydd addysg yn y cartref wedi cynyddu mewn nifer o ardaloedd yn Lloegr, yn ogystal â’r Alban, tra bod llai o blant yn cael eu haddysgu adref yn ne Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Yn ôl Betsan O'Connor, ymgynghorydd addysg annibynnol, mae amrywiaeth o resymau pam fyddai teulu yn troi at addysg yn y cartref, gan gynnwys ymateb i anghenion arbennig a phenodol y plentyn.

Dywedodd: “Falle bod e’n ddewis cadarnhaol yn y pendraw ond falle taw dewis anorfod yw e i rai rhieni lle bod anghenion eu plant nhw ddim yn cael eu cyrraedd yn yr ysgol.

“Fi’n credu bod rhaid i ni edrych ar bob teulu, pob unigolyn yn eu tro.”

Er i nifer gael profiadau positif yn y cartref, mae Betsan yn dweud bod pryderon am ddiogelu plant yn parhau.

“Yn sicr mae’r un gofidiau oedd yn ein hwynebu ni cyn Covid yn ein hwynebu ni nawr o ran ofnau gyda diogelu plant.”

Addysg gartrefFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tua 1% o blant Cymru sy'n cael eu haddysgu gartref, yn ôl Llywodraeth Cymru

Er i Dr Lowri Jones ddweud nad yw hi'n synnu bod twf yn nifer y plant sydd yn cael eu haddysgu adref, dywed bod angen ystyried goblygiadau hir dymor y newid.

“Os dydy ein plant a phobl ifanc ddim yn derbyn yr addysg orau bosib, be’ ydy effaith hynny ar gyflogadwyedd a’u gallu nhw i fyw a bod mewn cymdeithas yn y dyfodol?

“Un peth, dwi’n meddwl, sydd angen ar fyrder yng Nghymru ydy ymchwil i ddeall y sefyllfa, i fynd dan groen y rhesymau 'ma sydd gan bobl ifanc dros beidio â mynd i’r ysgol.”

'Mynychu ysgol yw'r peth gorau'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai dim ond "tua 1% o blant Cymru" sy’n cael eu haddysgu adref ar hyn o bryd, ac mai'r "peth gorau i bobl ifanc yw mynychu ysgol" yn y mwyafrif llethol o achosion.

“Mae’r llawlyfr i addysgwyr yn y cartref yn rhoi cyngor i rieni a gofalwyr sy’n addysgu yn y cartref, neu sy’n ystyried gwneud hynny.

"Rydyn ni hefyd wedi gweithio gyda phob awdurdod lleol i sicrhau bod modd nodi a chynnig y ddarpariaeth fwyaf priodol ar gyfer pob plentyn.”

Yn ôl Plaid Cymru “mae angen i Lywodraeth Lafur Cymru fynd i’r afael ag addysg, drwy wneud yn siŵr bod ysgolion yn cael eu hariannu i ddarparu’r cymorth sydd ei angen” a “sicrhau yw unrhyw blentyn yn cael ei wthio allan o’r system addysg".

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig eu bod nhw’n parchu hawl y rhiant i ddewis, wrth annog perthynas rhwng y plant sy’n cael eu haddysgu adref gydag ysgolion a'r gymuned.

Pynciau cysylltiedig