Cyn-ddisgyblion uned yng Ngwynedd yn sôn am gamdriniaeth a gorfod bwyta bisgedi cŵn

Rhiannon Evans
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rhiannon Evans ei hanfon i Ganolfan Brynffynnon pan yn 10 oed

GanGareth Wyn Williams
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae dau gyn-ddisgybl wedi disgrifio sut yr oedd staff mewn uned addysgol yng Ngwynedd wedi gorfodi disgyblion cynradd i fwyta bisgedi cŵn oddi ar y llawr, a chicio peli "caled" tuag atyn nhw er mwyn cael hwyl.

Pan yn 10 oed cafodd Rhiannon Evans, sydd bellach yn 27 oed, ei hanfon i Ganolfan Brynffynnon yn Y Felinheli, Gwynedd. Roedd Levi Lewis, 21, ond yn bedair oed.

Mae'r ddau wedi cytuno ar setliad o £10,000 gyda Chyngor Gwynedd yn sgil yr honiadau o'r gamdriniaeth y wnaethon nhw ei dioddef gan staff.

Maen nhw ymhlith dros 20 o bobl sy'n ceisio sicrhau hawliadau drwy gyfreithiwr, sydd hefyd yn galw am ymchwiliad cyhoeddus i ystyried rheolaeth y cyngor dros ysgolion.

Mae Cyngor Gwynedd wedi cydnabod bod camdriniaeth wedi digwydd yn y ganolfan ac wedi ymddiheuro i'r dioddefwyr.

Mae dau gyn-aelod o staff yr honnir eu bod yn gysylltiedig â'r gamdriniaeth wedi gwadu'r honiadau'n gryf.

Ffens o flaen yr unedFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhiannon yn cwestiynu os ydy'r holl blant yng Ngwynedd yn ddiogel yn sgil yr honiadau'n ymwneud â Chanolfan Brynffynnon

Wedi agor yn 1998 roedd y ganolfan yn Y Felinheli yn uned addysgol ar gyfer plant gydag anghenion ymddygiad ac emosiynol.

Ond fe gaeodd yn 2014 yn dilyn honiadau o gamdriniaeth gan staff.

Cafodd Rhiannon Evans o Gaernarfon ei hanfon i'r ganolfan yn 2008.

Dywedodd ei bod yn cael "problemau ymddygiad" a oedd, yn ei barn hi, yn deillio o fwlio yn yr ysgol gynradd am ei bod wedi'i maethu gan ei nain a'i thaid ac am fod ei bywyd "yn wahanol i un pawb arall".

"O'r eiliad wnes i gyrraedd Brynffynnon, roeddwn i'n teimlo fel peasant," meddai.

"Bob dydd roedd 'na rywbeth yn digwydd... o blant yn cael eu llusgo lawr coridor i blant yn cael eu gorfodi i fwyta bisgedi cŵn oddi ar y llawr.

"Dwi'n cofio un digwyddiad lle cafodd bisged eu taflu ar y llawr a wnaethon nhw ddweud wrtha'i i'w bwyta… Dwi'n cofio'r union fisged, un siocled Bourbon."

Ar achlysur arall, "dim ond er mwyn eu difyrrwch", dywedodd bod staff wedi tywallt peint o sudd blackcurrant dros ei phen.

"Roeddwn i'n drewi drwy'r p'nawn, es i adra a chefais fy rhoi yn syth yn y bath gan nain. Ond roedd yr arogl yn aros am ddyddiau."

Dywedodd Rhiannon fod plant a oedd yn gwneud cynnydd yn yr uned yn cael ail-ymweld â'u hysgolion arferol.

Ond os roedden nhw'n cael adroddiadau gwael yn eu prif ysgol, "roedden ni'n aml yn cael ein cosbi pan yn ôl yn yr uned".

"Fasa hynny'n gallu golygu cael ein cloi mewn ystafell folchi gyda'r golau i ffwrdd," meddai.

"Ac yna byddan nhw'n pentyrru teiars ar ein cyrff gyda dim ond ein pennau'n edrych allan, ac yna'n cicio pêl-droed tuag aton ni, a honno'n bêl caled."

Rhiannon EvansFfynhonnell y llun, Rhiannon Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae atgofion Rhiannon o'i phlentyndod yn cael eu heffeithio gan ei phrofiadau negyddol yn ystod y cyfnod yma meddai

Dywedodd hefyd fod plant yn cael eu gorfodi i sefyll yn yr iard, "a bydden nhw'n anelu'r pêl-droed at ein pen-ôl".

"Alla'i dal deimlo'r boen o'r bêl galed honno'n taro fy mhen-ôl."

