Cadeirio'r prifardd fydd prif seremoni'r Eisteddfod ddydd Gwener

- Cyhoeddwyd
Fe fydd enillydd cadair Eisteddfod y Garreg Las yn cael ei gyhoeddi brynhawn Gwener, os bydd teilyngdod.
Beirniaid y gystadleuaeth eleni yw Idris Reynolds, Mererid Hopwood a Carwyn Eckley - enillydd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.
Roedd gofyn i ymgeiswyr gyfansoddi awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol - hyd at 250 o linellau ar y testun Llinell/Llinellau.
Mae'r gadair yn rhoddedig eleni gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a'r wobr o £750 yn rhoddedig gan Geraint a Siân James, Siop Awen Teifi, Aberteifi.

Y crefftwr, Tomos Lewis sy'n gyfrifol am gynllunio a chreu'r gadair
Tomos Lewis, sy'n wreiddiol o Langlydwen, oedd yn gyfrifol am gynllunio a chreu'r gadair.
Daw'r coed, y defnydd ar gyfer y glustog a charreg y Nod Cyfrin o ddalgylch Eisteddfod y Garreg Las, a bu hanes a diwylliant yr ardal yn ysbrydoliaeth fawr i Tomos Lewis wrth iddo fynd ati i gynllunio.
Dywedodd: "Mae blaen y gadair wedi'i ysbrydoli gan gadair yr Arglwydd Rhys, sydd i'w gweld yng Nghastell Aberteifi. Gosodir y rhifau 2026 allan yn union fel y rhifau 1176 â siâp sgwâr cadarn.
"Mae cefn y gadair wedi'i greu drwy uno tri darn o bren i gynrychioli'r siroedd Penfro, Ceredigion a Chaerfyrddin, sef dalgylch Eisteddfod y Garreg Las."
Mae'r crefftwr gweithio fel athro Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Caer Elen, Hwlffordd, ac yn rhedeg busnes sy'n arbenigo mewn crefftwaith pren a gwaith ysgythru.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
