Dim campfa? Dim problem... tips ffitrwydd i'w gwneud yn y tŷ
Tips ffitrwydd ar gyfer ymarfer yn y tŷ
- Cyhoeddwyd
Mae cadw'n ffit drwy wneud ymarfer corff yn gallu bod yn anodd, gyda diffyg amser yn gallu profi'n heriol i unigolion prysur.
Gall hefyd fod yn anodd i bobl hŷn, i bobl sydd heb ddealltwriaeth o'r byd ffitrwydd, ac i bobl sydd ag anableddau corfforol.
Dau sydd wedi arfer ar hyfforddi pobl o alluoedd a chryfderau gwahanol yw Jac Wyn Williams a Chrissy Chilcott.
Mae Jac, sy'n wreiddiol o Fachynlleth, yn pwysleisio'r buddiannau o gadw'n heini ar gyfer ansawdd bywyd yn hwyrach mewn bywyd. Ac mae Chrissy yn pwysleisio fod angen cryfder er mwyn gwneud pethau ymarferol o ddydd i ddydd.
Y prif neges gan y ddau yw bod angen cadw'r corff i fynd, a gwneud beth sy'n ymarferol bosib, heb wthio'r corff yn ormodol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2023

- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2023