Gan edrych yn ôl, dywedodd Rhiannon ei bod yn "blentyn diniwed oedd yn derbyn dedfryd o garchar".

Hyd heddiw, mae'n dioddef "trawma emosiynol".

Gall hyd yn oed baratoi diod sbarduno atgofion o gael sudd wedi'i dywallt drosti, tra gall plentyn yn chwarae pêl-droed yn y stryd ei hatgoffa o gael ei defnyddio fel targed yn iard Brynffynnon.

"Dydw i ddim yn credu y gellir dadwneud y difrod hwnnw, byth. Bydd y trawma emosiynol hefo fi am byth."

Pan ofynnwyd a oedd hi'n credu os oedd plant yng Ngwynedd yn ddiogel heddiw, dywedodd: "Na. Gyda'r holl achosion yma sy'n digwydd, sut 'da ni i wybod faint o bethau arall alla' fod yn digwydd tu ôl i ddrysau caeedig?"

Ychwanegodd: "Dwi'n gobeithio y bydd hyn yn eu deffro a dwi'n gobeithio bod ein straeon o'r uned... yn codi digon o ymwybyddiaeth i sicrhau bod pethau'n cael eu gwneud a chamau'n cael eu cymryd o hyn ymlaen.

"Fe wnaethon nhw ein siomi'n ddigon... mae'n amser am newid."

Y llynedd, plediodd Rhiannon yn euog i ymddygiad oedd yn gyfystyr â chreulondeb tuag at gyn-bartner ei chariad, gan arwain at orchymyn atal o ddwy flynedd.

"Mi wnes i gamgymeriad, dwi'n difaru rŵan.

"Mae fy mhlentyndod chwerw yn golygu nad oeddwn i bob amser yn gwneud y penderfyniadau gorau fel oedolyn."

Levi Lewis
Disgrifiad o’r llun,

"Roedd yn teimlo fel ysgol normal, ond yna dechreuodd pethau ddigwydd," meddai Levi

Roedd Levi Lewis, 21, o Fangor, yn bedair oed pan gafodd ei anfon o'r feithrinfa i Ganolfan Brynffynnon yn 2009.

Fe arhosodd yno tan i'r ganolfan gau yn 2014.

Roedd wedi ei gyfeirio yno oherwydd ei ymddygiad, a oedd, meddai, yn "afreolus, yn uchel ei lais, a chefais i ddim diagnosis o ADHD tan oeddwn i'n naw oed a wedi gadael Brynffynnon".

"Yn y misoedd cyntaf roedd popeth yn iawn," meddai.

"Roedd yn teimlo fel ysgol normal, ond yna dechreuodd pethau ddigwydd.

"Y peth cyntaf dwi'n ei gofio yw cael fy ngorfodi i fwyta bisgedi cŵn, ac o hynny ymlaen fe aeth pethau'n waeth."

Dywedodd ei fod yn cofio cael ei lusgo lawr coridor wrth ei wallt, ac, fel Rhiannon, cael ei gadw mewn toiled tywyll "am oriau".

Aeth y "cosbau" yn waeth.

"Os oeddwn i'n camymddwyn, bydden nhw'n mynd â fi i'r swyddfa, weithiau yn y dosbarth o flaen pawb, a bydden nhw'n taro fy nhrwyn mor galed nes iddo ddechrau gwaedu'n drwm.

"Dwi'n dal i gael problemau gyda fy nhrwyn yn gwaedu."

LeviFfynhonnell y llun, Levi Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Levi ofn peli troed yn sgil ei brofiadau yn yr uned

Ychwanegodd Levi: "Roedd ganddyn nhw'r gêm ryfedd yma lle roedden nhw'n gwneud i blant llai sefyll mewn gôl ac yna taflu peli yn galed aton ni.

"Ac roedd hynny'n cael ei ystyried yn gêm, nid cosb. Roeddwn i ofn pêl-droed am flynyddoedd wedyn.

"Pan oeddwn tua 11 neu 12 oed, bron bob nos, yn deffro mewn chwys oer ar ôl hunllef am un o'r pethau a wnaethon nhw i mi."

Dywedodd Levi nad yw'n credu bod plant yng Ngwynedd yn ddiogel.

Fe gytunodd yn ddiweddar ar setliad o £10,000, ond dywedodd y byddai'n "rhoi'r arian hwnnw er mwyn cael gweld y bobl hynny o flaen eu gwêl."

Hyd heddiw, mae'n dal i ddioddef "ymosodiadau panig, gorbryder a phroblemau ymddiriedaeth".

"Mae gen i ffordd o ymdopi hefo nhw, ond dwi'm yn credu ca'i byth wared arnyn nhw".

