Prawf mawr cyntaf llywodraeth newydd Cymru wrth gyhoeddi cyllideb atodol

Elin Jones yn 2024Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elin Jones eisoes wedi rhybuddio am benderfyniadau "anodd iawn" i allu ariannu addewidion maniffesto

GanRhodri Lewis
Gohebydd gwleidyddol BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Bydd llywodraeth newydd Cymru yn cyhoeddi eu cyllideb atodol ddydd Mawrth, ar ôl clustnodi cannoedd o filiynau o bunnoedd eisoes ar gyfer y gwasanaeth iechyd a gofal plant.

Dyma'r prawf mawr cyntaf i Blaid Cymru ers yr etholiad fis Mai, gan y bydd angen iddyn nhw daro bargen gyda phlaid arall o fewn tair wythnos i gael y cynlluniau drwy'r Senedd.

Mae gweinidogion wedi etifeddu pot o £118m o gyllid ar gyfer prosiectau seilwaith.

Eisoes mae'r gweinidog cyllid, Elin Jones, wedi rhybuddio am benderfyniadau "anodd iawn" i allu ariannu addewidion maniffesto.

Yn ôl y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth mae'r gyllideb atodol yn broses sy'n "dechra' dangos lle ydan ni'n blaenoriaethu'r hyn roddon ni ger bron pobol Cymru" yn yr ymgyrch etholiadol.

"Proses dechnegol i raddau ydi hon o sicrhau bod y dyrannu yna'n gallu mynd i alinio rŵan cyllideb llywodraeth efo blaenoriatha' llywodraeth newydd," dywedodd wrth raglen Dros Frecwast.

Etifeddu £422m

Yn ôl melin drafod annibynnol y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol (IFS), tybir bod gweinidogion wedi etifeddu tua £422m ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd, sy'n cynnwys cyllid heb ei ddyrannu o'r gyllideb gyfredol a £322m ychwanegol yn deillio o ddatganiad y gwanwyn gan Lywodraeth y DU.

Mae yna hefyd £118m sydd heb ei ddyrannu ar gyfer gwariant seilwaith, a ddisgrifiwyd ar y pryd fel "wy aur".

Mae cynlluniau eisoes wedi cael eu cyhoeddi i ddefnyddio £100m o gyllid dyddiol i geisio lleihau rhestrau aros y gwasanaeth iechyd, ochr yn ochr â £25m o'r pot seilwaith ar ganolfannau llawfeddygol a £20m ar gynnal a chadw.

Bydd £55m pellach yn mynd tuag at ehangu gofal plant i fwy o blant dwy oed.

Bydd £15m yn mynd tuag at ddarparu mwy o brydau ysgol am ddim i fyfyrwyr mewn ysgolion uwchradd, gan gynnwys £10m i wella ceginau a ffreuturau.

Senedd CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Plaid Cymru chwe sedd yn brin o fwyafrif, felly bydd angen iddyn nhw daro cytundeb er mwyn i'w cynlluniau basio'r Senedd

Mae Plaid Cymru wedi bod o dan bwysau i egluro sut y bydd yn talu am ei pholisi canolog i ehangu gofal plant am ddim i bob plentyn rhwng naw mis a phedair oed, a fydd, yn ôl y llywodraeth, yn costio £400m y flwyddyn erbyn diwedd y Senedd hon yn 2030.

Efallai y bydd cynlluniau ddydd Mawrth hefyd yn rhoi rhyw arwydd o ble mae'r llywodraeth newydd wedi penderfynu torri cyllid.

Mae Elin Jones eisoes wedi rhybuddio am gyfaddawdau anodd.

Dywedodd cynrychiolwyr Plaid Cymru yn ystod yr ymgyrch etholiad y mis diwethaf y byddai'n ailflaenoriaethu rywfaint o'r £7bn a wariodd y llywodraeth Lafur ddiwethaf ar fynd i'r afael â thlodi plant i dalu am y cynnig gofal plant.

Mae cyllideb atodol yn cael ei defnyddio gan lywodraeth i wneud newidiadau yn ystod y flwyddyn i'r cynlluniau gwariant presennol.

Tra'n un o'r gwrthbleidiau, roedd Plaid wedi dweud y bydden nhw yn cyflwyno un o fewn eu 100 diwrnod cyntaf pe bawn nhw'n ennill etholiad y Senedd.

Pasiwyd y gyllideb gyfredol ar gyfer 2026-27 ym mis Ionawr, ar ôl i Blaid wneud cytundeb â Llywodraeth Cymru - oedd o dan reolaeth Llafur ar y pryd.

Ond mae'r IFS wedi rhybuddio y gallai'r gwasanaeth iechyd wynebu toriadau real (real-term cuts), oni bai bod yr holl gyllid ychwanegol sydd ar gael o ddydd i ddydd yn cael ei ddyrannu i'r sector.

Mae Plaid chwe sedd yn brin o fwyafrif, felly bydd angen iddyn nhw daro cytundeb er mwyn i'w cynlluniau basio'r Senedd.

Dywed llefarydd cyllid Llafur, Huw Thomas bod y blaid yn "bryderus" sut y bydd y llywodraeth yn gwario'r £322m o arian canlyniadol yn sgil cynlluniau gwariant llywodraeth San Steffan ar addysg anghenion arbennig.

Mae Llafur, meddai, yn cefnogi galwadau cynghorau sir ac undebau athrawon i ysgolion dderbyn yr arian.

Awgrymodd llefarydd cyllid Reform Cymru, Cai Parry-Jones hefyd bod disgwyl i'r llywodraeth "gymryd arian wedi ei glustnodi ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol tra'n parhau i anfod arian trethdalwyr dramor".

Mae Reform wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am gefnogi mentrau tramor gan gynnwys cynlluniau plannu coed yn Affrica.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth fore Mawrth fod yr "arian penodol yma'n ymwneud â dyled hanesyddol yn Lloegr nad oes ganddon ni yma yng Nghymru".

Ychwanegodd na fyddai'r taliad "one-off" yma yn rhoi'r "atebion hir dymor" y mae'r maes ei angen, a bod ei lywodraeth "yn benderfynol" o wneud hynny maes o law.

Pwysleisiodd hefyd nad yw torri gwariant ar feysydd eraill yn rhan o'r broses wrth ddyrannu arian ar gyfer prosiectau arbennig o fewn y flwyddyn ariannol, a bydd materion felly'n rhan o'r gyllideb lawn tua diwedd y flwyddyn.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.