Rhybudd am brinder cneifwyr os daw fisâu tramor i ben

Mae'r diwydiant yn rhybuddio y gallai prinder cneifwyr effeithio ar les defaid
- Cyhoeddwyd
Mae galwad ar Lywodraeth y DU i beidio â rhwystro timau o gneifwyr defaid o Seland Newydd ac Awstralia rhag dod i Brydain i weithio yn y dyfodol.
Eleni fydd y tro olaf i gneifwyr tramor gael fisâu i weithio yma o dan y cynllun presennol.
Mae'r llywodraeth yn dweud eu bod am weld y gwaith yn cael ei wneud gan weithwyr o Brydain, ond mae arbenigwyr yn y maes yn rhybuddio nad oes digon o gneifwyr proffesiynol yma i ateb y galw.
Maen nhw'n dadlau y gallai'r newid gael effaith ar les anifeiliaid a'r diwydiant defaid.

Dywedodd Gareth Jones o'r corff Gwlân Prydain fod cneifwyr tramor yn chwarae rhan hanfodol yn y diwydiant
Dros ddegawdau mae cneifwyr o Awstralia a Seland Newydd wedi bod yn dod i Brydain i gneifio, tra bod cneifwyr o Brydain, gan gynnwys nifer o Gymru, wedi gweithio yn hemisffer y de.
Roedd Llywodraeth y DU wedi bwriadu dod â'r cynllun fisâu i ben eleni, ond rhoddwyd estyniad o flwyddyn iddo.
Mae'r llywodraeth yn dadlau nad yw'r cneifwyr o dramor yn dod o dan y diffiniad o 'weithwyr crefftus'.
Mae tua 75 o gneifwyr tramor yn dod i Brydain bob blwyddyn ac, yn ôl Gareth Jones, llefarydd ar ran Gwlân Prydain - y corff sy'n cynrychioli'r diwydiant gwlân - maen nhw'n chwarae rhan hanfodol yn y diwydiant.
Dywedodd: "'Dan ni gyd yn gwybod y sialens 'dan ni'n ei chael efo'r tywydd yng ngwledydd Prydain felly mae'n hollbwysig bo' ni'n gallu cneifio'r defaid ar yr amser iawn...
"Mae'n hollbwysig i les yr anifeiliaid, ac mae gan y cneifwyr o dramor ran bwysig yn hyn i gyd."
Mae dros wyth miliwn o ddefaid ac ŵyn yng Nghymru, yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025, ac mae angen eu cneifio i helpu atal cynrhon ac afiechydon eraill.
Mae'r 75 o gneifwyr sy'n dod i Brydain o dramor bob blwyddyn, am gyfnod o tua thri mis, yn gallu cneifio hyd at 300 o ddefaid y dydd, gan gneifio degau o filoedd o ddefaid dros gyfnod y tymor.

Mae un o bencampwyr y byd cneifio, Gwion Lloyd Evans, yn dweud bod y grefft yn cymryd blynyddoedd i'w meistroli
Mae Gwion Lloyd Evans o Fylchau ger Dinbych yn gneifiwr proffesiynol ers 15 mlynedd ac enillodd deitl Pencampwr Cneifio'r Byd yn 2023.
Dywedodd nad yw'r llywodraeth yn deall pa mor anodd yw'r gwaith.
"'Swn i'n licio gweld nhw'n trio ei wneud o," meddai.
"Mae'n waith caled ac yn cymryd llawer o amser i berffeithio'r grefft.
"Nid pawb ellith gerdded i drelar defaid a dal dafad i ddechrau."
Ychwanegodd nad oedd yn deall pam fod angen newid y rheolau gan fod cneifwyr o Brydain, Seland Newydd ac Awstralia yn talu treth yn y gwledydd lle maen nhw'n gweithio.
"Maen nhw'n dod yma ac yn cyfrannu i'n diwydiant ni.
"Dwi'm yn gweld be' 'di'r broblem, i fod yn onest."
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref fod y sector defaid wedi cael cefnogaeth dros 14 blynedd i hyfforddi cneifwyr o Brydain er mwyn lleihau'r ddibyniaeth ar weithwyr tramor.
Dywedodd fod yr estyniad diweddaraf yn un terfynol a bod disgwyl i'r sector gwblhau'r broses o ddod yn hunangynhaliol gyda gweithwyr o Brydain.
Cneifiwr o Gymru ar y brig yn Seland Newydd am y tro cyntaf mewn degawd
- Cyhoeddwyd28 Ionawr
Cymru ar frig y byd cneifio
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2023
'Ansicrwydd' yn rheswm dros beidio ag ymuno â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
- Cyhoeddwyd2 Mehefin
Dywed Gwlân Prydain eu bod yn cynnig cyrsiau cneifio i tua 900 o bobl bob blwyddyn, ond bod y rhan fwyaf ohonyn nhw'n berchen ar ffermydd bach neu'n ffermwyr sydd am gneifio eu defaid eu hunain.
Dim ond tua 5% o'r rhai sy'n cael hyfforddiant sy'n mynd ymlaen i fod yn gneifwyr proffesiynol.
Er bod Llywodraeth y DU yn dweud na fydd y fisâu ar gael o'r flwyddyn nesaf ymlaen, mae Gwlân Prydain yn gobeithio y bydd y penderfyniad yn cael ei ailystyried.
"Nawn ni barhau i weithio efo partneriaid ac, yn amlwg, efo'r llywodraeth i geisio cael consesiwn ar gyfer y blynyddoedd nesaf hefyd," meddai Gareth Jones o Gwlân Prydain.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.