Llun yr heddlu o Neil Foden yn y ddalfaFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mewn achos ar wahân fe gafodd y pedoffeil, Neil Foden ei garcharu am 17 mlynedd yn 2024 - mae galw am ymchwiliad cyhoeddus yn sgil ei achos yntau a'r honiadau'n ymwneud â Chanolfan Brynffynnon

Yn 2016 fe ollyngwyd cyhuddiadau o greulondeb tuag at blant ar ddau aelod o staff Canolfan Brynffynnon.

Roedd y ddau ddyn yn wynebu 50 o gyhuddiadau rhyngddynt.

Ond dywedodd Heddlu Gogledd Cymru, wrth i dystiolaeth gael ei chasglu, fod "Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi adolygu'r holl wybodaeth oedd ar gael, a phenderfynu nad oedd yr achos bellach yn cyrraedd y trothwy ar gyfer erlyniad troseddol".

Mewn achos troseddol, rhaid i erlynwyr brofi achos y tu hwnt i amheuaeth resymol.

Mewn achos sifil am iawndal, mae'r lefel o brawf sydd ei angen yn is - ar sail tebygolrwydd.

Mae'r ddau ddyn yn parhau i wadu'r honiadau'n gryf ac wedi tynnu sylw at y ffaith i'r achos troseddol gael ei ollwng.

Mewn achos ar wahân, cafodd y pedoffeil Neil Foden ei garcharu am 17 mlynedd yn 2024 ar ôl cael ei gael yn euog o gam-drin pedair merch dros gyfnod o bedair blynedd.

Roedd Foden wedi bod yn bennaeth ar ddwy ysgol arall yng Ngwynedd, gydag adolygiad wedi canfod dros 50 o "gyfleon a gafodd eu colli" i ymyrryd.

Mae'r cyfreithiwr sy'n gweithredu ar ran Rhiannon a Levi, Katherine Yates, hefyd yn cynrychioli rhai o ddioddefwyr Foden.

"Rwy'n credu bod angen ymchwiliad cyhoeddus," meddai.

"Dydy Canolfan Brynffynnon ddim yn achos unigryw. Mae'n dod yn syth ar ôl achos Neil Foden.

"Pwy a ŵyr beth arall sydd heb ddod i'r fei? Faint o sgerbydau eraill sy'n cuddio yn y cypyrddau?

"Dydw i ddim yn credu y dylai Gwynedd farcio ei gwaith ei hun.

"Rydym angen gwybod beth ddigwyddodd, pam y digwyddodd, pwy sy'n gyfrifol, a sut i atal hyn rhag digwydd eto."

Dywedodd Ms Yates ei bod yn gweithredu ar ran 21 o hawlwyr, ac mae saith achos eisoes wedi'u setlo.

'Cydymdeimlo ac yn  ymddiheuro wrthynt'

Mewn datganiad fe wnaeth Cyngor Gwynedd gydnabod bod "disgyblion wedi cael eu cam-drin," gan ychwanegu: "Dylai pob plentyn a pherson ifanc fod yn ddiogel tra'n derbyn addysg ac mae unrhyw gamdriniaeth, heddiw neu yn y gorffennol, yn fater difrifol iawn.

"Ni ddylai unrhyw blentyn oddef camdriniaeth o unrhyw fath, ac er fod yr achosion hyn yn mynd yn ôl rhai blynyddoedd bellach, rydym ni heddiw yn cydymdeimlo gyda'r dioddefwyr ac yn  ymddiheuro wrthynt."

Ychwanegon nhw bod "adolygiad newydd o'r holl gamau a gymerwyd bryd hynny eisoes wedi ei gomisiynu gan y Cyngor er mwyn sicrhau fod unrhyw wersi a ddysgwyd ar y pryd yn parhau i gael eu gweithredu heddiw.

"Tra na allwn wneud sylw ar faterion cyflogaeth sy'n ymwneud ag aelodau o staff na chyn-aelodau o staff, rydym yn cydnabod fod yr achos hwn wedi cymryd cyfnod annerbyniol o hir ac yn ymddiheuro am hynny.

"Er fod amgylchiadau cymhleth ac unigryw yr achosion wedi cyfrannu at yr oedi, dylai'r materion hyn fod wedi cael eu datrys yn llawer iawn cynt.

"Erbyn heddiw, mae pob agwedd o drefniadau diogelu plant yng Ngwynedd wedi eu hadolygu'n llwyr a'u cryfhau yn unol ag argymhellion adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder a gyhoeddwyd yn 2025.

"Bydd hyn yn parhau yn brif flaenoriaeth i Gyngor Gwynedd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig