Cymraes yn creu hanes wrth ennill pedair medal aur yng Ngemau'r Gymanwlad

Cafodd Finucane fedal aur ar bedwar diwrnod yn olynol yn Glasgow
- Cyhoeddwyd
Mae Cymraes wedi creu hanes trwy ddod y seiclwr sbrint gyntaf i ennill pedair medal aur trac yn yr un Gemau'r Gymanwlad.
Ychwanegodd Emma Finucane fuddugoliaeth yn y gystadleuaeth keirin at ei medalau aur yn y ras sbrint tîm, y sbrint unigol a'r treial amser 1,000m.
Cafodd y ddynes 23 oed fedal aur ar bedwar diwrnod yn olynol yn Glasgow, a thair oedd y record flaenorol.
Hi yw athletwraig fwyaf llwyddiannus Cymru yn hanes y gemau, ar ôl pasio Olivia Breen, a oedd wedi dal y record am ddau ddiwrnod.
Enillodd Finucane fedal rhif 31 i Gymru yn y gemau, gan ychwanegu at y cyfanswm o naw medal aur, 10 arian a 12 efydd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf
